System Ddosbarthiad Cemegol Therapiwtig Anatomegol

Defnyddir y System Ddosbarthiad Cemegol Therapiwtig Anatomegol (ATC)[1] i ddosbarthu cyffuriau meddyginiaethol. Fe'i rheolir gan Ganolfan Gydweithiol Cyfundrefn Iechyd y Byd (WHO) dros Fethodoleg Ystadegau Cyffuriau, a chyhoeddwyd yn gyntaf ym 1976.[2]

Mae'r system yn rhannu cyffuriau i wahanol grwpiau yn ôl yr organ neu system maent yn gweithredu arno ac/neu eu nodweddion therapiwtig a chemegol.

Dosbarthiad

golygu

Dosbarthir cyffuriau mewn grwpiau ar bum wahanol lefel yn y system ATC:[2]

Lefel gyntaf

golygu

Mae lefel gyntaf y côd yn dynodi'r brif grŵp anatomegol ac yn cynnwys un lythyren. Mae yna 14 prif grŵp:[3]

Côd Cynnwys
A Llwybr treulio a metabolaeth
B Gwaed ac organau sy'n ffurfio gwaed
C System gardiofasgwlaidd
D Dermatolegol
G System genhedlol-wrinol a hormonau rhyw
H Paratoadau hormonaidd hollgorffol, ac eithrio hormonau rhyw ac inswlinau
J Cyffuriau gwrth-heintiol ar gyfer defnydd hollgorffol
L Cyffuriau gwrth-neoplasm ac imiwnofodylyddion
M System gyhyrysgerbydol
N System nerfol
P Cynhyrchion gwrth-barasitig, pryfleiddiaid ac ymlidwyr pryfed
R System resbiradu
S System y synhwyrau
V Amrywiol

Ail lefel

golygu

Mae ail lefel y côd yn dynodi'r prif grŵp therapiwtig ac yn cynnwys dau ddigid.

Enghraifft: C03 Diwretigion

Trydedd lefel

golygu

Mae trydedd lefel y côd yn dynodi'r is-grŵp therapiwtig/ffarmacolegol ac yn cynnwys un lythyren.

Enghraifft: C03C Diwretigion nenfwd-uchel

Pedwaredd lefel

golygu

Mae pedwaredd lefel y côd yn dynodi'r is-grŵp gemegol/therapiwtig/ffarmacolegol ac yn cynnwys un lythyren.

Enghraifft: C03CA Sylffonamidau

Pumed lefel

golygu

Mae pumed lefel y côd yn dynodi'r sylwedd cemegol ac yn cynnwys dau ddigid.

Enghraifft: C03CA01 Ffwrosemid

ATCvet

golygu

Defnyddir y System Ddosbarthiad Cemegol Therapiwtig Anatomegol ar gyfer cynhyrchion milfeddygol (ATCvet) i ddosbarthu cyffuriau milfeddygol. Creir codau ATCvet trwy roi'r llythyren Q o flaen côd ATC y mwyafrif o feddyginiaethau dynol. Er enghraifft, mae gan furosemid a ddefnyddir ym milfeddygaeth y côd QC03CA01.

Defnyddir rhai codau ar gyfer cyffuriau milfeddygol yn unig, megis QI Imiwnolegion, QJ51 Gwrth-facterialau at ddiben mewnfronnol neu QN05AX90 amperozide.[4]

Dos Dyddiol Diffiniedig

golygu

Mae'r system ATC hefyd yn cynnwys Dosau Dyddiol Diffiniedig (DDDau) ar gyfer nifer o gyffuriau. Mesuriad yw hwn o gymeriant cyffur ar sail dos dyddiol arferol cyffur penodol. Yn ôl y diffiniad, DDD yw'r "dos cynhaliaeth cyfartalog y diwrnod ar gyfer cyffur a ddefnyddir am ei brif alw mewn oedolion".[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. O'r Saesneg: Anatomical Therapeutic Chemical (ATC) Classification System
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) WHO Collaborating Centre for Drug Statistics Methodology: About the ATC/DDD system Archifwyd 2009-09-27 yn y Peiriant Wayback
  3. (Saesneg) WHO Collaborating Centre for Drug Statistics Methodology: ATC/DDD Index
  4. (Saesneg) WHO Collaborating Centre for Drug Statistics Methodology: About the ATCvet classification system Archifwyd 2009-02-19 yn y Peiriant Wayback

Dolenni allanol

golygu
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: System Ddosbarthiad Cemegol Therapiwtig Anatomegol, nenfwd-uchel, imiwnolegion, gwrth-facterialau at ddiben mewnfronnol o'r Saesneg "Anatomical Therapeutic Chemical Classification System, high-ceiling, immunologicals, antibacterials for intramammary use". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.