Dyddiadur William Jones, Moelfre, Aberdaron

Mae dyddiadur William Jones, Moelfre Aberdaron, Gwynedd yn un o nifer o ddyddiaduron sydd wedi ei gynnwys yng nghronfa ddata Tywyddiadur Llên Natur (Cymdeithas Edward Llwyd) ac sydd wedi'u rhestru yn y rhestr o ddyddiaduron amgylcheddol Cymreig. Mae'r erthygl hon yn crynhoi cefndir bywgraffiadol y dyddiadurwr ac yn cyflwyno prif werth y ddogfen fel tystiolaeth amgylcheddol a chymdeithasol o'r cyfnod.

Dyddiadur William Jones, Moelfre, Aberdaron
Enghraifft o'r canlynoldyddiadur Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Y casgliad gwreiddiol sydd bellach yng ngofal Archifdy Gwynedd

Mae'r gyfres o ddyddiaduron wedi goroesi mwy na chanrif, ac y maent yn mynegi darlun o fywyd a threfn cefn gwlad Pen Llŷn rhwng 1867 a 1903. Derbyniwyd y dyddiaduron gwreiddiol i'w trawsgrifio i Llên Natur gan y teulu William Jones (WJ), sef Mrs W Miners a Miss D Roberts. Ar ôl cwblhau'r trawsgrifio, a'u cynnwys yn y Tywyddiadur, aethpwyd ati i'w dadansoddi, a chymharu eu cynnwys gyda dyddiaduron o ardaloedd ac amseroedd eraill.

Trawsgrifwyd y dyddiaduron i 'Dywyddiadur' gwefan Llên Natur gan Brenda Jones sydd hefyd wedi dadansoddi a dehongli'r cofnodion Fel traethawd hir heb ei gyhoeddi. Addasiad o’r traethawd hwn yw llawer o’r isod.

Mae cofnodion amaethyddol, ffenolegol a thywydd beunyddiol William Jones yn eu cyfanrwydd i’w gweld yma [1] yn Nhywyddiadur gwefan Llên Natur.

Y Dyddiadur

golygu

Mae dyddiadur William Jones, Moelfre yn croniclo bywyd beunyddiol ffermwr lled gefnog a pharchus o deulu lleol yn Aberdaron, Gwynedd. Mae'r dyddiaduron yn rhedeg rhwng 1867 a 1903 ond mae rhai bylchau yn y cofnodion - ym 1867 ar ôl Ebrill 25; nid oes dyddiaduron o gwbl, o 1868 i 1879 nac rhwng 1881 a 1883. Mae dyddiadur 1880 wedi ei gadw hyd at Awst 7fed, ac y mae cofnodion rhwng 1884 a 1903, (oni bai am y bwlch rhwng 26 Gorff a 27 Tachwedd, 1885), felly rhaid ystyried hyn wrth ddadansoddi maint y cnydau ac amser eu medi.

Mae'r dyddiaduron i'w gweld yn Archifdy Gwynedd, Caernarfon.

Cefndir Daearegol fferm Moelfre

golygu

Rhew-glai Defensaidd yw natur arwynebol y tir gan mwyaf gyda gwaddodion tywod a gro o'r un oed yn brigo tua de orllewin y ffermdy (Mynydd Ystum) ac mewn un un man yn cyrraedd ffordd y B4413 lle bu WJ yn ei gloddio [2] Archifwyd 2019-12-11 yn y Peiriant Wayback

Cefndir teuluol

golygu

Ganed William Jones Davies yn fab i John a Catherine Davies ar 31ain o Awst 1829 yn Moelfre, (neu Moelfra fel y gelwid gan William), Aberdaron. Hanai John Davies o Aberdaron ac yno y bu yn ffermio gydol ei oes. Bu farw Catherine, mam William, ar 31ain o Hydref 1837 yn 38 oed, pan oedd William yn wyth oed. Rhoddwyd hi i orffwys ym mynwent Capel Bethesda, Rhoshirwaen. Priododd John Davies drachefn gydag Elizabeth o Lanfihangel, a ffermio ym Moelfre buont hyd marwolaeth John ar Orffennaf 22ain, 1884 yn 88 oed. Rhoddwyd ef i orffwys yn yr un bedd a'i wraig gyntaf, Catherine, mam William, yn Rhoshirwaen; mae cist yn nodi'r bedd yno. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ar 22 Awst, 1886 bu farw Elizabeth “rhwng tri a phedwar y boreu”; rhoddwyd hi i orffwys ym mynwent Aberdaron a rhoddwyd cist ar ei bedd hithau hefyd ar Awst 6ed 1887.

Perthnasau

golygu

Ar ôl marwolaeth ei dad a'i lysfam cofrestrodd William ei hun yng nghyfrifiad 1891 fel 'William Jones', yn hytrach na 'William Jones Davies', gan ollwng cyfenw ei dad. Roedd tadenwau (patronymics) yn arferol yn yr oes honno, pan rhoddwyd enw bedydd eu tad yn gyfenw i'r plant. Byddai ei frawd, Dafydd yn galw ym Moelfre yn gyson ond nid oes awgrym am ble roedd yn byw. Bu Dafydd yn dioddef o'r “eryr ar ei glun” fis Chwefror 1884, bu “yn wael” fis Rhagfyr 1894 a fu farw 30ain Ionawr 1897 yn dioddef o'r bronchitis.

Roedd ei chwaer, Catherine bum mlynedd yn hŷn na William ac yn briod â gweinidog y Bedyddwyr, sef Robert David Roberts, yn wreiddiol o Landdeiniolen; roedd ganddynt ddwy ferch, Catherine a Mary Jane. Yn ôl Cyfrifiad 1861, trigant ym Merthyr Tydfil ac erbyn 1881 roeddynt wedi ymadael i ofalaeth Capel Zoar, Llwynhendy. Deuai'r teulu i Foelfre am wythnos neu ddwy yn ystod misoedd yr haf, a bu William yn aros gyda hwythau, hynny wedi iddo ddarfod y cynhaeaf .

Ym Medi 1893 cychwynnodd William ar wythnos o wyliau at y teulu yn Llwynhendy. Ymwelodd âg Abertawe, Castell Nedd, Britton Ferry a marchnad Llanelli. Ar achlysur arall, ar Fedi 9fed, 1896 teithiodd gyda'r “Mail Car” cyn belled â Phwllheli, gan aros yno dros nos. Ni nodir beth oedd y cludiant ymlaen i'r “Deheudir” ond mae'n debyg mai'r trên ydoedd. Torrodd y siwrne am adref gan aros un noson yn Llanwrtyd ac un arall yn Llanfair ym Muallt (“Builth Wells” yn ôl William).

Roedd Dafydd Williams, Yr Hendre yn gefnder a chymydog i William ac y mae sôn cyson iddynt ymweld â'u gilydd ac iddynt roddi cymorth i'w gilydd wrth eu gwaith. Bu William ym mhriodas John, mab Dafydd, â Lisa Hirwaen ym Mhwllheli ar Fai 8, 1886. Roedd perthynas teuluol rhwng William a theulu Brynsander, Uwchmynydd hefyd, (15 Ionawr, 1880) “Bu f'ewyrth Brynsander yma”.

Addysg

golygu

Prin yw'r dystiolaeth o addysg ffurfiol gynnar WJ, os cafodd hynny o gwbl, ond cyfrannodd i addysg ei fro yn ddiweddarach yn ei fywyd. Roedd William yn aelod o Fwrdd ysgol Deunant ac ysgol Aberdaron; agorwyd ysgol yn Aberdaron ym 1882 ac atgyweiriwyd hi ym 1889.

Mawrth 11,1887: prynais dicket darlith gan G W Roberts i fyned i Ysgoldy Deunant. Prynais dicket i Pwllheli i gynorthwyo bachgen i gael addysg
10 Mehefin, 1887: Mrs Jones Blaen Llechau gynt yn darlithio yn capel rhos, testun Balchder a’i Garcharorion.
21 Mehefin 1887: Diwrnod Jubili. Robert Jones Llanllyfni yn darlithio yn ysgoldy Deunant.
Ebrill 2, 1889 cafodd “warrant appointment overseer” ond nid yw yn manylu ymhellach ar hyn. Cafodd ei benodi yn “overseer” i’r Cyngor Plwyf yn Ebrill 1895.

Chwefror 23, 1892: roedd mewn cyfarfod Bwrdd Sirol yn Aberdaron ac enwebwyd Capten Williams (nid oes manylion o’r enwebiad), dranoeth enwebwyd Capten Williams yn C.S. (Cynghorydd Sirol) yn Ysgol Rhos. Ar Fawrth 20, 1892 mae WJ yn dweud bod “Capt H Williams yn cael ei daro o’r palsy” a chwe niwrnod yn ddiweddarach, “Cap’en Henry Williams, Tynewydd, Rhydlios wedi marw”. Mae’n rhaid bod yna ddau Gapten Henry Williams yn yr ardal oherwydd y cofnod isod ddeufis yn ddiweddarach... Mae William yn cofnodi ei fod wedi mynd i’r “ysgol gorddi” ac yn “dysgu ‘dairy” yn Ysgol Deunant ym Medi 1895 (pan yn 66 mlwydd oed)

27/08/1895: Dechreu tori ceirch. Dysgu Dairy yn Ysgol Deunant
02/09/1895: The school was to have been reopened today, but the trav. Dairy school in connection with the Union Coll. of N.Wales, Bangor had the use of the schoolroom the last week and this.[1]
5/9/1895: Bum yn ysgol Deunant yn yr ysgol Gorddi.

Dieithriaid

golygu

Arferai ‘caravan’ aros dros nos yn y “twll gravel” – ym mis Ionawr fel rheol – ac mae’n debyg bod y crwydraid yn gwerthu nwyddau gan i William brynu brwsh ganddynt unwaith a basged dro arall. Ar Chwefror 14, 1897 mae’n dweud Ganwyd plentyn yn y caravan yn Twll Gravel neithiwr. Ar Chwefror 11, 1892, prynais spectol gan ryw sais ac ar Chwefror 27, 1894, Bu tramp o sir Benfro yma, Gof.

Byddai’r crwydriaid yn cardota, ond deuai hyd yn oed pobl o’r ardal i ofyn am gymorth – Mehefin 20, 1885 “Bu Ellin morwyn Tynrhos yma yn gofyn benthyg rhaw dywyrch”

Rhagfyr 6, 1887: Lewis Brynbeirwg Bach yn hel arian at gael ceffyl. Rhoddais ddau swllt iddo.
Mehefin 2, 1890: Prynais drill. Talais £3-0-0 am dano; dridiau yn ddiweddarach Bum a’r drill yn yr Hendre yn hau had rwdins.
Tachwedd 1890: Cafodd William Tynrhos fenthyg y pwysau a’r clorian am bedwar niwrnod.
Chwefror 14, 1893: bu John Brynllaeth yn begio am arian i gael ceffyl a car.
Ar ddydd Calan 1894 rhoddodd fenthyg £3-0-0 i William Roberts Cottage a thrannoeth rhoddodd fenthyg y clorian i Ed Cwmci.

Y Capel

golygu

Roedd William yn aelod brwd o Gapel y Bedyddwyr, Bethesda, Rhoshirwaen gan fynychu’r gwasanaethau bob Sul – ddwywaith yn aml iawn – salwch a rwystrai ef rhag mynd i’r oedfa. Mr John oedd y Gweinidog yno hyd diwedd 1890, pan ymadawodd i Penffordd las (Staylittle Nodyn:Pa enw ddefnyddiodd WJ), ond cafodd groeso drachefn ym Moelfra am ddwy noson fis Chwefror 1892, dros y Pasg 1894 ac wedyn ddiwedd Medi, 1895. Mr Evans oedd ei olynydd. Williams, Rhosllanerchrugog oedd y pregethwr ar Orffennaf 19, 1898 a chafodd yntau a’i wraig gysgu ym Moelfre y noson honno. Daeth “tutor” o Fangor i bregethu ar Dachwedd 6ed. Fis Chwefror 1902 bu R T Jones, Pontsenni (Senney Bridge) yn pregethu yno a bu’n aros ddwy noson ym Moelfre. Fis Gorffennaf 1887 – daeth Miss Williams, Blaenllechau yno i ddarlithio ar ddydd Gwener 16, drennydd i bregethu a thradwy i bregethu ar y testun Y Diarhebion Pennod 14. Mae’n debyg ei bod yn beth anarferol iawn i gael merch yn pregethu mewn capel yn yr oes honno. Fis Hydref daeth Goronwy Ddu yno.

Ddiwedd Rhagfyr 1885 roedd William Hughes y cenhadwr a dau fachgen du o Affrica yn Capel Rhos; testun y ddarlith oedd y Congo a’r bobl a’i harferion; ar 17fed o Orffennaf 1886, Clywed fod Wm Hughes y cenhadwr wedi marw ac un o’r bechgyn du.

Ar ddydd Sadwrn, 29 Mai 1886: Mr John yn bedyddio gwraig Nyth y Cacwn a gwraig a merch Penrhos a thrannoeth, bedyddiodd Ellin y Gilfach. Bedyddiodd Rolant Pantybaley fis Hydref, ac ar Fai 15, 1887 bedyddiodd ddyn o’r Deheudir yn Afon Tynrhos. Ni fu cyfarfod yn y capel am bythefnos yn ystod Awst 1892 gan fod angen iddo gael ei “seilio a’i baentio”.

18 Medi, 1889, cofnododd William, Ffraeo yn capel Rhos; a thrannoeth, Ymrafael yn capel Rhos. Tybed ai dyma achos y ffrae:

Yr oedd cyflwr llawr y capel yn beryglus i gerdded arno a phenderfynnwyd ei ail-adeiladu. Tynnwyd yr hen Gapel i lawr fis Gorffennaf 1903. Cynllunwyd y Capel newydd gan Evan Evans, County Surveyor, Caernarfon ac ymgymerwyd â’r gwaith o’i ail-adeiladu gan William Williams, Lon Las, Mynytho. Bu nifer o gasglyddion yn galw o dŷ i dŷ yn yr ardal am addewidion at y perwyl; rhwng popeth, llwyddwyd i godi £68 ond roedd angen £470. Ymddengys bod William wedi rhoi addewid o £20. Bu rhaid atal y gwaith cyn ei gwblhau oherwydd prinder arian. Yn ei ewyllys cymynodd William £300 tuag at ail-adeiladu’r capel a bu hyn yn achubiaeth i’r achos. Cyfeiria’r Parch. Thomas James at haelioni William yn ei hunangofiant. Agorwyd y capel newydd ar 25ain o Fedi 1904[2]

Mae beddfaen William Jones yn amlwg iawn yn y fynwent fechan:

Er serchus gof am William Jones, Moelfra, Aberdaron
Bu farw Mai 27, 1904 yn 74 mlwydd oed
Yr hwn a gyfranodd £320 at y Capel hwn.

Diddordebau

golygu

Mae'r dystiolaeth a ganlyn yn dangos bod WJ, beth bynnag oedd ei addysg, neu ddiffyg addysg, ffurfiol, yn berson llengar oedd yn gwerthfawrogi dysg. Ai ffrwyth traddodiad ysgolion Sul Griffith Jones, Llanddowror, ydoedd?

Ar ddydd y Nadolig 1889 bu William mewn cyfarfod llenyddol yng nghapel Rhos gyda Capten Owen, Minafon yn gadeirydd a Mr George Criccieth yn arweinydd. Dydd Nadolig 1891 bu mewn cyfarfod llenyddol eto yng nghapel Rhos. Ioan Eifion oedd yn arweinydd y tro hwn, gyda R Lloyd yn canu. Daeth Ioan Eifion â “llestri potiau” iddo – potiau ymenyn, efallai? Drannoeth bu Ioan Eifion yn areithio ar ddirwest yn Aberdaron. Chwefror 3, 1892 bu William yn gwrando ar ddarlith yn y capel Wesley. Ar ddydd San Steffan 1892 roedd cyfarfod llenyddol yn Capel Rhos gyda Mr Vaughan yn arwain. 7 Ionawr 1889 derbyniodd ddyddiadur gan Mr John (y gweinidog), a chafodd un arall gan Griffith Roberts ddeuddydd yn ddiweddarach. Dyddiadur “Llawlyfr Undeb Bedyddwyr Cymru am 1889” a ddefnyddiodd William – sef hwnnw a gafodd gan Mr John, mae’n debyg.

