Agor y brif ddewislen

Roedd Benito Amilcare Andrea Mussolini (29 Gorffennaf 1883 - 28 Ebrill 1945) yn wleidydd Eidalaidd ddaeth yn arweinydd plaid y Ffasgwyr yn yr Eidal pan y'i ffurfiwyd yn 1919. Daeth yn brifweinidog yr Eidal yn 1922. Rheolodd y wlad fel unben. Yn 1940 ymunodd yr Eidal dan arweinyddiaeth Mussolini yn yr Ail Ryfel Byd ar ochr Adolf Hitler. Fe'i lladdwyd gan wrthryfelwyr Eidalaidd yn Ebrill 1945.

Benito Amilcare Andrea Mussolini
Benito Mussolini


Cyfnod yn y swydd
31 Hydref 1922 – 25 Gorffennaf 1943
Rhagflaenydd Luigi Facta
Olynydd Pietro Badoglio

Geni 29 Gorffennaf 1883
Predappio, Emilia-Romagna
Marw 28 Ebrill 1945
Giulino di Mezzegra, Lombardia
Plaid wleidyddol Partito Nazionale Fascista
Priod Rachele Mussolini

HanesGolygu

Dechreuodd Mussolini ar ei yrfa wleidyddol fel sosialydd brwd, ond cefnogodd ymuno'r Eidal yn y Rhyfel Byd Cyntaf a chafodd ei fwrw allan o Blaid Sosialaidd mewn canlyniad yn 1915. Yn 1919 ffurfiodd y Fasci di combattimento (Y Crysau Duon). Daeth i rym ar ôl arwain ymdaith y Crysau Duon i Rufain yn 1922. Bu'n brif weinidog hyd 1924 pan lofruddwyd Giacomo Matteoti a datganodd ei hun yn unben ar yr Eidal dan y teitl Il duce ('Yr Arweinydd').

Fel Il duce roedd ei lywodraeth yn mwynhau cefnogaeth boblogaidd ar y dechrau. Cyflwynodd raglenni o waith cyhoeddus, gosododd drefn ar y wlad yn dilyn anhrefn ac ansicrwydd y cyfnod ôl-Ryfel, a adferodd freintiau'r Eglwys Gatholig Rufeinig. Dyma'r dyn "a wnaeth y trenau redeg ar amser". Cododd sawl adeilad a chofeb rhwysgfawr yn yr arddull Neo-Glasurol, wedi'u ysbrydoli gan 'fawredd' yr Ymerodraeth Rufeinig. Ond roedd yn llawdrwm iawn ar unrhyw wrthwynebiad gwleidyddol hefyd a dioddefodd nifer o Eidalwyr am eu daliadau dan ei lywodraeth a chreulondeb brwnt y Crysau Duon.

Ceisiodd ymestyn grym yr Eidal a sefydlu ei hawdurdod yn Affrica. Anfonodd fyddin i oresgyn Ethiopia yn 1935. Yn 1936 ffurfiodd gynghrair gydag Adolf Hitler a'r Natsïaid a alwyd yn Echel Rhufain-Berlin. Yn 1939 cipiodd Albania a phan dorrodd yr Ail Ryfel Byd allan cyhoeddodd ryfel yn erbyn Prydain a Ffrainc ym Mehefin 1940. Ond roedd y rhyfel yn drychinebus i'r Eidal a chafwyd colledion mawr yng Libia, Corn Affrica a Gwlad Groeg. Pan oresgynodd y Cynghreiriaid ynys Sisili yn 1943, gorfodwyd Mussolini i ymddeol o rym gan Gyngor Mawr y Blaid Ffasgaidd. Ffoes o Rufain i ogledd yr Eidal lle sefydlodd weriniaeth ffasgaidd newydd dan nawdd yr Almaenwyr. Cafodd ef a'i fistres Clara Petacci eu dal gan y partisanwyr a'u dienyddio. Crogwyd eu cyrff mewn sgwar ym Milan cyn eu claddu. Roedd unbennaeth Mussolini ar ben.

Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Luigi Facta
Prif Weinidog yr Eidal
31 Hydref 192225 Gorffennaf 1943
Olynydd:
Pietro Badoglio