Max Bruch
Cyfansoddwr clasurol ac arweinydd cerddorfaol oedd Max Christian Friedrich Bruch a adnabyddir hefyd fel Max Karl August Bruch (6 Ionawr 1838 - 2 Hydref 1920).[1][2]
Max Bruch | |
---|---|
Ganwyd | Max Christian Friedrich Bruch 6 Ionawr 1838 Cwlen |
Bu farw | 2 Hydref 1920 Friedenau, Berlin |
Dinasyddiaeth | yr Almaen |
Addysg | Doethuriaeth mewn Cerddoriaeth |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, arweinydd, athro |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Scottish Fantasy |
Arddull | opera, symffoni |
Priod | Clara Tuczek |
Plant | Max Felix Bruch |
Gwobr/au | Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Humboldt, Berlin, Urdd Maximilian Bafaria am Wyddoniaeth a Chelf, Pour le Mérite |
Cafodd ei eni yng Nghwlen, yr Almaen. Cantores oedd ei fam, Wilhelmine (née Almenräder), a chyfreithiwr oedd ei dad, August Carl Friedrich Bruch, a dfdaeth yn ddiweddarach yn bennaeth Heddlu Cwlen.[3]
Gwaith cerddorol
golyguCyfansoddodd dros 200 o weithiau, gan gynnwys tri concerto i'r fiolin, sy'n cael ei derbyn fel un o'r gweithiau mwyaf i'r offeryn.
- Concerto i feiolin rhif 1 (1868)
Gyrfa
golyguBu'n dysgu cerdd am flynyddoedd, a dysgodd sut i arwain cerddorfa ac aeth o un swydd i swydd arall, weithiau'n dysgu, weithiau'n cyfansoddi, yn bennaf yn yr Almaen: Mannheim (1862–1864), Koblenz (1865–1867), Sondershausen, (1867–1870), Berlin (1870–1872), a Bonn, ble treuliodd 1873–78 yn gweithio'n breifat. Ar anterth ei yrfa, treuliodd dair blynedd gyda'r Royal Liverpool Philharmonic (1880–83). Rhwng 1890 a'i ymddeoliad yn 1910 dysgodd ym Mhrifysgol Berlin (Berlin Hochschule für Musik): cyfansoddi serddorol.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Alfons Ott. "Bruch, Max Karl August". Deutsche Biographie. Cyrchwyd 23 August 2015.
- ↑ Encyclopædia Britannica
- ↑ Fifield, Christopher (2005). Max Bruch: His Life and Works. Boydell Press. Cyrchwyd 20 Mai 2015.