11 Mai 1889, Cael y Gwyddoniadur gan Griffith Jones Bryn y Gloch talu £4-5-0 am dano”. 12 Mai 1893, “Talu 3/- am lyfr hanes Lleyn i Mr Daniels Llanbedrog
27 Mawrth 1894, gyrrodd gyfrolau o esboniad Gill i gael eu rhwymo: Mehefin 15, Cael Esboniad Dr Gill wedi ei bindio o Machynlleth
12 Mai 1894, Prynais Geiriadur Mathetes gan Wm Jones y crydd. Talais £2-6-0 am dano

Cyflawniadau

golygu

Derbyniodd WJ Silver Medal o Birmingham am y Bustach Rhagfyr 21ain, 1897, a medal Am y Wêdd Oreu, Glangors, 1894 mewn Ymrysonfa, Chwefror 13eg, 1894.

Gwleidyddiaeth

golygu

Daliadau gwleidyddol WJ

golygu

Mae’n amlwg mai Ceidwadwr oedd WJ gan iddo nodi (Tachwedd 27, 1885), Bum yn ysgoldy Deunant yn rhoddi fy vote i Mr Nanney. Roedd Ellis Nanney yn Geidwadwr poblogaidd yn yr ardal ond, yn ôl William, trechwyd ef gan Lloyd George (Rhyddfrydwr) yn 1890 ac yn 1895.

Ebrill 10, 1890, D.Ll.George wedi trechu Nanney mewn Election dros Fwrdeisdrefi Arvon. Mwyafrif
Gorphenaf 20, 1895 Etholwyd D.Ll.George Criccieth yn Aelod Seneddol Mwyafrif George 194 Collodd Mr Ellis Naney ei wrthwynebydd.

Ddiwrnod olaf y flwyddyn 1891 bu William yn gwrando ar John Parry, Llanarmon-yn-Ial a Bryn Roberts yn areithio ar “bolitics” yn Ysgoldy Deunant.

Chwefror 1, 1880, Hel enwau i hanfon i Parliament i gau Tafarnau ar y Sul.
Mawrth 15, Watkin Williams [Rhyddfrydwr] yma yn gwthio am gael ei ethol yn A.S.
Mawrth 17, John yma yn hel votes
Mawrth 18, Bum yn y Pentref yn cyfarfod y Tories.
Ebrill 6, Lecsiwn polio yn Aberdaron. Douglas Pennant a Watkin Williams.
Ebrill 7, Y newydd fod gan Watkin fwyafrif 1097.

Gwleidyddiaeth y cyfnod

golygu

Dyma rai o gofnodion WJ am wleidyddiaeth ehangach:

Ionawr 24, 1885, Dynamite yn Senedd dy Llundain.

Roedd Haf 1892 yn gyfnod prysur iawn ym myd gwleidyddiaeth yn ôl pob golwg - Mehefin 18, 1892, Humphreys Abercin yn Aberdaron yn areithio yn ymgeisydd seneddol. Bum yno. a thridiau yn ddiweddarach, Robert Hendrebach a Wm y Bryn yma yn ceisio votes i Humphreys, ac ar 30ain, “Bum yn Sarn yn gwrando areithiau Election Mr.Humphreys Abercin, Gorphennaf 9, 1892, Election Bwrdeisdref Carnarvon ymgeiswyr Lloyd George a Pulseton Mwyafrif George 195, Gorffennaf 11, 1892, Election Eifion Humphreys a Roberts yn ymgeiswyr.

Mawrth 5, 1894, Gladstone wedi ymddiswyddo o fod yn brif weinidog, Roseberry yn cymeryd ei le. (Rhyddfrydwyr.). Mr W.Jones Rhydychain a etholwyd dros Arfon, Mwyafrif. Proffesor Hughes o Caerdydd oedd ei wrthwynebydd Nodyn:Cadarnhau dyddiad hwn.

Cyfrifiadau swyddogol

golygu

Yn ôl cyfrifiad 1851 gwelwn enw John Davies, 51 oed fel penteulu Moelfra, gyda’i wraig Elizabeth yn 51 oed. Roedd William yn 21 oed ac yn gweithio adre ar y fferm 55 acer*; Evan Williams oedd yno yn was 16 oed a Mary Jeremiah yn forwyn 24 oed. Roedd Elizabeth Griffith, 84 oed yn "Lodger" yno; tybir mai Mam Elizabeth Davies ydoedd oherwydd ei hoedran a'i henw - byddai enwau'r rhieni yn cael eu cario ymlaen i'r plant. Yr olaf ar y rhestr yw Catherine Jones, "visitor" 25 oed. Tybir mai chwaer William ydoedd, bu'n sôn llawer amdani yn ei ddyddiaduron - roedd yn byw yn Llwynhendy ger Llanelli.

Y Gilfach (34/36 acer), Penybryn (10/12 acer) a Llidiarda (60acer) oedd y tair fferm agosaf at Moelfre. Teulu Evan A Mary Richards oedd yn Gilfach, John a Dorothy Hughes yn Penybryn, Hugh, John ac Elizabeth Jones yn Llidiarda. Fferm 30 erw oedd yr Hendre, ac yr oedd perthynas teuluol rhwng William a John Williams, a’i wraig Claudia a’u merched, Catherine ac Eleanor.

Yng Nghyfrifiad 1861 gwelwn mai 40 acer o dir sydd i Moelfra a bod John ac Elizabeth Davies yn cyflogi dau o weision – William Jones, y mab oedd y naill, a William Jones (33 oed) oedd y llall. Mary Parry oedd y forwyn. Yn y Gilfach, roedd Evan Richards a’i deulu wedi newid eu cyfenw i Prichard erbyn hyn (ap Richard). Hugh Jones “Weaver” a drigai yn Llidiarda, gyda’i frawd a’i chwaer. Yn yr Hendre roedd David a Claudia Williams gyda’u plant Catherine, Elizabeth a John, ac un forwyn a dau was.

Roedd y tri aelod o’r teulu ym Moelfre o hyd ond William Williams, 18 oed o Fryncroes oedd y gwas ac Ellen Williams, 17oed o Aberdaron oedd y forwyn. Erbyn hyn, gwelwn bod Hugh Jones Penybryn wedi mynd a bod John ac Elizabeth Hughes wedi cymryd drosodd i ffermio 12 erw. Gwelwn bod yr Hendre yn fferm 33 erw gyda David, Claudia, Catherine, Elizabeth a John yn byw yno, ynghyd âg un gwas.

Erbyn 1881 roedd John Davies yn 85 oed, Elizabeth yn 80 a William yn 51. Ellen Thomas, 18 oed oedd y forwyn ond nid oedd gwas yno ar noson y cyfrifiad. Roedd y teulu Prichard yn dal i fyw yn y Gilfach, Jane Williams a’i phlant ym Mhenybryn; Thomas a Mary Williams yn Llidiarda. David Williams a’i fab, John, a drigai yn yr Hendref, ynghyd â’r forwyn a gwas.

William Jones yw penteulu Moelfre erbyn 1891, gydag Ellen Griffith, 17 oed ac Elizabeth Moore, 13 oed yn forwynion yno. Teulu Prichard yn y Gilfach, a Thomas (saer) a Jane Williams ym Mhenybryn/Llidiarda. Eto yn yr Hendref oedd David Williams, ond erbyn hyn, roedd John yn briod âg Elizabeth a chanddynt ferch Claudia yn bedair oed.

Ym Moelfre, roedd William gyda’r morwynion, Ellen Griffith a Janet Jones. Teulu Arthur Prichard yn y Gilfach, a John ac Eliza Davies a’u plant yn Llidiarda. Mae’n debyg bod Thomas Williams y saer, a’i deulu wedi ymadael o Penybryn erbyn Mehefin 1, 1892 gan i William nodi bu teulu o Lerpwl yn edrych Penybryn. Yng nghyfrifiad 1901 mae John Jones, ffermwr, ei wraig, Mary a’r forwyn, Ann Parry yn byw yno. Erbyn hyn, yn yr Hendre, John oedd y penteulu gydag Elizabeth a’r plant, a dwy forwyn.

Senedd Aberdaron

golygu

Cyhoeddwyd erthygl ar Aberdaron a’r darlun uchod gan John Thomas o aelodau ‘Senedd Aberdaron’ yn “Cymru”, 1897. Gwelir rhan o aelodau’r ‘Senedd’ yn eistedd ar winch llong, ac yn eu mysg mae ceidwad y pwrs, caplan, melinydd, cryddion, a siopwyr. (Dalier sylw at y gwr byr o gorff ar y dde a hanes Y Capel, uchod.). Byddai’r Senedd neu rhyw bwyllgor arall yn trafod materion o bwys i’r pentref, fel caniatau adeiladu tai ayyb. Nid oedd y ‘ffordd haiarn’ yn rhedeg rhwng Pwllheli ac Aberdaron, felly roedd rhaid “cymeryd y traed, car y Post neu gerbydau y ‘Tocia’” i gyrraedd y pentref.

Byddai William yn sôn am fynd ‘i’r Vestry’ yn gyson rhwng 1889 a 1892 – tybed ai mynd i gyfarfod o’r Senedd ydoedd? Mae cofnodion iddo fynychu Vestry Cyfri Plwy fis Ebrill 1888, Vestry tyrchod Chwefror a Mawrth 1888 a Mawrth 1891; cwrdd Plwyf, Ebrill 2,1895; cafodd lythyr o’r cynghor Plwy yn ei benodi yn overseer, 29 Ebrill 1895, Mehefin 14, 1890 bu yn y Vestry yn prisio tai newyddion Bryntirion, Brynbadell a Tynewydd Penycaerau.

Materion Lleol: Fis Mai 1887 bu ‘Sarah Wm Robert’ ym Moelfre yn cael papur i gael cynorthwy o’r Plwyf; fis Gorffennaf cafodd William order o Pwllheli am £6-4-8 oddi wrth Guardians yr Union (y Tloty mae’n debyg). Wythnos yn ddiweddarach bu William yn Deunant yn danfon papur oddi wrth y Sanitary Authority yn gofyn am £6-4-3 (William Deunant fyddai’n casglu’r ardreth yn yr ardal). Ar Ragfyr 16 y mae’n “seinio assessment i William Deunant”

Cofnodion a ddigwyddiadau'r cyfnod

golygu

Dangosodd WJ yn ei ddyddiadur ei fod yn ymwybodol o wahanol ddigwyddiadau o bell ac agos, a'r cofnodion yn dangos yr hyn oedd yn ei ddiddori.

Newyddion o Brydain:

Ebrill 1893: dyn wedi dianc trwy y to o garchar Caernarfon – Swediad o genedl o’r enw Ashby.
Ebrill 1884: cynhebrwng Leopold mab y Frenhines Victoria
20 Ionawr 1886: Agor y tunel dan afon Lerpwl
31 Mawrth 1886: Lord y Penrhyn wedi marw, a’i gynhebrwng ar Ebrill 6ed
12 Tachwedd 1887: Llofruddio dyn yn ymyl Llanelli.
1 Tachwedd 1888: Lord Newborough wedi marw 85 oed.
Awst 7, 1889: Profi Mrs.Maybrick yn euog o wenwyno ei gwr yn Liverpool.
Awst 20, 1889: Mrs Maybrick yn cael ei chrogi. Rhyddhawyd hi yn Ionawr 1904. Mae’n debyg nad oedd y newyddion diweddaraf wedi cyrraedd Moelfra ar Awst 20, 1889..
Mai 10, 1890: Gosod Picture Fictoria yn y parlwr. Mae ganddo dri chofnod am y Frenhines yn ystod Ionawr 1901, sef ei gwaeledd, ei marwolaeth a’i chynhebrwng.
14 Ionawr 14 1892: Duc Clarence o Avondale wedi marw yn 28 oed
31 Ionawr 1892: C H Spurgeon Llyndain [Gweinidog y Bedyddwyr oedd C H Spurgeon – sylfaenydd y Coleg Spurgeon yn Llundain] wedi marw yn 58.
23 Mehefin 1894: Wil Penllech a Wil y Cyndyn a mab Tynyborth wedi eu lladd yng ngwaith glo Albion Cilfynydd Pontypridd. Lladdwyd 250 i gyd, achubwyd 16. (Digwyddodd y ffrwydriad yng nglofa’r Albion am 4 0’r gloch ddydd Sadwrn, Mehefin 23, 1894. Yn ôl yr hanes lladwyd 290 o ddynion a bechgyn ; daeth 16 allan yn fyw. Lladdwyd 123 allan o’r 125 o geffylau a weithiai yno.)
13 Gorffennaf 1896: Bu Evan Ellis yma o Awstralia.
21 Ebrill 1897: Rhyfel rhwng Groeg a Twrci. (Parhaodd y Greco-Turkish War am ddeng mis o Chwefror i Ragfyr 1897 – yr ynys Creta oedd asgwrn y gynnen.)
3 Awst 1898: Crogi Thomas Jones Amlwch am lofryddio Mary Burton ar fynydd y Manod.
28 Rhagfyr 1898: Clywed fod [dyn] yn Cricieth wedi lladd ei wraig a’r hogyn bach un yn 5 a’r llall yn 3 oed
21 Chwefror 1899: Wil Brynffynnon wedi marw yn yr india

Newyddion o’r Alban:

1 Ionawr 1880: Gwyntod o’r Gorllewin”; 2 Ionawr, 1880, clywed fod y tren wedi syrthio i’r afon Tay Ysgotland a’r trafeilwyr wedi boddi bob un oddeutu dau cant mewn nifer nos Sul (28/12/1879).

Digwyddod y trychineb ar noson o storm enfawr wrth i’r tren groesi’r bont haearn hir dros yr afon Tay tuag at Dundee. Chwythwyd y tren a rhan o’r bont i’r afon gan ladd

pob un o’r 60 o deithwyr. Llwyddwyd i godi’r locomotive ac ail-adeiladwyd y bont. Pont Tay cyn trychineb 1879. Digwyddodd y ddamwain tua chanol rhan uchaf y bont.[Delwedd]

Newyddion o Affrica:
26 Mawrth 1885: Cwymp ckartoum [Khartoum] yn y Soudan [Sudan] (Dechreuodd yr ymosodiad Khartoum ar Fawrth 13, 1885 a pharhaodd hyd y 26ain, fel mae William yn dweud) 27 Mawrth 1885: Llofruddio Gordon

Darlun o lofruddiaeth General Charles Gordon[Delwedd]

Iechyd a Diogelwch

golygu

William Evans, y gôf fyddai’n torri gwallt William rhan amlaf, John Shop Penycaerau yn tynnu ei ddant (22 Ebrill 1893), a Beti/Lisa Rystum fyddai’n tynnu blew ceimion o’i lygaid. Cafodd ei boeni sawl tro gan nafod yn ei gesail ac ar ei fraich (18/4/1886), a bu i Margaret, Y Big roddi gelod wrth ei wyneb. Cafodd gyfnod gwael arall ddechrau 1894, a chafodd ddolur ar ei droed fis Ebrill. Tybed at ba berwyl a gafodd medical pipe o Bristol ar ddydd Gyl San Steffan, 1887?

Fis Ionawr 1893 mae William yn nodi bod ganddo boen yn ei frest, ac wedyn fis Mawrth, stits (pigyn) yn ei frest ac y mae’n talu i Roberts drugist am physig 8/-. Yn ystod 1895 [gaeaf yr Heth Fawr] bu’n dioddef o’r ddanodd ac yr oedd wedi brifo pen fy nglin ac mae’n debyg ei fod yn cymryd tabledi i’w lleddfu gan iddo gael blwch pills o shop Penycaerau. Roedd yn gloff fis Awst 1897 a Mai 1898 bu ym Mhwllheli efo’r Doctor a chafodd botelaid o physig.

Bu farw dau o blant Thomas y crydd ym Medi 1889; mis yn ddiweddarach, mae Cowpoc yn cael ei rhoi yn Aberdaron. Tybed ai haint y frech wen oedd wedi taro’r ardal? Nid oes llawer o esboniadau am achosion marwolaethau, ond yn 1892 mae Capten Henry Williams a Hannah Pisgah wedi cael eu taro gan y palsy ac wedi marw ymhen ychydig ddyddiau.

Mae’n nodi moddion i wella anhwylderau fel…

Cymhorth i wella yr Influensa Rwsiaidd
Ammoniated tincture of quinine ½ oz
Essence of Peppermint ¼ oz
Bromide of ammonium ½ oz
Spirit of sweet nitre ½ oz

Simple syrup made by boiling 1 lb lump sugar in half peint of water 1oz Ysgydwer y cymysgedd yn achlysurol hyd nes byddo y cyfan wedi toddy Cymerer llond llwy de mewn dwy lond llwy fwrdd o ddwfr oer bob awr hyd nes cael rhyddhad Prysurir y gwellhad drwy ysbrinclo ychydig o menthol crystals ar lwy ar shovel boeth a thynu yr ager i mewn gyda’r anadl (1891).

