May Gorslin Preston Slosson
Ffeminist Americanaidd oedd May Gorslin Preston Slosson (10 Medi 1858 - 26 Tachwedd 1943) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel addysgwr, pennaeth ysgol, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched a swffragét. Hi oedd y fenyw gyntaf i ennill gradd doethur mewn athroniaeth yn Unol Daleithiau America.
May Gorslin Preston Slosson | |
---|---|
Ganwyd | May Gorslin Preston 10 Medi 1858 Ilion |
Bu farw | 26 Tachwedd 1943 Ann Arbor |
Man preswyl | Hillsdale, Ithaca, Hastings, Sabetha, Laramie, Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | addysgwr, pennaeth, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, athronydd |
Cyflogwr |
|
Priod | Edwin Emery Slosson |
Fe'i ganed yn Ilion, Efrog Newydd a bu farw yn Ann Arbor, Michigan. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Goleg Hillsdale a Phrifysgol Cornell. Bu'n briod i Edwin Emery Slosson.[1][2]
Magwraeth a choleg
golyguRoedd Mai Gorslin Preston yn ferch i'r Parchedig Levi Campbell Preston a Mary Gorslin. Symudodd ei theulu i Kansas o Dalaith Efrog Newydd.[3] Enillodd raddau Baglor mewn gwyddoniaeth (1878) a Meistr mewn gwyddoniaeth (1879) o Goleg Hillsdale ym Michigan.[4] Yn 1880 hi oedd y fenyw gyntaf i ennill Ph.D. o Brifysgol Cornell, a'r fenyw gyntaf i ennill gradd doethur mewn athroniaeth yn yr Unol Daleithiau. Teitl ei thesis oedd Gwahanol Theorïau am Harddwch.[5][6]
Gwaith ac ymgyrchu
golyguTra'n byw yn Wyoming, roedd Mai Preston Slosson wedi mwynhau hawliau yr oedd taleithiau eraill yn eu gwadu i fenywod, gan gynnwys yr hawl i bleidleisio.[7] Ar ôl symud i Efrog Newydd, bu ei gŵr a hithau'n weithgar yn y mudiad etholfraint.[4][8]
Ym 1920 cyhoeddodd lyfr o gerddi, From a Quiet Garden, Lyrics in Prose and Verse.[9]
Dolenni allanol
golygu- Mrs. May Slosson dies Coffâd a gyhoeddwyd yn y Lawrence (Kansas) Daily Journal-World a archifwyd yn Google News. Adalwyd 15 Tachwedd 2012.
- May Genevieve Preston yn Darlene's Family Genealogy adalwyd 15 Tachwedd 2012.
Anrhydeddau
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Disgrifiwyd yn: https://documents.alexanderstreet.com/c/1009677121.
- ↑ Dyddiad geni: "May Genevieve Preston Slosson".
- ↑ Slosson, Preston W. (1930). "Edwin E. Slosson, Pioneer, by His Son". A Number of Things. New York: Harcourt, Brace and Company. tt. 3–33.
- ↑ 4.0 4.1 Bennicoff, Tad (15 Mawrth 2012). "Open Minds Open Doors". Smithsonian Institution Archives. Cyrchwyd 25 Hydref 2012.
- ↑ Rogers, Dorothy (2005). America's first women philosophers: Transplanting Hegel, 1860-1925. London: Continuum. t. 17. ISBN 9781847143006.
- ↑ "May Gorslin Preston Slosson (1858-1943)". Acc. 90-105 - Science Service, Records, 1920s-1970s, Smithsonian Institution Archives. Smithsonian Institution Archives. Cyrchwyd 4 Ebrill 2012.
- ↑ "WYOMING'S EQUALITY HERITAGE". Cyrchwyd 15 Gorffennaf 2012.
- ↑ "Husband talks suffrage for her" (PDF). New York Times. 12 Ionawr 1910. t. 9. Cyrchwyd 20 Gorffennaf 2015.
- ↑ Slosson, Mai Preston (1910). From a quiet garden: Lyrics in prose and verse. New York: Brentano's. Cyrchwyd 16 Tachwedd 2012.