  • Cynghor at y Gravel
½ oz Balsam Cabtinty
½ oz Tincture Rubarb
1 oz Spirit Nitre

Dwy lond llwy de dair gwaith yn y dydd mewn llond glass gwin o lefrith.

Yn ôl hysbyseb yn ei ddyddiadur, dyma oedd ar gael at anhwylderau yn 1880Nodyn:Llun i'w ychwanegu:- Digwyddai damweiniau a thrychinebau yn weddol gyson yn yr ardal:

(23 Mawrth 1880) Danfon buwch dew. Torais ddwy o fy asenau.
(26 Mawrth 1880) Bum yn Llanllyfni efo’r Doctor yn asio fy asenau.
(17 Ebrill 1880) Twm yr Odyn yn syrthio a thori ei wddf yn Porth Ysgo.
(2 Mehefin 1880) Ceffylau Dwyros yn briwio gwas Carreg.
(7 Chwefror 1884) Darfu’r fuwch sathru troed Ellin” (y forwyn); dranoeth “Bu Beti’r Bîg yma yn rhoddi Gelod wrth goes Ellin…”
(14 Mawrth 1884) Syrthiodd carreg o’r simdde ar ben Ellin;
(29 Chwefror, 1884), Clywed fod damwain yn Llanllyfni pump o ddynion wedi ei lladd.
(19 Ebrill, 1884) Clywed fod ceffyl Neigwl Uchaf wedi lladd y gwas.
(16 Chwefror. 1885) Margaret Pisgah wedi marw ar ôl llosgi efo oil lamp
(28 Chwefror, 1885) Griffith Crugeran wedi marw yn y ffôs cae Nany y Garn neithiwr
(23 Mawrth, 1885) Cafodd Griffith mab Moelyberth ei ladd gan y drol trwy i’r ceffylau redeg
(16 Mai, 1885) Darfu y gwydd fy mriwio yn fy asenau wrth aredig ar y tatws yn caer Afon
(17 Chwefror 1886) Clywed fod William y Benallt wedi syrthio o Rigin llong a thorri ei wddf ym Mhorthmadog.
(27 Ebrill 1886) Ceffylau Bodwrdda wedi rhedeg a briwio Evan y gwas.
(21 Awst 1886) Gwaed Thomas y Ship wedi cerdded ar ol rhoddi Gelod
(19 Mawrth 1887) Griffith y Tocia wedi syrthio trwy ffenest y llofft.
(13 Mehefin 1887) Dyn o Llanllyfni yn cael ei ladd yn Rhiw wrth saethu cerrig.
(2 Awst 1890) Richard Felin Drygarn wedi cael ei ladd yn y Felin.
(21 Chwefror 1891) Tri o ddynion wedi eu lladd yn Tai newyddion, Pwllheli
(1 Mawrth 1891) Dafydd Policeman wedi marw ar ôl y ddamwain.
(5 Mawrth 1891) Cynhebrwng Dafydd Davies saer cerrig a gafodd ei frifo yn Pwllheli.
(20 Tachwedd 1891) Ceffyl wedi taro Griffith Meillionydd Bach a thori ei glun.
(27 Ebrill 1893) Moch wedi dychryn ceffyl Hendrebach a throes y drol a brifo y gwas.
(3 Mai 1893) Arthur Y Gilfach wedi brifo syrthio o drol y mul.
(22 Mawrth 1893) Dyn wedi syrthio o long yn Pwllheli.
(5 Ebrill 1893) Cyflawnodd gwraig Wil Jockey hunanladdiad.
(12 Ebrill 1893) Clywed fod John Llainygwallt wedi cael ei ladd yn chwarel Llanllyfni.
(14 Ebrill 1893) Elisa merch Bronyfoel wedi syrthio tros yr allt a marw.
(1 Chwefror 1894) Claudia (merch yr Hendre) dan y frech goch.
(16 Chwefror 1894) Thomas Jones Tocia wedi marw, cerbyd wedi troi arno wrth ddod o Aberdaron.
(22 Mai 1894), Dyn o Gorwen yn cael ei daro gan geffyl diwrnod ffair Pwllheli. Bu farw y noson.
(4 Mehefin 1895) Mary Tyfwg wedi marw yn y Tocia wrth ddod adref o gladdu ei modryb.
(9 Gorffennaf 1895) George Owen Carnarvon Twrna wedi marw wedi cymeryd gwenwyn.
(23 Mai 1896) John mab Robert Jones Butcher wedi lladd ei hun a’r gwella.
(3 Gorffennaf 1896) Caseg Hirwaen wedi rhoddi cic i William; wythnos yn ddiweddarach aeth William Jones i edrych amdano, a phythefnos drachefn aeth Ellin i edrych amdano, felly mae’n ymddangos fod William Hirwaen wedi ei ddolurio yn ddrwg gan y gaseg.
(19 Awst 1896) Gwraig shop nant wedi crogi ei hun.
(25 Awst 1896) Dyn a dau geffyl wedi boddi yn agos i Portmadog.
(11 Ionawr 1897) Gwraig Evans schoolmaster Bryncroes wedi crogi ei hun neithiwr.
(23 Awst 1897) Griffith gwr Jane y Benallt wedi boddi wrth bysgota.
(11 Rhagfyr 1898) Robert Pritchard Felin Bodwrdda wedi marw dan y canser.
(1 Mawrth 1899) Griffith y Tocia wedi taflu ei ysgwydd o’i lle.
(23 Gorffennaf 1903) Sion Lonlas wedi syrthio o ben llwyth gwair a marw ar unwaith.

Mae dosbarthiad misol yr holl ddamweiniau gwahanol hyn yn dangos patrwm diddorol yn adlewyrchu efallai tyndra a diofalwch "hirlwm" y gaeaf hwyr (Ion 1, Chwe 8, Maw 9, Ebr 7, Mai 4, Meh 3, Gorff 3, Awst 5, Medi 0, Hyd 0, Tach 1, Rhag 1). Cofnododd WJ hefyd helyntion yr anifeiliaid:

(Mai 30, 1885), Heffer yn piso gwaed.
(Mehefin 17,1885), Heffer Benwen yn piso gwaed.
(Mehefin 18, 1886), Bu dynewad yr Hendre farw yn y court neithiwr wrth biso gwaed.
(Ionawr 26, 1889), …gast Penybryn yn lladd chwiaden.
(Mehefin 15, 1889), Bu Mr Evans y ffarrier yma” (ond nid oes awgrym i ba berwyl).
(Ebrill 10, 1892), Buwch yr Hendre wedi tori ei choes.
(Gorffennaf 16, 1892), Lladd mul Wil Pengroeslon.
(28 Chwefror 1895), Buwch Geufron Bach wedi taflu ei llestr a marw.
(28 Mawrth 1896), Nol physig i’r ceffylau o shop Penycaerau.
(22 Ebrill 1897), Robert Hughes yma yn treio gwella llaid ar droed y fuwch.
(5 Chwefror 1901), Llosgi pedair o wartheg i James Tynrhos, y beudy ar dân.

Amrywiol ddamweiniau o ganlyniad i’r tywydd:

(4 Rhagfyr 1884), Corwynt yn taflu car Penybryn dros y clawdd i’r ffordd.
(Medi 4, 1886), Clywais fod mellten wedi lladd aderyn yn Cardigan View, Pwllheli.
(18 Tachwedd 1893), Gwynt mawr o’r Gogledd. Ellis y Postman wedi troi y car a brifo ei ben.
(20 Mai 1899), Terfysg mawr. Lladd buwch yn Penygraig a Ty Mawr Bodferin a llosgi y gwair.

Nid oes sôn am unrhyw un wedi brifo o ganlyniad i’r ddwy “ddaear grynfa” a ddigwyddodd noswyl y Nadolig, 1894, ac ar Fehefin 19eg, 1903. Afiechyd:
Mae'r flwyddyn 1890 yn sefyll allan yn y dyddiadur am y salwch a brofwyd yn y fro. Gellir ychwanegu at y dystiolaeth trwy log ysgol Deunant[3].

6/01/1890: Wm Meillionydd bach yn sal
6/01/1890: School re-opened after Xmas holidays. Many children suffer from influenza and consequently the attendance of this week is very meagre. Only 12 met on Monday morning [dros 100 o blant ar y cofrestr].
7/02/1890: More than a dozen of the scholars are still suffering.
9/02/1890: Mr John [y gweinidog] yn sal
23/02/1890: Roeddwn [WJ] yn sal

Cafwyd marwolaethau 13 person ym misoedd Ionawr a Chwefror y flwyddyn honno, sef: Gwraig Tynewydd; F W Ll Edwards, Nanhoron; mab Bronyfoel; gwraig Efail Bach; Samuel Pwllmelyn; Ann Geyfronbach; gwraig Wm Thomas; gwraig Efailbach; gwraig John Tirmawr; John Jones, Shop Aberdaron; merch Lleiniau; Wm Parry, Shop y Rhos; Griffith Ty Tanyfron. Troseddau:

(2 Mai 1887), Policemen yn dal John Tirmawr am ddwyn defaid.
(27 Ionawr 1893), Schoolmaster y Rhos a Dafydd Dafarn wedi bod yn cwffio.
(27 Rhagfyr 1893), Dirwywyd Ellis Cwmci am greulondeb at y ceffyl (1822: The Cruel Treatment of Animals Act: £5 o ddirwy am gamdrin gwartheg a defaid; 1824: ffurfio'r RSPCA. Dim deddfwriaeth wedyn tan 1911).

Cysylltiadau â’r môr

golygu

Roedd y môr yn rhan bwysig o fywyd ardal Aberdaron; ynghyd â’r pysgotwyr, deuai llawer o longau at y lan i ddadlwytho eu nwyddau. Ym mysg y pethau a gludodd William Jones o’r glannau oedd “cant o benwaig” a heli’r môr o Aberdaron (mis Mai). (Mae ystyr yr olaf yn ddirgelwch ond dydi'r sylw ddim yn unigryw: Nol heli mor a gwman[gwymon] Codog Dyddiaduron Thomas Jones, Cwningar, Niwbwrch, Môn 27 Mehefin 1871)

Cariai Frics botiau o Borthgolmon (potiau i ddal ymenyn, efallai, neu potiau cadw crancod a cymychiad ar ol gwagio'r cewyll?), slates o Borthor, calch o Borthysgaden, a glo o Abersoch, Aberdaron, Porthor, Porthysgaden a Phorthgolmon.

Wedi noson o eira a diwrnod o law a gwynt mawr, drylliwyd y llong "Luther” ym Mhorth Iago ar 24 Ionawr 1884; yn ôl y British Shipwreck Index, roedd yn cario glo o Troon, Yr Alban i St John, Newfoundland. Boddwyd y Capten, Duncan Stewart 43 oed, ei fab William Trail Stewart 15 oed a thri arall ond achubwyd pedwar o’i chriw. Maint y llong oedd 30.55 o hyd, 7.08 o led a 4.59 o ddyfnder. Ar Chwefror 11 Caed corph bachgen perthynol i’r llong. Pythefnos wedi’r llong-ddrylliad, ar Chwefror 7fed, dywedodd William caed yard llong yn Porth Llawen ai mesur 28½ yard. Mae’n bosib mai yard arm y brig “Luther” ydoedd.

Chwefror 12, Gwynt mawr a gwlaw yn y prydnawn Bu farw keeper Cefnamwlch neithiwr, yr oedd yn yr Auction ddoe yn Porth Iago. Dyma lle ddrylliodd y Luther, tybed beth oeddynt yn ei werthu yno?
Chwefror 16 Cawsom casg o porter [mae’r ysgrifen yn aneglur] gan Thomas Williams Penybryn; yna, Chwefror 23 Talais ddeg swllt i Thomas Williams Penybryn am y casg porter.

Yn ôl y sôn, casgenni o gwrw, stowt a wisgi oedd y rhan helaeth o lwyth y llong – tybed ai rhywbeth oddi ar y Luther oedd y gasg o porter? Yn ôl William, Llong arall wedi sincio allan i Aberdaron.

Chwefror 13, “Gwlaw a gwynt mawr. Caed mast llong yn Aberdaron.”

Ddyddiau yn ddiweddarach daeth llong yn ddiogel i Sarn Patrick yn llwythog o wenith a hâd llin. Ar yr ugeinfed o Fai, 1887, daeth llong i Porthor yn llwythog o glai pibelli o flaen y ddrycin. Cofnododd William Gwynt mawr neithiwr ar y diwrnod hwnnw.

Ym Mehefin 1890 “daeth pysgodyn 12 llath o hyd i’r lan yn Aberdaron”.

Meddai William, ar ddydd Sadwrn, 6ed o Ebrill 1901, “Llong fawr yn Porth Ty Mawr Llangwnadl”. Yn ôl adroddiad swyddogol, y “Stuart” ydoedd[angen ffynhonnell]. Roedd y clipper wedi hwylio allan o Lerpwl ddydd Gwener y Groglith ar ei siwrne i Seland Newydd.

Y Darlun isod o “Rhiw.com”

Iron barque Stuart

 Built:    1877 at Alexander Stephen & Sons, Dundee Scotland
 Built for:    J. Hay & Co. Liverpool
 Owner from 1883:    Doward, Richardson & Co. Liverpool
 Port of Registry:    Liverpool
 Official No:    76549
 Code letters:    RCDL
 Tonnage:    912GRT, 855 under deck, 881 net. 
 Dimensions:
 202.5 feet long, 34.2 foot beam and holds 19.1 feet deep; Raised Quarter Deck 33 feet; 
 Forecastle 24 feet 
       

Drylliwyd y Stuart ar y creigiau ger Porth Ty Mawr, Llangwnnadl; ymhen ychydig ddyddiau cododd y gwynt a chwythwyd ei mast i lawr yn erbyn ochr y llong a’i dyllu. Golchwyd y nwyddau i’r lan ac yno bu trigolion yr ardal yn eu casglu – llestri, canhwyllau, matsus, pianos, gorchuddion llawr ond yn bennaf, wisgi, yr hyn a gafwyd ei flasu fesul poteli a chasgenni ganddynt. Rhoddwyd enw newydd ac addas i’r porth – “Porth Wisgi”[angen ffynhonnell].

Y Stuart

“Aeth llong i’r lan yn glan môr Nevin” yn ystod gwynt mawr ar 22ain o Ragfyr 1894, ddeuddydd cyn y tir gryniad. Nid oes sôn yn y British Shipwreck Index am long-ddrylliad ar y dyddiad yma, felly gallwn ganiatau mai dod i’r lan i ddadlwytho neu i gysgodi a wnaeth y llong.

21 Ionawr 1887, Caed yaught heb ddim pobl yn agos i Porthtynllaen
31 Mai 1887, Ffair auction ar long yn Porthor.
1 Mehefin 1887, Steamer yn myned o Aberdaron i Aberystwyth
25 Mehefin 1887, Steamer yn myned o Aberdaron i Gaergybi
17 Ionawr 1891, Capten Jones Bodwrdda wedi colli ei long

Dadlwytho glo ar draeth Abersoch (Llun o “Bwletin Gwasanaeth Archifau Gwynedd”)[delwedd]

Cysylltiadau ag Ynys Enlli

Gydag Aberdaron y pentref agosaf fel yr hed y frân i Ynys Enlli, mae'n deg gofyn peth oedd perthynas WJ a'r ynys.

29 Mawrth 1887: Cael dau hobed o haidd o Enlli a gyru chwech sachaid o had gwair i Enlli
24 Mai 1888: Cael y sachau o Enlli
6 Gorffennaf 1891: Bu Moris Nant Enlli yma yn prynu moch bach pedwar
20 Gorffennaf 1892: Pedwar o foch bach yn myned i Enlli
16 Ebrill 1895: Nol saith Bag o lwch o'r Pentre a dau Hobed o haidd o Enlli Talais
2 Gorffennaf 1895: Gwerthu yr Hwch i G. Roberts am 2¼ y pwys Gwerthu 6 o foch bach i G. Ty pella Enlli am 12/6 yr un Talodd am danynt

Gwaith pob dydd

golygu

Moelfre a'r cyffinau

golygu

Yr Eiddo

golygu
 
Moelfre 2012 gyda Mynydd yr Ystum yn y cefndir

Tenantiaid ydoedd y teulu ym Moelfre a byddent yn talu rhent am y fferm i W Charles Wynne-Griffith ym Mhwllheli bob mis Ionawr a Gorffennaf. Ym mis Mehefin 1889 dechreuodd “ail-wneud” Moelfre – symudodd y dodrefn i’r ysgubor ac yno bu yn cysgu hyd 28 Hydref, pan fudodd yn ôl i’r tŷ. Medi 19, “bu’r seiri yn rhoddi ais at y plastrio…”

Dyma rai o'r gweithgareddau fu'n rhan o'r gwaith hwn:

“Cario at y Building”, yn dechreu Mehefin 18, 1889; Mehefin 18, Llwyth o gerrig o Aberdaron; Mehefin 19, 2 lwyth o gerrig o Aberdaron; Mehefin 24, 2 lwyth o galch o Porthysgaden; Mehefin 25, 2 lwyth o ro o Aberdaron; Mehefin 26, 4 llwyth o gerrig o’r Gilfach; Gorphenaf 3, llwyth o ro o Aberdaron; Gorphenaf 4, 6 llwyth o gerrig o’r Gilfach; Gorphenaf 8, 2 lwyth o goed o’r Sarn; Gorphenaf 17, llwyth o ro a cherig o Aberdaron; Gorphenaf 19, 11 llwyth o slates a teils o Porthor; Gorphenaf + llwyth o gerrig o Aberdaron; Gorphenaf 25, llwyth o Pwllheli; Awst 1, llwyth o ro o Aberdaron; Awst 2, 2 llwyth o bricks o Porthgolmon; Awst 3 llwyth o ro o Aberdaron; Awst, llwyth o ro o Aberdaron a llwyth o gerrig o’r Gilfach; Awst 7, llwyth o ro o Aberdaron; Awst 8, llwyth o ro o Aberdaron; Awst 10, llwyth at y building o Pwllheli; Medi 21, llwyth o ro o Aberdaron; Medi 23, llwyth o ro o Aberdaron; Medi 24 llwyth o ro a bricks o Aberdaron; Medi 27, llwyth o galch o Aberdaron; Medi 28, dau lwyth o galch o Aberdaron; Medi 30, llwyth o ro o Aberdaron; Hydref 1, Dau lwyth o ro o Aberdaron; Hydref 2, Dau lwyth o ro o Aberdaron; Hydref 4, Dau lwyth o ro o Aberdaron; Hydref 5, Dau lwyth o ro o Aberdaron; Hydref 8, Dau lwyth o ro o Aberdaron; Hydref 9, llwyth o ro o Aberdaron; Hydref 11, Nol tri grat o Pwllheli.

Fis Awst 1894 prynodd WJ Llain Tynrhos am £25.0.0 ac wedyn mae llawer o sôn am adeiladwaith yno – prynu brics, llechi a theils; coed at y gegin, ac yng Ngorffennaf 1895, Talu i Lewis saer cerrig 16/- gweddill am adeiladu cegin yn Tynrhos, y cwbl yn £4-16-0. Yn y Fachwen bu’n ail adeiladu cegin, lefelu llaesodau a phalmantu y beudy yn ystod 1900. Derbyniai arian rhent am Tyn Rhos, Cae Engan, Fachwen, ac am “dŷ yn y Parc”. Yn ôl map y Degwm, 1844, roedd y Parc yn gae 25 acer wedi ei leoli wrth Gapel Bethesda, Rhoshirwaen – tua milltir o Foelfre.

Ym mysg y rhestrau neges mae:

Edau sachau modrwyau moch gwialen ffyst wig lamps Obaduldo Laudanum pot tar crysbas Pills Lemon candy currants raisins Cauad sospan cryman het embrocation Coler ceffyl calan [enw'r ceffyl?] split peas rhaw Troed pigfforch pigfforch pen cribin Emes fruit salt Modrwya moch gwadan gwydd Oil gear Lantern Rhaff rwyon [aerwyon?] Mwrthwl warehouse Boilar Cyllell wair Hoelion carwdan Hoelion scriws Fforch deilo Rhaw garthu Sment lamp Wire tapiau Bol llo bach llif fain Gwydr Nodwydd fawr Trapia tyrchod Blwch eli Blwch pills Troed caip[caib?] Quilt gwely Dolenau hangings Gwn Black varnice Penffrwyn Embrocation Seidlits Powders Strap monkey Nodwydd saddler Lastic 4 yards gwyn Talu am y strodur

Prynodd “Gun a glofs” (gwn a menyg?) ym Mhwllheli fis Mehefin 1890, saethodd lygoden fawr ar Orffennaf 7fed

Ar glawr y Dyddiaduron mae llawer o nodiadau diddorol wedi eu hysgrifennu (yn eu trefn):

1886

Owen Williams, Saddler, 5 Castle Square, Carnarvon
Bill i Wm Evans y Gof y flwyddyn 1887
Ionawr 3 Gwneyd 6 modrwya moch
Chwer 2 Cael swch newydd ar y gwydd
Chwef 10 Modrwya moch 6
[Chwefror] 23 Pedair pedol i Queen
[Chwefror] 28 Rhoddi dur ar y Cwlltwr
Mawrth 2 Sharpio tair ebell [ebill?]
[Mawrth] 5 Cael heiyrn llidiart
[Mawrth] 8 Gwneyd stwffwl meinsiar

Y Cartref

golygu

Celfi:(18 Ionawr 1887) aeth Ellin i brynu “dicin gwely” i siop Penycaerau. 13 Mawrth 1890; Prynais Cheffoneer [[[Chiffonier]]] yn auction Tynllan. Talais 3 punt a swllt a chwecheiniog am dani; 7 Ebrill 1890, Cael treser newydd gan Richard Tanyffynnon; 23 Ebrill 1890, Bu Ellin yn Pwllheli yn prynu plates ar y dreser; 2 Mai 1890, Prynais ddau wely yn Pwllheli; 18 Mehefin, prynodd quilt gwely a charped llofft. Wythnos yn ddiweddarach daeth ei chwaer, Catherine a’i gwr i Foelfre i aros ac ar 27 Mehefin bu yn ffair Sarn yn nol matiau; 25 Awst 1893, Bu Low bach yn glanhau y cloc; 15 Mawrth 1895, prynodd gloc gan Dafydd Griffith a daeth James Thomas yno i’w glanhau ymhen pum niwrnod; daeth drachefn i’w lanhau ar Fawrth 30, 1896 ac ar Chwefror 1af 1898; 11 Medi 1893, Prynodd “grate boiler” am 5/- a daeth John Parry yno i’w gosod am 4/-; Awst 1896, cafodd garped (a staes) newydd a thalodd £1-3-9 i Miss Hughes Carnarvon amdanynt.Nodyn:Elfen o wella'r cartref yn 1890 ar ol y gwaith atgyweirio a helaethu?

"Bro" William Jones oedd Rhoshirwaun ar gyrion Aberdaron. Mae sôn am Roshirwaen yn llyfr Gwallter Mechain (Walter Davies, yn rhinwedd ei swydd fel arolygydd amaethyddol), (Tud 270), disgrifiad sydd yn gosod seiliau y drefn oedd yn waddol i WJ yn hwyrach yn y ganrif:

In Caernarvonshire, Acts of Enclosure have of late been numerous. About the year 1803, an Act was obtained to enclose Rhos Hirwen, a waste of improvable soil, in Lleyn, consisting of about 3000 acres. It is inhabited by scores of cottagers, who have made encroachments thereon, and consider themselves as tenants in fee; so much so, that the opposition shewn by them has hitherto frustrated the execution of the Act. Upon this subject, a correspondent writes in the following terms. I confess I am no advocate for the enclosure of Rhos Hirwen. Its poor inhabitants support themselves by the fisheries on the coast, without being burdensome to the parishes; and are ready hands for the farmers in the labouoring seasons. If these are ejected out of their residencies, which I find will be attempted, where will they move to? – To the trading towns, navy, army, and particularly to America. The old and infirm must remain, and live upon the scanty allowance of the parishes. By thus enclosing, the landed proprietors will enlarge their bounds; but it will not conduce to add a handful of corn to the stock of provisions. There are here in Lleyn, in other parts of this county, and in Anglesey, many thousands of acres, not less I believe than two-thirds of the whole, lying in an uncultivated waste state. Were the proprietors to compel, or rather to encourage, their tenants to cultivate these already enclosed wastes, I am confident the produce would be much more than double what it is at present, both in corn and cattle, without any further enclosure of wastes. Anturiodd nifer o drigolion yr ardal i’r America; yn eu mysg oedd:

Ionawr 19,1884 Catherine, merch Brynbadell; Hydref 4, 1884, merch Ty Topyn; 26 Chwefror 1886, William ac Evan a Margaret Llynygelod; 12 Tachwedd 1886, Clywed fod Thomas y Brychdir wedi marw ymhen naw diwrnod ar ol cychwyn o Liverpool a’i gladdu yn y môr; Ebrill 8, 1886, Dafydd y Fachwen; (bythefnos ynghynt roedd William wedi ysgrifennu llythyr i Dafydd i’w anfon i Liverpool – hyn i drefnu’r daith, efallai? Derbyniodd William lythyr o’r America gan Janet y Fachwen Mehefin 7, 1889); Rhagfyr 9, 1887, Robert Davies Shop Sarn wedi diangc i ffwrdd i America; Mawrth 1, 1889), Roland a Mary, Llynygelod; Ionawr 1, 1890, Rolant Llynygelod wedi syrthio a thori ei wddf yn America; Ionawr 2, 1890, Rolant wedi marw; Mawrth 21, 1889, Thomas, mab Pencaera a Hugh, mab Ty’r Efail; Mawrth 14, 1890, Daeth Jane y Fachwen adre o’r America; Ebrill 12, 1890, John brawd Thomas Penybryn wedi dyfod o’r America.

  • Ffair Pwllheli

Mae William yn sôn bod ffair ym Mhwllheli yn gyson.

22 Mai 1886: Ffair yn Pwllheli. Pris bychan ar yr Anifeiliaid. Ni bum yno.
11 Tachwedd,1886: Ffair yn Pwllheli i gyflogi
  • Ocsiwn

Mynychai William arwerthiant yn weddol gyson; bu ddeuddydd yn olynnol yn ystod Hydref 1890, Auction yn Aberdaron ar anifeiliaid gwartheg ceffylau a defaid; Bum yn Rhwngddwyborth yn yr auction ar y stock.

  • Gwyl yr Ariandai, Hamddena a Regatta Aberdaron

Cynhaliwyd regatta yn Aberdaron ar ddydd gwyl y banc fis Mai neu Fehefin yn flynyddol ac ar Fai 30, 1898 cafodd y ceffyl yr ail wobr yn y sioe; ar Fai 29, 1899 roedd “Cattle and horn show a regata yn Aberdaron”.

Byddai ffair gyflogi yn Sarn a Phwllheli tua chanol Ebrill neu Dachwedd a chai’r gweision a’r morynion ddeuddydd neu dri o wyliau “pentymor” yr adeg honno. Aeth Ellin (morwyn Moelfre) ac Ellin morwyn Hendre “i rodio i Sir Fôn” am dridiau yn ystod Mai 1887. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach aeth y ddwy “i rodio at Garnarvon”.

Ar ŵyl y banc fis Awst 1890 cynhaliwyd “athletic sports” ym Mhwllheli; ychydig ddyddiau wedyn bu plant ysgol “Nevin” yn Aberdaron” – tybed ai achlysur addysgiadol ynteu hamddenol ydoedd?

Defodau ac Arferion

golygu

Ni fyddai WJ yn talu sylw i ddydd y Nadolig – diwrnod arall o waith ydoedd yn ôl pob tebyg. Yr unig nodwedd arbennig oedd yn arwain at yr Ŵyl oedd lladd y gwyddau a’u dosbarthu i’w ffrindiau a theulu; nid oes sôn am bwysau na phris yr adar, felly gallwn feddwl mai anrheg oeddynt. Cafodd Captain Williams, Cardigan View, Pwllheli ŵydd ganddo 14 Ionawr 1888 ac ar 31 Rhagfyr 1895. Anfonodd wyddau i’w chwaer yn Llwynhendy ar 22 Rhagfyr 1902. Cadwai William cyfrif manwl o bwysau a phris wrth werthu moch, defaid a gwartheg.

Yr unig arwyddocâd at y Pasg oedd yr arferiad o ddechrau plannu tatws yn yr ardd o gwmpas dydd Gwener y Groglith

14 Chwefror 1880: Bu Ellis Ty Hen yn llosgi dyn gwellt.
13 Chwefror 1886: Bu Griffith y porthmon moch yma… Hen ŵyl Fair, neu hen Ŵyl y Goleuni.
13 Chwefror 1867: Hen ŵyl Fair.
Meddai Twm Elias: Dyma'r unig gyfeiriad at y math yma o beth i mi ei weld. Ai adlais sy' yma o hen Wyl y Goleuni (Chwefror 13) pryd y cynheuid coelcerth a llosgi'r celyn oedd wedi gwarchod y teulu a'r anifeiliaid dros gyfnod y dydd byrraf. Lludw'r celyn wedyn yn cael ei wasgaru ymysg y cnydau oedd yn cael eu hau yn y cyfnod hwn. Yn wreiddiol, roedd hau yr had i fol y fam ddaear yn esgus am hanci-panci! Cristioneiddiwyd hen Wyl y Goleuni baganaidd drwy benodi'r santesau Ffolant a Dwynwen fel santesau cariad (gwyryfon ymgysegrodd i gariad eneidiol yn hytrach na chariad corfforol sylwer!). Y Forwyn Fair (wyryf) yn lle'r fam ddaear, canhwyllau'r offeren (Gwyl y Canhwyllau, Chwefror 2il) yn lle'r goelcerth, ac wrth gwrs Dydd Mercher y Lludw (gwyl symudol 40 niwrnod cyn y Pasg), sy'n digwydd o gwmpas y cyfnod hwn. A oes rhywun arall wedi dwad ar draws rhywbeth tebyg?[4].

Prynu, gwerthu a ffeirio

golygu

Roedd amryw o siopau yn ardal Aberdaron.

Arferai William brynu glo fesul llwythi o 15 cant gan Thomas Williams yn Aberdaron. Hydref 17, 1893 cafodd dri-chwarter cant o frics am 6/9 o shop McNeil yn Aberdaron ond ar Ebrill 5, 1894 aeth “Shop McNeil ar dan”. Gwelwn fod y busnes wedi parhau i redeg oherwydd ar Awst 25, 1894 cafodd “slates, bricks a crib tiles” oddi yno, ac ar Hydref 4, 1902 prynodd 15 cant o lo oddi yno am £1-2-6. Bu yn nôl cinders o’r Felin (17/12/95), cwlm o Felin Bodwrdda, a chalch o Porthysgaden. Fis Rhagfyr 1891 prynodd “stove oil am 17/6” mewn siop ym Mhwllheli.

Gwerthai ymenyn fesul poteidiau yn pwyso tua 56 pwys (ar gyfartaledd) i Lowry Jones, siop Caerhos (mae cofnodion o hyn rhwng Tachwedd 1888 a Thachwedd 1903) a phrynai “Indian Meal”, “third”, “bran” a “blawd llwyd” fesul sachaid oddi yno. Prynai Indian Meal yn y Brychdir hefyd.

Gan Griffith Griffiths, Glanrhyd prynai Indian corn, blawd, blawd double a halen. ‘Physig’ o siop Bryngloch; “oil lamp, tea, siwgr a triagl” yn Brychdir “gwin, gin a cwrw” yn y pentre; linseed oil fesul galwyn a sweet oil yn Penybryn (6 Ebrill 1889), hefyd, linseed oil yn Penycaerau.

3 Gorffennaf, 1886: Bum yn Pwllheli yn talu y rhent, Cael dau swllt y bunt o rodd.
28 Medi, 1886: Prynais heffer yn Bogelus bach am £4-5-0. Cefais swllt o rodd.
Mehefin 1898: Gwerthu buwch am £13; llo am £3 cael swllt o rodd”; gwerthodd ddau ddynewaid i Robert Jones. Talodd £22 a rhoddodd 7/6 o rodd.
Hydref 4, 1898: …Cael llo o Sychnant. Talais £8-0-0 cael swllt o rodd.
Mawrth 3, 1896: Gwerthais 5 o foch i Griffith Roberts am 2¾d y pwys a swllt yn y blaen.
Mai 4, 1896: Talais £2-7-0 am flawd yn Glanrhyd, cael swllt o discount.
  • Ffeirio

Mae ychydig o gofnodion am “ffeirio oen” gyda gwahanol ffermwyr,

Gorffennaf 12, 1884: Ffeirio oen myharen efo Griffith Meillionydd Bach.
Mehefin 19, 1886: Bu Evan Evans yma yn ffeirio oen
Awst 12, 1887: Bum yn Bodwrdda Ffeirio oen myharen.
Medi 20,1899: Robert Rhydymeri yma yn ffeirio oen myharen.

Hefyd, byddent yn ffeirio wyau, tatws ffa a dofednod.

Mai 5, 1886: Bu John yr Hendre a’r wraig yma yn ffeirio wyau.
Ebrill 19, 1888: John Llidiardau yma yn ffeirio wyau whiad.
Ebrill 5, 1889: Robert Bogelus Bach yma yn ffeirio tatws.
Mai 14, 1890: Bu Lisa Bogelus Bach yma yn ffeirio wyau.
12 Ebrill, 1901: Cael sachaid Indian Meal gan Robert Ellis yn lle ffa.
7 Rhagfyr 1901: Feirio [sic] turkey am geiliogwydd.

Dillad

golygu

Prynai ddefnydd i wneud dillad yn Pencaerau ac yn y ‘factory’ wlan. Yn shop Aberdaron cai ddefnyddiau a ‘trimins waistcoat’. Bu Catherine Jones ym Moelfra yn gwnïo a phwytho deirgwaith yn ystod Ionawr 1880, ac ar Ionawr 14, aeth y ddau i’r pentre i brynu crysau. Talodd 2/- i Catherine Bryn Caled am wneud trowsus iddo (29 Rhagfyr 1903), tybed ai hi fu yno yn gwnïo yn 1880?

Mawrth 12, 1889: Cael coat a dwy waistcoat. Talais ddeg a chwech am ei gwneyd i’r Tailor.
Ionawr 31, 1890: Ellin yn prynu engine bwytho. Talu Talu am dani.

Cafodd wlanen crysau o Llwynhendy fis Tachwedd 1900, oddi wrth ei chwaer, Catherine mae’n debyg.

22 Medi 1896: Talu 11/0 i Wm Bryncaled am wneyd jacket a dwy waistcoat, felly ni fu Ellin yn defnyddio’r “engine bwytho” i wnio dillad i William Jones.
23 Ionawr 1887: Catherine (y forwyn) wedi cael staus newydd a het.
23 Chwefror 1887: Cael deunydd trosau o’r Pandy.
3 Mai 1887: Bum yn y pentref yn cael defnydd jacket Russel cord.
27 Rhagfyr 1897: Cael y wlanen o’r south.
25 Mai 1898: Bum yn Pwllheli. Prynu coller a cap Talais £1-17-6 am danynt a monkey.
  • Offer

Rhai o’r celfi a ddefnyddiwyd ar y fferm

7/6/1884: Thomas Penybryn y bryn yn dyfod a crwc
25/6/84: Thomas Penybryn yn gosod pladur a chael stric newydd
9/5/188: Gosod strocan i’r drol
27/11/1886: Gogrwyn had gwair
18/6/1887: Rhoddi Coal Tar hyd y Gwaith malu.
22/1/1894: Cael chwysigen gan J Hughes Tynrhos.
17/1/1897: prynais gyllell wair a cefndras (cefndres – backchain)
5/11/98: Danfon ffagodau i’r Fachwen i gau yr adwyon
24/11/1898: Daeth R Jones y float a dau lorp car trol yma o Pwllheli. Talais 1/6??

Prynodd wn ddechrau mis Mai 1890 ac ar Orffennaf 7fed, saethodd lygoden fawr. Prynodd wn arall yn shop Hebron ar Orffennaf 10fed, 1897.

Eitemau eraill y soniodd amdanynt o bryd i'w gilydd oedd meinsiar (i falu mangolds), corddwr, buddai (fudda, corddwr), cwlltwr, swch a gwadan i'r gwŷdd, melin eithin, dyrnwr

Soniodd unwaith ar 22 Mehefin 1888 am "ebill" yn dod i dreio am lo [Glo] yn y Rhos.

Y Tywydd

golygu

Nid oedd William yn rhoddi sylw i’r tywydd yn ddyddiol, ond cawn syniad gweddol amdano ar y cyfan. Wrth gyflwyno cofnodion WT fe'u cymherir â chofnodion eraill sydd ar gael.

Creuwyd y tabl uchod gan Dr Herschell yn 1834 i’r ‘Old Farmer’s Almanac’ yn y Boston Courier; mae’n debyg bod rhaid ystyried y gwahaniaeth amser rhwng America a Phrydain cyn penderfynu ar rhagolygon y tywydd.

Tywydd "eithafol"

golygu

Llifogydd Awst 1880 7 Awst 1880: Llifogydd mawr yn dod i’r weirglodd.

Dolgellau 6 Awst 1880: ...Was nearly driven mad by midges. Evening fine and clear.[5] Faenol Isaf, Tywyn 7 Awst 1880: diwrnod gwlawog iawn y gwlaw trymmau a welson braidd yn aml[6] Dolgellau 7 Awst 1880: I lingered about up to the Meeting of the Waters in the hopes that it [lefel yr afon] would fall, but it did so very slowly, and was a white milky mud colour. The wind, after a sharp thunderstorm, veered round to the NE and it continued showery and turned much colder I never saw the Mawddach so high before; the water was splashing over Bryncemlyn Bridge. The Wnion rose a great height and a great many fields were under water.[5]

Corwynt Aberdaron Rhagfyr 1884
4 Rhagfyr 1884 (diwrnod etholiad y Sir[7]): Corwynt yn taflu car Penybryn dros y clawdd i’r ffordd. Dim tystiolaeth arall o'r corwynt yma am gyfnod byr o ddau ddiwrnod.

Terfysg Medi 1886
4 Medi 1886: Clywais fod mellten wedi lladd aderyn yn Cardigan View, Pwllheli

Goginan, Aberystwyth 4 Medi 1886: Great Thunder[8] Penygroes, Arfon 4 Medi 1886: ...mi ddaeth yn law Tua un o'r gloch, ac erbyn hanner awr wedi wyth mae hi yn law a Tharanau a Mellt mawr a goleu ofnadwy iawn, Mae y menyn yn Sobor o feddal, mae o fel saim cig moch lats[sic.][9] Llanystumdwy, Eifionnydd 4 Medi 1886: [teithio o "Port" i Blaenau ]... To Calfaria {sic} Baptist] Chapel meetg in evening..... Terrible thunderstorm burst over the country whilst in [Calfaria {sic} Baptist] Chapel – most vivid flashes[10] Goginan, Aberystwyth 5 Medi 1886: Great Thunderstorm passed over here in the afternoon[8] Maentwrog 5 Medi 1886: At Dr Evans. Drove with him to Maentwrog. Up hillside for [white? which? .... aneglur iawn] plums – enjoyed drive immensely. In returning a heavy thunderstorm overcame us and almost drenched us[10] Goginan, Aberystwyth 6 Medi 1886: Raining heavily in the afternoon[8]

Gwelwyd y terfysg yma felly dros fesur helaeth o orllewin Cymru o leaf.

Storm Tachwedd 1893
16 Tachwedd 1893: Gwynt mawr o'r deheu ar 16 Tachwedd a gwlaw mawr gyda'r nos.
17 Tachwedd 1893: Gwlaw mawr neithiwr.
18 Tachwedd 1893: Gwynt mawr o’r Gogledd. Ellis y Postman wedi troi y car a brifo ei ben.
19 Tachwedd 1893: sychu
West Shore, Llandudno 17 Tachwedd 1893: 17-20 Nov 1893... A tremendous gale. One of the casualties was the Ivanhoe of Glasgow carrying a cargo of oranges from Liverpool to Cardiff. It narrowly missed being dashed to pieces on the Great Orme[11]

Eira Mawr Mawrth 1886
1 Mawrth 1886: Eira mawr yn llywchfeydd mawr. Cario dwfr i mewn i’r gwartheg. Parhaodd ddau ddiwrnod; cofnododd Eira mawr Daeth dau oen bach ar yr ail.

Roedd 28 Chwefror i 2 Mawrth yn cyfnod byr o eira trwm yn rhagflaenu gwanwyn oer a gwlyb[12]

Daeargryn Nadolig 1894
24 Rhagfyr 1894: daeargryn noswyl y Nadolig
Clywyd y ddaeargryn hon hefyd yn Llanfrothen: Daeargryn 11-30 y boreu 24 Rhag 1894[13]. Ni chanfuwyd unrhyw gyfeiriad arall at y ddaeargryn hon hyd yma, ac nid oes son amdani yn Davison (1924)[14]

Storm Fawr 6 Hydref 1896
8 Hydref 8fed, 1896: Gwynt mawr y môr yn difrod trwy bentref Aberdaron. Hwn oedd y storm a ddifrododd y tai uwchben y traeth yng Nghricieth: CRICCIETH. THE RECENT STORM — The recent storm [ar y 6 Hydref oedd y storm hwn ond ni chyfeirir yma at y dyddiad yn yr adroddiad] caused considerable damage to proprty near the sea shore. From the Black Rock right away to Afonwen the shore still bears evidence of the destruction caused. The esplanade seems to have suffered the greatest damage. There the sea came over and flooded the basements of the houses. A Mrs Roberts who was bed-ridden was occupying a basement room of the houses at the time and was only rescued with considerable difficulty and danger. The coping and rails on the top of the sea wall were taken off and rolled right across the promenade, some of the blocks of concrete weighing quite a ton or two in weight. The wall itself, however, does not appear to have suffered any damage. Mr Owen Griffith, who occupied a small cottage at Abermarchnad, was left houseless, both house and furniture being carried away by the sea. The cottage gardens at Merllyn now appear as a part of the shore, being covered with stones and sea-weed, and the out buildings were also thrown down. The fencing along the railway from Caerdynni to the Black Rock was broken down by the [storm?]. On the east side of the Castle the sea came up to the boat sheds and did much damage. The boats and canoes were hurriedly taken up to the top of the oliffs for safety but the sheds were damage and a photography studio belonging to Mr J. W. Jones was carried away. One or two helpers had very narrow escapes in attempting to save the boats from being carried out to sea. The waves did some damage to the sea wall here also and the sea came over the roadway near Lower House and damaged the [ ] at Abereistedd. Acres of land were under water near Ynysgain fawr and Aberkin, and a railway bridge near the Dwyfor River was damaged.[15]

20 Mai Gorffennaf 1899: Terfysg mawr. Lladd buwch yn Penygraig a Ty Mawr Bodferin a llosgi y gwair.

19 Mehefin 1903: dear gryn am 12 munud wedi 10 y boreu. Roedd William yn eithaf cywir am amser y ddaeargryn. Dyma drafodaeth am y grynfa hon o safbwynt William Jones a chanfyddiad pobl ei gyfnod:

Cysoni’r clociau
Duncan Brown
Mae'n debyg y bu William Jones yn eistedd o dan y cloc mawr wrth fwrdd gegin fferm Y Moelfre, Aberdaron am ddeuddeg munud wedi deg ar y 19ain Mehefin, 1903 pan glywodd y "ddaeargrynfa" gan mai dyna a ddywed ei ddyddiadur. Roedd WJ yn ffermwr, yn ofalus o'i bethau, yn biler ei gymdeithas ac yn hen lanc ceidwadol ei ffordd. Yn 1895, wyth mlynedd ynghynt, prynodd gloc ail law gan Dafydd Griffith a daeth un James Thomas heibio bum niwrnod wedyn i’w lanhau. Glanhaodd James y cloc flwyddyn wedyn hefyd ac yn 1898 daeth “James y saer”(yr un James tybed?) i’w drwsio. Daeth James yn ôl yn 1901 i’w lanhau unwaith eto. Roedd cloc William Jones felly yn y cyflwr gorau posibl, er nad yw’n glir o’i ddyddiaduron p’un ai peirianwaith y cloc ynteu ei gloriau oedd pwrpas sylw’r saer.
Yn y North Wales Chronicle yr wythnos honno cofnodwyd cryndod "about 10 o'clock". Yn ôl y papur clywyd y sioc dros ardal eang, o Feirionnydd trwy Gaernarfon i Fangor, a hyd yn oed mor bell i ffwrdd ag Ynys Manaw. Yng Nghaernarfon ymdebygodd y cryndod i ffrwydriad fawr, neu grwmian tren (ydyn nhw’n synau tebyg deudwch?), ac fe ysgwydodd y tai at eu seiliau gan ratlo'r ffenestri. Parhaodd y grynfa am ddeg eiliad meddai’r papur. Yn y Gadeirlan ym Mangor tynnwyd y gwasanaeth i ben cymaint oedd braw y gynulleidfa (er mai dydd Gwener oedd y diwrnod hwnnw a dim byd wedi ei nodi ar y calendr Eglwysig i deilyngu addoliad!). Ym Mhwllheli credai'r trigolion bod saethu mwy na'r cyffredin yn cymryd lle yn chwarel Carreg yr Imbill, ac yn chwarel Moel y Gest dechreuodd y gweithwyr ymadael â'r safle yn eu dychryn. Cymylodd yr wybren yn dywyll cyn y grynfa – meddai’r papur… Bedyddwyd y ddaeargryn hon yn " The Caernarvonshire Earthquake" gan y Gymdeithas Ddaearegol Brydeinig. Meddai'r gymdeithas ddysgedig hon "It [y cryndod] occurred at 10h. 04m. and had a magnitude of 4.9ML.
Digwyddodd y cryndod yn swyddogol am bedwar munud wedi deg y bore felly. Yn ôl WJ digwyddodd am ddeuddeg munud ar ôl deg? Sylwn nad "10 o'r gloch", na "chwarter wedi deg" a gofnodwyd yn y naill achos na’r llall - dim hyd yn oed y ffigwr taclus crwn rhwng cyffredinoliaeth a chysactrwydd "10 munud wedi deg". Na, mae'r ddwy adroddiad yn mesur i'r funud, ag wyth munud o wahaniaeth rhyngddynt. Pwy oedd yn iawn - yr hen ffermwr duwiol dibynadwy a brofodd y cryndod yn bersonol, ynteu gwybodusion y gymdeithas ddysgedig yn eu tŵr ifori bell a dynnodd mae’n siwr ar dystiolaeth rhwydwaith o gofnodwyr gwyddonol lleol, os nad peiriannau. Beth allai gyfri am y gwahaniaeth? Oedd y grynfa yn teithio fel ton o Feirion i Fanaw, a’r naill dyst wedi ei "ddal" cyn iddo gyrraedd lleoliad y llall. Digon o waith. A gymerodd WJ wyth munud i ddod ato'i hun ar ôl y braw cyntaf? Ynteu a oedd cloc mawr William Jones, er gwaethaf yr holl ofal, 8 munud yn fuan.
Sut oedd pobl yn gwirio eu clociau ym 1903 a chynt heb na radio na ffôn? Bu Marconi wrthi'n datblygu dulliau o drosglwyddo negeseuon o Gefn Du, Waunfawr ers blwyddyn cyntaf y ganrif ond technoleg yn ei fabandod oedd hwn ar y pryd. Roedd Almanaciau yn hynod gyffredin a phoblogaidd yn y cyfnod ac yn cynnwys gwybodaeth crefyddol, chwedlonnol a ffuglennol yn ogystal â gwybodaeth ffeithiol am amseroedd gwawr a machlud, y penllanw a’r trai, wedi eu clandro gan wybodusion eraill yn eu tyrrau hwythau. Oni fuasai'n bosibl sincroneiddio clociau i'r funud ar sail amseroedd machlud yr Almanaciau?
Mae’r problemau ynghlwm wrth gysoni amser yn britho hanes, rhwng yr ymrafael rhwng y calendrau Jiwliaidd a Gregoraidd ar y naill law i ymdrechion Albert Einstein i ddatblygu ei Ddamcaniaeth Perthnasedd (Theory of Relativity) ar y llaw arall, trwy gysoni ei “gloc” rhwng dau le i gysactrwydd o fili-eiliadau. Efallai bod William Jones yn ei ffordd, fel Einstein, yn hen law ar fyfyrio yn y capel ddydd Sul ar ei berthynas yntau â’r bydysawd a’i dduwdod. Ond heb iddo feistroli’r gamp o gysoni amser ei gloc gyda chloc y fferm drws nesa – heb sôn am Greenwich bell – mae union amseriad y ddaeargrynfa y bore Gwener hwnnw yn 1903 yn ddirgelwch o hyd[16].

Dyma rai cymhariaethau tywydd rhwng dyddiaduron William Jones a llyfr Log Ysgol Deunant (gweler yn y mannau priodol am gymariaethau tebyg eraill):

  • Eira Chwefror 1900
09/02/1900: Eira
09/02/1900: Snow storm this afternoon.
12/02/1900: Eira mawr
16/02/1900: The blizzard and snow storm mentioned last week continued to rage on Saturday and Sunday but although it had abated by Monday the attendance was not nearly what it ought to be even after allowing for the weather and illness

Hwn yn storm eira cofiadwy yn feterolegol yn ôl Kington 2010[12]. Tybir bod unrhyw eira ym mwynder Penlly^n pellaf yn arwyddocaol.

  • Glaw Mehefin 1899
23/06/1899: Dim cofnod gan WJ
23/06/1899: …the beautiful rain so much needed kept away a few of the children this morning.

Ar ôl cyfnod sych iawn yn amlwg Yn ol Kington 2010[12] cafwyd sychder haf a tannau mynych ar y tiroedd comin.

Y Fferm

golygu

Yr Anifeiliaid

golygu

Gwartheg

golygu

Cyfeiriai at y buchod fel Benwen, y fuwch felen, Mary, Heffer Bach, Llo mawr, Sarah, Hesbin ddu, Clustwen, Mary Bach, Heffer ddu, Dynewad ddu, Lock, Mary las, Blackan, Dynewad benwen, Heffer las, Dynewad bach, Heffer fawr, Dynewad las, Corn mawr, y Fuwch las, Corn cam a Coesau gwynion. Arferid eu danfon at y tarw yn Hendre Ucha, Hirwaen neu Bodwrdda. Fel rheol, deuai’r gwartheg â lloi rhwng Tachwedd a Mai. Benwen, Blackan, Mary a Sarah oedd y rhai mwyaf cynhyrchiol. Benwen oedd y frenhines gan iddi ddod âg unarddeg o loi rhwng 1884 a 1902, daeth Blackan â deg rhwng 1891 a 1903, Mary â deg rhwng 1885 a 1897 a Sarah â naw rhwng 1884 a 1897.

Pedwar llo a brynodd yn ystod y blynyddoedd hyn; un o Bryn Goronwy, un o Penybryn am 18/-, un gan Richard y gwas am £1-0-0, ac un arbennig iawn, mae’n rhaid, o Sychnant – talodd £8-0-0 amdano a chafodd 1/- o rodd. Fis Medi 1903 mae’r cofnod llo wedi chwyddo, gwella ar ôl ei sticio. Dranoeth cafwyd “physig i’r llo gan ffarier Sarn.

Byddai yn gwerthu beef i’w gymdogion fesul chwarter:

Ionawr 10 – 1899 Gwerthu chwarter rhwng pedwar John Bogelus Bach, Arthur Gilfach, Richard y gwas a John y Carrier. Talasant am dani 13/6 bob un Chwarter i Gwraig Tynrhos yn pwyso 5 ugain a phedwar ar bumtheg. [wedi talu £2-7-6] Hanner Chwarter i John y Brychdir yn pwyso Tri ugain a thri.

Prynodd gig llo gan John, yr Hendre fis Mai neu Fehefin yn 1885, 1886 a 1893 (tamaid amheuthun? Achlysur?)

At y baedd ym Meillionydd, Deuglawdd neu Penygroeslon aed â’r hwch, ac y mae llawer o gofnodion am brynu, gwerthu, lladd a halltu moch. Mae pum cofnod iddo brynu halen yn Glanrhyd yn ystod yr 1880au; prynodd 56 pwys o halen ar ddiwrnod lladd yr hwch yn 1892, a phrynodd ddwy galen o halen yn 1896. Mae dau gofnod arall am halen, wedi ei brynu yn Brychdir ac unwaith yn Caerhos.


Ar Ragfyr 1af, 1891, John Hughes yma yn prynu’r hwch am ddwy geiniog a dimau [hanner ceiniog] a hatling [hanner ffyrling, 1/8 o geiniog]. Tranoeth, Danfon yr hwch ei phwysau yn 29 score a deunaw pwys John Hughes yn talu am ei hanner £3-5-3. Fis Ebrill 1898 prynodd Griffith Roberts y moch tri o nifer a myned a moch bach 2 o nifer i cristin Enlli.

13 Chwefror 1886: Bu Griffith y porthmon moch yma… (Beth yn union oedd gwaith y porthmon moch?)

Defaid

golygu

Gwyddwn fod William yn cadw myharen ym Moelfre oherwydd ar Dachwedd 1af, 1891 tarodd myharen Penybryn myharen Moelfra. Mae’n sôn am gneifio yn 1880, 1887, 1888 a 1896, wedyn yn flynyddol rhwng 1900 a 1903. Mae rhai cofnodion am ddanfon gwlân i’r ‘factori’; fis Mehefin 1885, Pwyso unpwysarbymtheg o wlan i fynd i’r Factori a phedwararbymtheg i’w werthu. Gorffennaf 1896, 39 pwys, ond ym 1999 mae’n gwerthu 44 pwys i R Pritchard ym mis Mehefin. Yn 1902, mae’n danfon gwlan i’r ‘factory’ ac yn cael defnydd ‘coat’ oddi yno ac yn Gorffennaf 1888 mae Elin yn myned a’r gwlan cochddu i’r Factory 12 pwys.

Fis Ebrill 1867, mae’r cofnod Tri oen gan y ddafad lwyd, ac Hesbin ddu wedi dyfod ag oen du. Ydy hyn yn awgrymu bridiau gwahanol? Rhoddodd saltpeter ym moliau’r defaid Tachwedd 1884. Byddai’n prynu a gwerthu defaid ac ŵyn yn gyson.

Ceffylau

golygu

Mae llawer o sôn am bedoli’r ceffylau a’r cesig, gan ddisgrifio un fel ‘y ceffyl melyn’, ond ychydig a haeddai enw ganddo, sef “Ginw”, “Ffarmer”, “Gomed”, “Lion”, “Capten” a “Queen”; mae’n amlwg i Queen fod yn Moelfre rhwng 1884 a 1892 beth bynnag. Gwerthodd nifer o geffylau i Mr Leister rhwng 1885 a 1896 - cafodd £39 am un yn 1893 a £57 am un yn 1893. Fis Mai 1899 gwerthodd geffyl i “Lister” am £72 a phrynodd un arall am £37. Fis Gorffennaf 1902 mae cofnod bod adgyfarfod wedi taro y ceffyl neithiwr a’i fod wedi “pedoli dau droed y ceffyl gosod”.

Galwodd ‘policeman’ ym Moelfre ar Chwefror 22, 1884 “ynglyn a licence i’r ci”, ac mae cofnodion o adnewyddu’r drwydded ambell flwyddyn wedyn, yn ystod mis Ionawr. Ar Ebrill 7, 1887 cafodd gi bach o Borthmadog; Ebrill 17, 1890 bu yn nôl ci bach o Murmelyn; ddeuddudd wedyn “bu hogyn Brynhynog Bach” yno efo ci bach; Jumbo oedd yr unig gi a enwyd gan William. Collwyd ef ar Dachwedd 19, 1890 a thranoeth cafodd gi bach arall o Hendre Ucha.

Yng nghefn dyddiadur y flwyddyn honno mae englyn i Jumbo y ci bach:

Ein Jumbo heno huna - yn ei fedd
Yn fud y llygra,
Dewr fu y ci da
Un hwylus fu at hela.

Gwyddau

golygu

Mae’r cofnod cyntaf am wyddau ar ddechrau Rhagfyr, 1884 pan mae’n dweud ei fod wedi lladd deg ohonnynt at y Nadolig. Fis Mawrth 1890 roedd yr ŵydd wen yn gori a’r lwyd yn dechrau dydd Iau. Fis Mawrth 1893 mae’n gwneud torch i’r ŵydd i Missis Jones, Penybryn – hyn ar gyfer iddi wneud ei nyth i ori, mae’n debyg. Byddai William yn magu gwyddau o fis Ebrill hyd at amser eu lladd tua’r Nadolig; arferai yrru neu ddanfon gwyddau i wahanol leoedd fel Tynllan, ‘Carnarvon’, Llwynhendy (at ei chwaer), ac i Capten Williams, Cardigan View, Pwllheli. Cafodd chwech o gywion (16 Ebrill 1886) ac yn 1898 roedd ganddo 17 o gywion; cafodd “geiliogwydd o Tynrhos” yn 1891, lladdodd bump o wyddau cyn y Nadolig 1900 a ffeiriodd “turkey am geiliogwydd” yn 1901.

Tyrcwn

golygu

Cafodd “turkan” o’r Hendre ddyddiau cyn y Nadolig 1900 a dechreuodd fagu tyrcwn yn 1901; fis Chwefror aeth i nôl y dyrcan o Carreg, ymhen mis roedd y dyrcan wedi dodwy dau wy. Fis Ebrill rhoddodd y “dyrcan i ori”, yna rhoddodd “7 wy dyrcan i genod yr Hendre”, ac ym mis Rhagfyr, ffeiriodd dwrci am geiliogwydd (clagwydd).

Hwyaid

golygu

Roedd William yn magu rhywfaint o hwyaid ym Moelfre – danfonodd Ellin hwyaid i Gaerhos ar Dachwedd 29, 1887, a danfonodd William ddwy “chwiaden” i Bogeilus ddiwrnod olaf o Ionawr 1889. Anfonodd “chwiaden i Caerhos” ar Ragfyr 20 1890 a gwerthodd bedair o “chwiad i Abram y carrier am 5 swllt” ar Ebrill 19, 1898. Ar Fedi 13, 1887 aeth Ellin a Catherine â ffowls i Caerhos.

Gwenyn

golygu

Aeth William i “Bogelus Bach” (Bugeilus Bach) ym Medi 1889 gan ei bod yn “noson mygu y gwenyn” – o ran diddordeb, efallai? Nid oes cofnod am gasglu mel.

Corddi

golygu

Ychydig o gofnodion sydd gan William am gorddi yn 1880 ond mae’n crybwyll y gwaith hwnnw hanner dwsin o weithiau yn 1884. Bu’n ‘corddi pisiad o laeth’ yn 1885, ond erbyn diwedd 1887 y mae wedi dechrau gwerthu menyn i Thomas a Lowry Jones, Siop Caerhos am 11 ceiniog y pwys; gwerthodd 388 pwys yn Nhachwedd 1888, ac wedyn yn gyson hyd ddiwedd 1892.

Rhagfyr 19, 1889, aeth i Bwllheli i nol y “gwaith corddi” a phrynodd “haiarn at y gwaith corddi gan Richard y Gof am swllt” ar ddiwrnod olaf y flwyddyn honno. Talodd i Mr Pickering am y gwaith corddi yn Ionawr 1890 ac yn Chwefror cafodd fudda newydd gan Thomas, Penybryn. Talodd i William Jones y Saer am garreg at y gwaith corddi fis Ebrill ac wedyn am osod y corddwr. Ar Fehefin 9fed bu’n corddi efo’r fudda newydd tro cyntaf. Yn 1893, mae’n crybwyll defnyddio’r ceffyl newydd i gorddi – (defnyddwyd pŵer ceffyl i droi echel i’r corddwr) - mae’n amlwg i’r corddwr neu fudda fod yn declyn prysur iawn gan iddo gofnodi gwerthu cyfanswm o 3,235 pwys o ymenyn dros y blynyddoedd. 11 ceiniog y pwys oedd y pris arferol gan William, ond mae’n dweud bod pris menyn yn swllt a grôt y pwys yn Chwefror 1896 – hyn yn siop Caerhos, efallai.

Mae un peth od iawn yn taro wrth ddadansoddi’r dyddiaduron – nid oes unrhyw sôn o gwbl am odro (gwaith morwyn efallai?).

Y Caeau

golygu

Map degwm 1841, Moelfrearos hawlfraint

Map degwm 1841, Parc

Enwau caeau Moelfre oedd Cae canol, Cae mawr, Cae’r afon, Cae’r gate, Cae main, Bryn Capel, Cae tanlon, Cae gwlyb, Cae talcen, Lleiniau, yr Ystum, Parc y Weirglodd yr ardd gron a’r ardd newydd.

  • Cae canol

Gellir dyfalu mai cae 2431 (meadow ar y map Degwm) oedd Cae canol.
Tyfwyd tatws a cheirch ynddo yn 1885; yn 1886, mangolds, rwdins a thatws Magnus Bonus (gweler pennawd ‘Tatws’). Gwair, ceirch neu haidd a dyfwyd ynddo bob blwyddyn arall.

  • Cae mawr

Rhif 2434 pasture, efallai
Mae William yn dweud ei fod wedi torri cwtar rhwng Cae mawr a Cae’r afon yn 1884, ac agor ffôs yr afon yn Cae Mawr fis Mai 1896 felly gallwn ddyfalu bod y ddau gae yr ochr isaf i’r lôn, wrth yr afon (2434 pasture a 2435 meadow ar y map degwm, efallai). Yn 1891 cariodd bridd i’r ffôs cyn aredig, ail-aredig a thyfu tatws, mangolds, rwdins a cheirch ynddo. Y flwyddyn ganlynol tyfodd datws, clover a haidd ynddo, a haidd a chlover yn 1893. Ar wahân i’r blynyddoedd yma nid oes sôn am dyfu cnydau ynddo, felly gallwn dybio efallai mai porfa ydoedd. Ar 12 Ebrill 1892 bu William Roberts yn saethu carreg yn Cae mawr; yr wythnos ganlynol cafodd y cae ei aredig a’i hadu, yna aethpwyd a’r garreg oddi yno wythnos yn ddiweddarach. Bu’n agor y ffôs yn 1897 (er mwyn draenio i lawr i’r afon, efallai) ac yn 1901 mae William yn nodi yng nghefn ei ddyddiadur 1815 o bibau treiniau i sychu acer o dir wyth lwyth rhwng bob traen, arwydd o’i fwriad i geisio sychu’r tir, efallai.

  • Cae’r Afon

Rhif 2435, meadow, efallai.
Bu William yn hau halen ac yn cario pridd i Cae’r afon yn 1884 cyn tyfu ceirch ynddo, a’r flwyddyn ganlynol, tyfodd datws, mangolds, ceirch a cabbage ynddo. Yn rhyfedd iawn, cariodd bridd a thyfodd geirch ynddo wedyn yn 1895 gan ddilyn gyda tatws, mangolds, rwdins a ffa yn 1896; daliodd dri twrch daear yma yn y flwyddyn honno. Ceirch, gwair neu haidd oedd y cnydau am y blynyddoedd eraill i gyd.

  • Cae’r Gate

Ni wyddys lleoliad y cae hwn. Yn 1887 tyfwyd rwdins, haidd a cheirch ynddo, ac yn 1888 ac 1889 tyfwyd mangolds, ceirch, rwdins, a chafwyd 19 llwyth o datws oddi yno. Gwair oedd yr unig gnwd a gafwyd trwy’r blynyddoedd eraill – 14 llwyth yn 1898. Daliodd bedwar twrch yn Cae’r gate yn 1896.

  • Cae main

Cae rhif 2431, Meadow, efallai os yw Cae mawr yn 2434
27 Chwefror 1902, Cau rhwng Cae mawr a Cae Main. 14 Medi 1887, Teilo lludw i'r Cae Main Wil yn agor higol yn y weirglodd… mae’r Weirglodd (2430) yn terfynnu ar 2431. Bu rhaid iddo aredig yma deirgwaith cyn plannu’r tatws, mangolds a cheirch yn 1884; cafodd gnydau gwair ambell flwyddyn (90,91 a 92), “tatws Llundain” yn 1895; haidd a pompium yn 1896; ceirch yn 1902 a thatws a haidd yn 1903.

  • Bryn Capel

Cae rhif 1769, arable, ar y map degwm.
Bu William yn braenaru ym Mryn Capel fis Ionawr 1889 a chario pridd iddo fis Chwefror cyn ei aredig, llyfnu, rhychu, a hau had mangolds, rwdins a cheirch ynddo. Mae’n debyg ei fod angen gwella ansawdd y cae gan iddo gario pridd iddo drachefn am dridiau yn olynnol fis Tachwedd 1889 – chwe llwyth ar y diwrnod cyntaf ond nid yw’n dweud sawl llwyth a gariodd ar y dyddiau canlynol. Dyddiau wedi troad y flwyddyn 1990 dechreuodd aredig, teilo a llyfnu cyn dechrau planu tatws, hau haidd, rowlio at hadu (clover?) a hau had mangolds a rwdins. Y flwyddyn ganlynol, gwelwn mai gwair a haidd yn unig a dyfwyd yn y cae; gwair yn unig yn 1892 ond cariodd lawer o gerrig oddi yno fis Mai, cyn y cynhaeaf.

  • Cae tanlon

Efallai mai Cae rhif 2433, Pasture ydoedd
Gwair, haidd neu geirch oedd prif cynnyrch Cae tanlon, ond yn 1886 bu’n aredig tyndir ac aredig sofl cyn hau rwdins a cheirch yma. Tatws, maip a rwdins oedd yno’r flwyddyn ganlynol; maip a 115 stwc o haidd yn 1888. Bu’n cau clawdd ac agor ffôs a thyfu gwair yn 1889 a thyfu gwair ynddo am ddwy flynedd. Mae’n sôn am aredig y tyndir eto yn 1891, cyn hau haidd a cheirch; plannodd datws yn 1892 ac eto yn 1893 ynghŷd â rwdins, mangolds a haidd. Agorwyd y ffôs eto yn 1898 a thyfodd tatws a mangolds ynddo; rwdins a gwair oedd y cynnyrch yn 1900, a gwair yn 1902.

  • Cae gwlyb

Mae’n bosib mai Cae 2436, arable ydoedd. 31 Mawrth 1867 mae’r sôn cyntaf amdano “..Gwartheg a defaid Bodwrdda yn Cae glyb”. Tyfodd wair ynddo hyd 1892 pan mae William yn ei aredig a hau haidd yno; aredig a hau ceirch yn 1893, ond yn 1894 “31 Mawrth, Aredig y trydydd tro yn Caegwlyb”, wedyn plannodd datws, ceirch, mangolds a rwdins ynddo. Yn 1896 daliodd 21 o dyrchod daear ynddo a bu’n hel cerrig cyn torri’r gwair; gwair fu yno yn flynyddol wedyn hyd 1903 pan dyfodd geirch a haidd ynddo.

  • Cae talcen

Cae 1783 pasture yw Cae talcen – dyna yw yr enw hyd heddiw.
Porfa ydoedd yn ôl y map degwm ac mae’n debyg felly bu hyd 1899. Bu William yn “brigo clawdd cae talcen” yn 1886, torri asgell ynddo yn 1896, a dechreuodd ei aredig yn flynyddol yn 1899. Tyfodd geirch, haidd a thatws y flwyddyn honno; ceirch a haidd yn 1900 a thatws a haidd yn 1901. Roedd 1902 yn flwyddyn llafurus iawn ynddo gan i William deilo, aredig, torri eithin, hel cerrig a thyfu tatws, rwdins, gwair, haidd a chlover ynddo. Yn 1903 bu’n tynnu tafol, aredig a hau haidd ynddo.

  • Lleiniau

Cae 1766 arable yw’r lleiniau – dyna yw yr enw hyd heddiw.
Gwair, ceirch neu haidd a dyfwyd ynddo ond nid oes sôn am unrhyw gynnyrch ohonno ambell flwyddyn – efallai mai yma oedd y prif borfa i’r gwartheg. Bu William yn llosgi gwraidd yno yn 1887 a chafodd 45 stwc o haidd oddi yno yn 1888.

  • Yr Ystum

Mae’n debyg mai un o’r caeau i’r gogledd o Cae talcen yw yr Ystum, 1780 neu 1784, pasture. Cafwyd eithin oddi yno yn 1892 a chodwyd tas rhedyn yno ddiwedd 1893,1894,1896 a 1900.

  • Y Parc

Cae 249, pasture oedd y Parc. Ychydig eithin a gwellt a gafwyd yno.

  • Y Weirglodd

Cae 2430 meadow yw’r Weirglodd.
Roedd yn cynhyrchu gwair– rhwng 6 a 14 llwyth - yn flynyddol, a dyna’r cae olaf i gael ei gynhaeafu bob tro. Yn ychwanegol, tyfodd gnwd o faip ynddo yn 1884 a cheirch yn 1885. Chwalodd lludw ynddo yn 1890 a 1895 a chariodd gravel i’r afon yn y Weirglodd yn 1887; yn Ebrill 1896 agorodd yr afon ac yn Rhagfyr agorodd y ffôs yno.

  • Y Gerddi

Cae 1782, garden; efallai 1768 meadow
Tybiwn mai’r caeau mân o gwmpas y tŷ oedd y gerddi. Plannai William y tatws cynharaf yn yr ardd, tua’r Pasg yn aml, ac ambell dro, tyfai ffa ac “onions” yno.

  • Cae’r ffynnon

Yn 1867 yn unig mae sôn am Cae fynnon pan dyfodd datws ynddo.

Caeau Moelfre Heddiw (Diweddariad i ddod) Mapiau diweddarach o Moelfre a‘r Parc

Rhai o enwau’r caeau heddiw yw Bryn Capel, Lleiniau, Cae Talcen, Cae Ffynnon, Cae Mawr, Cae Pella, Cae Canol, Cae Dan Lon, Cae Ochr, Cae’r Afon a Cae Penbryn.

  • Y Twll Gravel
 
Cyflwr y twll grafal yn 2012

Roedd twll gravel wrth ochr y lôn ger y fynedfa i Foelfre ac y mae llawer o gofnodion am godi, cario a malu gravel, a hefyd am fesur y twll a “rhoddi weiren a railings” o’i gwmpas. Yn 1888 mae’n nodi mesur y domen ravel fel hyn…

Hyd 21 Tro (troedfedd), Lled 15 tro, Dyfn 2 tro 6 mod”; erbyn 1892 mae’n mesur “27’6” o hyd, 19’6” o led a 4’8” o ddyfnder.”

Erbyn heddiw mae tyfiant o ddrain a mieri yn llenwi’r twll. (Mae cofnodion am dwll gravel yn yr Hendre hefyd; (5 Tachwedd 1890) “Nol dau lwyth o rafel o’r Hendre”.

(Gweler "Cefndir Daearegol")

Caeau ffermydd eraill

golygu

Byddai William a Dafydd, fferm Yr Hendre yn helpu eu gilydd yn y cynhaeaf gwair ac i dynnu tatws a rwdins. Enwau rhai o gaeau’r Hendre oedd Cae eithin newydd, Cae fron, Gwasanddu, Cae pennant, Cae ysgubor, Cae canol a Cae mawr. Ym mysg caeau fferm Fachwen oedd Cae Llety, Cae tanybeudy, Cae bach a Cae o flaen drws. Yn Bogelus Bach oedd Cae cogan.

Plaoedd cysylltiedig â'r caeau

golygu
  • Tyrchod

Ar 21 Chwefror 1888 mae William yn dweud ei fod wedi dal cyfanswm o 21 o dyrchod daear ym Moelfra; mae’n amlwg bod tyrchod daear yn bla yn yr ardal gan iddo fynychu cyfarfodydd Vestry tyrchod Chwefror a Mawrth 1888 a Mawrth 1891. Francis Longer oedd y tyrchwr yn yr ardal, a galwyd ar ei wasanaeth bum gwaith rhwng Ionawr ac Ebrill 1889 a thalodd William £3-10-0 iddo ar Ebrill 20; dychwelodd y tyrchwr fis Tachwedd y flwyddyn honno ac wedyn Mawrth 1890. Roedd o leiaf 26 o dyrchod wedi eu dal ar y fferm rhwng 13 Ionawr ac 11 Chwefror, 1891 – tybed ai yn Cae mawr oeddynt, gan iddo ei aredig dair gwaith cyn plannu’r tatws ynddo, (gweler pennod ‘Aredig’). Gosodwyd trapiau tyrchod fis Tachwedd 1892, a chwalwyd tocia twrch yn Chwefror 1894. Mae tyrchod yn bla ym Moelfre hyd heddiw, yn y cae a elwir Cae Penbryn.

Graff yn dangos sawl twrch a ddaliwyd ym mha fisoedd rhwng 1891 a 1896 [delwedd]

  • Cwningod
11 Medi, 1884, Bu Thomas y Ship yma yn dal cwningod
2 Tachwedd 1886 Tom y Ship a John yr Hendre yma yn dal cwningod. Dal tairarddeg.
25 Hydref, 1901, Bu daliwr cwningod yma.
  • Eraill

Dalwyd llwynog yn mynydd Anelog fis Ionawr 1899; talodd 6d at ladd llwynog yn 1903. Dalwyd llygoden fawr yng Nghae’r gate ddwywaith, a dalwyd dwy arall gan y cathod.

Gwaith yn y caeau

golygu
  • Teilo

Yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn oedd y rhan helaeth o’r teilo yn cymryd lle – byddai yn “teilo”, “teilo i (neu at) datws”, “teilo i rwdins” a “teilo i fangolds”. Teilo i datws sydd yn cael ei grybwyll o Ionawr i Ebrill, i fangolds yn Ebrill a Mai, ac i rwdins fis Mai a Mehefin; dyma’r drefn planwyd y cnydau. Tybiwn mai teilo porfa ydoedd pan nad oedd yn enwi’r cnwd bwriedid ei dyfu yn y cae. Ni fyddai tywydd rhewllyd yn ei atal rhag teilo - yn wir yn ei ffafrio. Byddai’n teilo drachefn wedi iddo glirio’r cnydau o’r caeau yn ystod yr Hydref.

Yn 1887, mae’n nodi ei fod wedi teilo lludw yn Cae main a chwalu lludw yn y weirglodd yn Awst 1890; gwair oedd y cnwd yn y caeau hyn ar y pryd. Heuodd 5 cant o halen yn Cae’r afon fis Mai 1884 cyn tyfu ceirch ynddo. Yn Chwefror 1885 mae’r cofnod cyntaf am hau llwch, a hynny yn yn Cae Bach. Nid oes sôn am lwch wedyn tan 1896, pan brynodd saith bag o lwch gan Thomas Williams am £2-12-6, wedyn yn hau chwe chant ohonno gyda’r ceirch yng nghae gwlyb. Mae’n dilyn yr un patrwm tan 1899 pan brynodd bedwar bag, 18 cant, hanner tunnell a thunnell oddi wrth Thomas Hughes, Thomas Williams a Thomas Jones. Mae’n debyg ei fod wedi medru storio rhan helaeth o’r llwch gan nad oes cofnod iddo brynu mwy nes iddo brynu dau fag yn 1901, a dau arall yn 1902. Ar 24 Awst 1903 prynodd wyth bag o lwch ac un bag o superphosphate o Aberdaron, a thunnell o lwch gan John Ty Isa am £2.5.0.

  • Aredig

Dechreuai’r dasg o aredig, fel arfer, ym mis Chwefror, gydag ambell eithriad, fel diwedd Ionawr 1884, yn fuan wedi tridiau o eira, ac yn gynnar fis Mawrth 1895, ar ôl dyddiau o rew ac eira. Byddai’n darfod aredig yn ystod Mawrth neu Ebrill fel y byddai’r tir yn barod i ddechrau’r gwaith plannu. Bu’n aredig Cae mawr ar 12 Ionawr 1891, ac yn aredig sofl yno ddechrau Mawrth cyn ei ail-aredig i datws wythnos yn ddiweddarach.

  • Dyrnu

Dyrnu oedd y dâsg fawr olaf o’r flwyddyn yn yr ardal. Dechreuai hyn yn ystod mis Medi ambell flwyddyn, ond yn hwyrach fel arfer. Byddai’n dyrnu drachefn yn ystod Ionawr, Chwefror ac ambell dro, Mawrth. Efallai mai’r rheswm am i hyn ddigwydd ym Mawrth yn 1895 oedd bod eira ar y ddaear bron drwy Ionawr, a rhew tan ganol Chwefror. Byddai Willaim yn dweud bod gwas Moelfra yn helpu gyda’r dasg o ddyrnu ar y ffermydd cyfagos, ond byth yn dweud pwy fyddai’n helpu ym Moelfre.

Enwai William y math o gnwd a ddyrnwyd ym Moelfra, ond nid felly pan fyddai’r dyrnwr yn y ffermydd cyfagos – dim ond “dyrnu yn yr Hendre” ayyb.

Ar yr 21 Chwefror 1867 dechreuodd ddyrnu ceirch, ac ar yr 8fed o Fawrth bu’n dyrnu gwenith. Yn 1886 roedd cyn hwyred â mis Mai arno yn gorffen dyrnu ceirch. Yn 1887, Mai 16 Owen Jones yn gorphen dyrnu yr haidd. Talais ddau swllt ar bymtheg a chwech iddo. Yn 1893 roedd yn dyrnu haidd ym Moelfra cyn symud ymlaen i Bogelus Bach a’r Gilfach; ar Dachwedd 6ed,1893, Wil yn sal, John Bogelus Bach yn y Fachwen yn dyrnu yn fy lle, Rhagfyr 14, 1893, Wil yn dyrnu yn yr Hendre. Wil oedd gwas Moelfra, felly dengys hyn bod y ffermwyr yn helpu naill a’r llall gyda’r dyrnu. Ar Fedi 3ydd, 1895, Dyrnu haidd; dranoeth, Gwneyd pen y das haidd. Ar ddydd Iau, ddiwedd y mis, Bu Wil yn Tynrhos yn dyrnu, dranoeth , Dechreu dyrnu ceirch (yn Moelfre) ac ar y Llun canlynol, Engine yn dyrnu yn Penybryn, y fferm nesaf at Moelfre. Digon tebyg oedd y drefn yn 1897 – dyrnu haidd ym Moelfre ar Fedi 6ed a 7fed, wedyn, Richard (y gwas) yn helpu yn Tynrhos ac yn y Brychdir. Yn 1900, Rhagfyr 18fed “Dyrnu haidd”, 19fed “Dyrnu y ceirch”; 21ain Richard yn Llidiarda yn dyrnu. Yn Rhagfyr 1903, Moelfra oedd y seithfed fferm yn yr ardal i gael cwblhau’r dyrnu, a’r gwas wedi bod yn helpu yn y chwech cyntaf. Ni fyddai William yn enwi’r rhai a ddeuant i Foelfra i helpu.

Y Cnydau

golygu

Y cnydau gwraidd a dyfwyd yn ardal Aberdaron oedd tatws, rwdins (prynodd bwys o had yn 1891), mangolds (prynodd 93 phwys o had yn 1891) a maip. Cnydau arferol eraill oedd gwair, haidd, ceirch, ŷd, eithin i borthi ac ’eithin ar tân’, ynghyd âg ychydig ffa, ’cabbage’, camomile ac ‘onions’ o dro i dro; roedd ‘onions marvel’ ar ei restr neges unwaith. Cafodd sachaid o Indian meal yn lle ffa gan Robert Ellis yn 1901. Bu’n hau Pomprium (neu pompium)(?) ar 31 Mawrth 1896 ond nid oes sôn amdano wedyn. Mae’n bosib mai math o datws ydoedd oherwydd iddo aredig a hau pomprium yn Cae Main ar Fawrth 31, yna “tynu tatws Llundain” o Cae Main ar Hydref 2, a “cael llwyth o datw cochion” o Cae Main ar Hydref 9fed.

Bu'n hau Pupus yn 1887 ac 1888; torri a chario pupus yn 1899 a 1900. Prynodd sachaid o had llin gan Thomas Jones y Nant fis Mawrth 1898. Cafodd had shidins ac eyegrass (math cynnar o rygwellt, ryegrass) fis Mawrth 1887 a chafodd had marrows yn 1903 ond dim sôn pellach amdanynt.

Yng nghefn ei ddyddiadur am 1891 mae erthygl wedi ei dorri allan o bapur newydddelwedd:

Byddai yn llifo’r pladuriau yn ystod yr wythnos cyn dechrau torri’r gwair, ym Mehefin 1889 y mae’n dweud ei fod wedi codi colsun dau lafn pladur [?] . Byddai’r cyfnod cynhaeaf yn dechrau yn ystod Mehefin neu Orffennaf ac yn darfod yn ystod Gorffennaf neu Awst, ond yn 1903 aeth ymlaen hyd 4ydd o Fedi (efallai am ei bod ychydig yn hwyrach arno yn planu’r tatws, a bod hynny wedi gwthio’r gwaith i gyd ymlaen?). Cae Gwlyb a ddefnyddiai amlaf i dyfu gwair, deuddeg gwaith rhwng 1880 a 1903. Cae Gate a Cae Main oedd nesaf, saith gwaith, Cae Canol chwe gwaith, Cae Canol a Cae’r Afon bum gwaith, Bryn Capel bedair gwaith, Cae Mawr a Cae Talcen ddwywaith.

Cynghorion i Ffermwyr, dyddiadur 1893
Mehefin. Dechreuer ar y cynhauaf gwair pa bryd bynnag y bydd gobaith am dywydd têg, sefydlog, yn yr iseldiroedd. Gellir lladd clofer ac efrau [vetch] hefyd.”

Term sydd yn cyfuno holl gnydau grawn yw yd. Ychydig o sôn am ŷd sydd yn y dyddiaduron, hynny rhwng 1893 a 1900. Mae’n “chwalu syldremi ŷd” ym Medi 1892. Mawrth 1900, “Cario yr ŷd adref, haidd12, pupus 12…”, “cael sachaid o third (ai ŷd fyddai hyn)o Caerhos, talu 13/6 am dano” ar 17 Chwefror 1902; yn “danfon 5 sack o ail ŷd i’r Fachwen” ar 29 Rhagfyr 1903. Cafwyd nodyn yn cynnig Cynghorion i Ffermwyr rhwng cloriau'r dyddiadur 1893 i'r perwyl:

Cynghorion i Ffermwyr, dyddiadur 1893:
bod ychydig halen yn y gwair pan dasir ef yn ei gadw yn rhagorol.
Gelwir gwair yn hen ar ôl mis Medi.
Mae llwyth o hen wair i bwyso 18 cant; llwyth o wair newydd, 19 cant 32 pwys. Llwyth o wellt, 11 cant 64 pwys.
Medi. Gwell peidio gosod teisi ŷd ar y llawr, coder hwy ryw hanner llath ar bilerau ceryg, ac ond rhoddi ychydig o dâr glo (coal tar) ar y pilerau ac yn awr ac eilwaith, fe gedwir llygod yn glir oddi wrth y teisi…
Rhagfyr. Dyma’r mis goreu, hwyrach, i ddyrnu ŷd
Sylwadau Cyffredinol ar Waith Fferm, dyddiadur 1893
I ddinystrio Gwyfyn yr ŷd [corn weevil]– Doder crwyn defaid a’u gwlan arnynt yn un o gornelau llofft yr ŷd. Mae y croen seimlyd yn denu y gwyfyn ac yn ei ladd.
Ni ddylid codi dau gnwd o ŷd yn olynol o’r un tir… rhaid gofalu peidio cael cnwd o ŷd dair blynedd yn olynol.
Dylid hau pys, ffa, ffacbys, maip, pytatws neu mangel-wurtzel rhwng dau gnwd o ŷd.

Tyfai William haidd mewn un neu ddau o'r caeau bob blwyddyn, weithiau yn yr un cae am ddwy flynedd yn olynol, ond am bedair blynedd yn olynol yn Cae Talcen. Rhyw ddeuddydd a gymerai i fedi’r haidd, hynny yn ystod yr hanner olaf o fis Awst rhan amlaf.

Mawrth 28, 1867 bu William yn …nithio pum hobed a naw phioled o haidd.

Ebrill 13,1888 mae’n mynd i'r pentre i nol tri hobed o haidd o Enlli.

5 Ionawr 1889, y mae’n rhoddi ysgan o haidd yn yr ysgubor.
Tachwedd 5, 1889, “nithio haidd y tro cynta eleni”.

Ar ôl darfod gyda’r haidd, âi ymlaen i fedi’r ceirch.

Ceirch

golygu

Mae'r patrwm o dyfu ceirch yn amrywio, ambell dro mewn un cae am un flwyddyn yn unig; dro arall mewn tri neu bedwar cae gan ddefnyddio yr un cae am dair blynedd mewn olyniaeth – efallai mewn rhan wahanol o’r cae. Mae'n cofnodi cario pridd a hau halen i Caer afon yn 1884, ac yna tyfu ceirch ynddo am dair blynedd. Medi 1894 y mae’n dweud ei fod yn cynnull 136 stwc a thair ysgub o ceirch yn Cae main. Yn 1895 y mae'n cario pridd i Cae’r afon cyn hau ceirch ynddo. Yn 1894 y mae'n aredig Cae main ddwywaith a Cae gwlyb deirgwaith cyn hau ceirch ynddynt. Ddiwedd Chwefror 1886, “Rhoddi helm geirch i mewn”.

Clover

golygu

Prynodd hâd clover meillionyn flynyddol fesul tua 20 pwys bob blwyddyn ar gyfartaledd, ac eithrio 1888 ac 1889 pan nad oes cofnod am clover, ac 1899 pan gafodd 90 pwys; mae’n ymddangos i hyn fod yn ddigon am ddwy flynedd gan na phrynodd hâd yn 1900. Prynodd 20 pwys o had clover o siop Griffith Roberts am 6½ y pwys, a 22 pwys am 7 geiniog y pwys yn 1902. Mae’n dweud ei fod wedi troi’r gwartheg i’r clover Cae Mawr ar 30ain Awst 1894, ac yn torri clover Cae Talcen ar 30ain Medi 1902; nid oes unrhyw gyfeiriad arall am ei ddefnydd.

Mae’n cael pupus [3] [ffacbys?] i’w hau o Glanrhyd yn 1887 ac o Gilfach yn 1888. Nid yw yn cofnodi hau pupus wedyn tan 1899 pan mae’n ei dorri ddiwedd Awst, ei gario ddiwedd Medi, ac yn ei gario adre fis Mawrth 1900.

Y tatws oedd y cnwd cyntaf i fynd i’r ddaear gan ddechrau plannu yn yr ardd o gwmpas y Pasg. Mae William yn cofnodi iddo dyfu tatws yn un o'r gerddi, sef yr ardd newydd, yr ardd gron, yr ardd cefn tŷ, yr “ardd corddi”, ardd yr ŷd a’r ardd wair, Fis Ebrill 1886 cafodd phiolaid o datws o Penybryn, i’w plannu, mae’n debyg.

Hefyd, tyfai datws yn un o gaeau'r Hendre bron bob blwyddyn rhwng 1885 a 1903. Tyfai datws, gan aryneilio yn flynyddol, mewn un neu ddau o gaeau eraill. Defnyddiai Cae Canol, Cae Tanlon, Cae Main a Bryncapel yn amlach na'r lleill. Yn Hydref 1896 y mae'n cofnodi "tynu tatws Llundain".

Bu yn tynnu naw troliad o Magnabonus (tatws ffeirad) o Gaetanlon fis Hydref, 1887 ond nid oes hanes o ble cafodd y tatws.

Ebrill 5, 1889 bu Robert, Bogelus Bach ym Moelfra yn “ffeirio tatws” ac ar Ebrill 22, 1889, talodd 5/3 i Thomas Williams Penybryn (ei gymydog o’r fferm nesaf) am datws. Mae’n debyg bod y flwyddyn hon wedi bod yn llwyddiannus yn y caeau tatws oherwydd mae William yn dweud ei fod wedi cael 6 llwyth o Cae Main, 8 llwyth o Cae gwlyb, 8 llwyth o Cae mawr, 12 o Cae tanlon, 7 o’r Lleiniau, a 6 o’r Gilfach. Mae’n ymddangos i bethau fynd o chwith yn 1897 gan iddo gofnodi “cario tatws drwg” fis Hydref. (Gweler “Pomprium”)

BLWCH GWYBODAETH
HISTORY OF LLANSAWEL
From 1873 to 1897 the Rev Charles Chidlow, MA., Jesus College, Oxford, was vicar............. he took an active interest in agricultural pursuits, the famous "magnum bonum" potatoes, introduced by him into the locality, are known to this day as "tato'r ffeirad.
Datblygwyd y Magnum Bonum gan y bridiwr tatws James Clark, (1825 – 1890) o Christchurch, Hampshire. Treialwyd y tatws yn Stoke Newington ac oddi yma prynwyd a chyflwynwyd y math gan Suttons yn 1876. Roeddynt yn datws ardderchog a phoblogaidd tan 1900, pan ddaethant yn dueddol i falltod (blight). Tybed ai’r Magnum Bonum oedd “tatws Llundain” gan fod Stoke Newington yn rhan o Llundain? Yn ôl disgrifiad ar yr “European Cultivated Potato Database”, anaml ymddangosai’r blodau coch/fioled ar y Magnabonum. Tatws pinc, diweddar oeddynt gyda gwrthsafiad isel at falltod. Yn ddiweddarach defnyddwyd y Magnum Bonum i fridio mathau eraill o datws, fel King Edward. Byddai’r broses yn cychwyn wrth ddarparu’r tir wrth aredig a theilo ym mis Mai neu Fehefin, ar ôl iddo ddarfod claddu tatws a mangolds. Yn ystod y blynyddoedd pan ddefnyddiai ddau gae i’w tyfu, sylwn ei fod yn cymeryd ddeuddydd neu dridiau i deilo, pan fyddai un diwrnod yn ddigonol gogyfer un cae. Ar gyfartaledd, mae’n crybwyll cario 17 o lwythi yn flynyddol rhwng 1891 ac 1897, ond fel arall, ni nodir y niferoedd yn union.

Mangolds

golygu

O 1884 ymlaen i 1903, tyfodd fangolds mewn un cae bob blwyddyn, ac eithrio 1888 pan dyfodd o fangolds mewn tri o’r caeau, ond efallai mai ychydig ym mhob cae oedd ganddo, oherwydd tri llwyth yn unig a gariodd y flwyddyn honno. Ar gyfartaledd roedd ganddo das fangolds bob blwyddyn, a chymaint a thair tas yn 1903. Yn ystod y chwarter cyntaf 1888, 1892, 1899,a 1903 y mae’n dal i gario mangolds y flwyddyn flaenorol o’r caeau; mae’n debyg iddo orfod eu clirio er mwyn dechrau teilo erbyn y tymor newydd.

Gwelwn bod William yn tyfu Maip yn ysbeidiol dros y blynyddoedd, hynny yn y "tylarau" (talarau) fel rheol. Nid oes sôn amdanynt ar ôl 1898.

Cynghorion i Ffermwyr, dyddiadur 1893
Mehefin. Hauer hâd swede ddechreu y mis.
Awst. Mae lludw yn beth da at faip. Os bydd rhai o’r cnydau wedi troi allan yn fethiant, gellir hau

maip erbyn y gauaf, moron (carrots) erbyn y gwanwyn, a bresych (cabbage) ar ôl cnwd o bytatws.

Rwdins

golygu

Yn ôl dyddiaduron William Jones, nid oes sôn am dyfu rwdins hyd at 1887, ond tyfwyd hwy mewn gwahanol gaeau yn flynyddol o hynny ymlaen hyd at 1903, ychydig cyn ei farwolaeth. Byddai’r broses yn cychwyn wrth ddarparu’r tir wrth aredig a theilo ym mis Mai neu Fehefin, ar ôl iddo ddarfod claddu tatws a mangolds. Yn ystod y blynyddoedd pan ddefnyddiai ddau gae i’w tyfu, sylwn ei fod yn cymeryd ddeuddydd neu dridiau i deilo, pan fyddai un diwrnod yn ddigonol gogyfer un cae. Ar gyfartaledd, mae’n crybwyll cario 17 o lwythi yn flynyddol rhwng 1891 ac 1897, ond fel arall, ni nodir y niferoedd yn union. Nid oes llawer o sôn am gario rwdins yn 1898 a 1899 er iddo ddechrau defnyddio mwy nac un cae at eu tyfu yn 1899, ac yn 1900 a 1902 y mae’n cofnodi gwerthu rwdins. Yn 1901 y mae’n cofnodi “ail gladdu tir rwdins” ac yn “claddu tir rwdins”. ,. Efallai bod y nifer wedi codi ar ôl hynny, gan ei fod wedi dechrau eu gwerthu. Fis Gorffennaf 1893 rhoddodd y gwŷdd trwy y rwdins i’r pwrpas o chwynnu. Byddai’n dechrau tynnu rwdins ar ôl canol Tachwedd, eu cario Rhagfyr ac yn darfod y teisi yn Ionawr.

Cynghorion i Ffermwyr, dyddiadur 1893
Ebrill. Bydd yn amser planu cloron (pytatws) mewn manau cynar.
Mai. Gorphener hau pytatws a mangel-wurzel cyn canol y mis.

Eithin

golygu

Yn 1887 talodd 2/- am eithin i Ellin, Park y Brenin ac yn 1888 mae cofnod iddo hau eithin ar glawdd Cae’r gate. Yn 1891 prynodd o leiaf 31 baich o eithin gan Martha Cefn Coch. Cariodd 27 llwyth yn ystod 1892, 16 ohonnynt o’r Lleiniau. Bu’n llifo cyllyll y felin eithin ddiwedd Hydref 1892 a dechreuodd falu eithin ym mis Tachwedd y flwyddyn honno; yn Ionawr 1893 bu’n llifo’r cyllyll eto. Mae’n sôn am das eithin yn 1893, 1895 ac 1897, felly tybiwn ei fod wedi tyfu cnydau gweddol dda a phrynodd o leiaf naw baich yn Hirwaen yn Ionawr 1897. Yn 1901 mae cofnod iddo dorri eithin i frigo.

Byddai eithin yn borthiant pwysig i’r anifeiliaid gan ffermwyr Sir Fôn a Sir Gaernarfon yn y cyfnod yma. Roedd yn nodweddiadol bod ‘sglein’ ar gôt y gwartheg a cheffylau o’r siroedd hyn. Allan o’r 21 baich a gasglodd yn 1902, mae’n mynd âg un llwyth i’r Hendre ac yn 1903 mae’n “torri bona” fis Mawrth ac yn ‘llosgi eithin gyda’r cloddia” yn Ebrill; yna, fis Hydref aeth i “nôl gwaith malu a melin eithin. Talais £14-0-0 am danynt” (roedd William yn sôn am “gwaith malu” a “gwaith corddi” yn ei ddyddiaduron – mae’n debyg mai'r peirianwaith a olygai gyda “gwaith” yn yr ystyr yma.

Eithin ar tan: Y mae’n cyfeirio at dorri ‘eithin ar tân’ yn weddol gyson o 1887 ymlaen. Mae’n nodi iddo gael pedwar llwyth yn 1899 ac wyth llwyth yn 1901; tybed a yw hyn yn arwydd o duedd neu ddull newydd o ffermio.

Yn 1892 mae’r cofnod cyntaf am ffa;

29 Mawrth 1892: Planu tatws yn y gerddi a ffa.” (Tair wythnos cyn y Pasg).
30 Rhagfyr 1895: Rhoddi y ffa i mewn.
26 Chwefror 1896: bu’n deor ffa, yna ar Fawrth 7fed, nithio ffa ac Ebrill 16, hau rhes o ffa yn Cae’r afon
25 Mawrth 1897: John yr Hendre yma yn cael ffa.
5 Chwefror 1898 ac 16 Chwefror 1899: Planu ffa yn yr ardd.
28 Mawrth 1900: Gyry[?] phiolaid o ffa i R.Ellis

Gwiail

golygu

Tachwedd neu Ragfyr oedd yr amser iddo dorri a chasglu gwiail; roedd yn ei gael yma ac acw yn flynyddol, wedyn gwneud basgedi neu gewyll ar ddiwrnod glawog ym mis Chwefror neu Mawrth. Tybed a ydoedd yn eu gwneud gogyfer y pysgotwyr i ddal cimychiaid?

Rhedyn

golygu

Ac eithrio 1899 byddai William yn torri, cario a hel rhedyn yn flynyddol yn ystod y misoedd olaf o’r flwyddyn; cododd dâs redyn o leiaf chwe gwaith yn yr Ystum, neu “Rystum”, ond nid yw’n enwi safle’r dâs y blynyddoedd eraill. Tachwedd 2, 1891 mae’n dweud ei fod wedi troi y rhedyn a gwlydd tatws, efallai i wneud math o gompost i’w ddefnyddio yn y gwanwyn. Ym Medi 1901 bu'n tori rhedyn sych.

Rhoddwyd rhedyn yn sylfaen i’r dâs ŷd rhag i damprwydd ddifetha’r hyn oedd agosaf at y ddaear; efallai defnyddid hyn i doi teisi eraill hefyd. Gwnaed tâs ohonno i’w ddefnyddio yn wely i’r anifeiliaid yn y cytiau dros y gaeaf, yna, wedi ei garthu o’r cytiau defnyddid fel gwrtaith i dyfu tatws, gan ei fod yn gyfoethocach na thail mewn mineralau a ffosffat.[ffynhonnell]

Mi oedd rhedyn yn gallu bod yn broblem os nad oeddech yn cadw ar ei gefn o. Yma gwelwn gyfuniad o gadw rheolaeth ar chwynyn plagus a gwneud defnydd ohono ar yr un pryd. Troi anfantais yn fantais, dyna ddull rhywun darbodus. Defnyddid i'w losgi mewn odyn rhedyn i wneud potash i'w gario i Gaergwrle yn bennaf (yn ol y son) ar gyfer gwneud sebon. Roedd hyn efallai yn fwy cyffredin na'r dybiaeth - enghreifftiau o odynnau yn Llaneilian, Môn a Llanfachraeth, Dolgellau. (Llun ynghlwm). Dyna pam "rhedyn sych" hwyrach? Efalllai hefyd y lludw ar gyfer gwrtaith.ffynhonnell.

Geirfa William Jones

golygu

Cyflwynir yma yr ystyron safonol agosaf y mae cyd-destun cofnodion WJ yn eu hawgrymu mor belled ag y bo modd. Lle na bo cyfeiriad, awgrym yn unig a gynigir nes derbyn gwybodaeth amgenach.

Termau cydnabyddedig hynafol neu lleol

brigo (rhoi eithin neu frigau tebyg ar ben wal rhag i dda groesi);
Cheffoneer = ''Chiffonier'' (math o dresel dal osgeiddig yn wreiddiol i gadw cyfarpar brodio a gwnio);
cefndras (cefndres = cefnrhaff, rhan o harnais ceffyl gwaith, sef y llain cymharol lydan o ledr a roirdros gefn y ceffyl i gadw'r tresi(tidiau) i fyny pan fo'n tynnu aradr, og ayb[17] );
crwc (llestr megis twb, celwrn, piser i ddal hylif o unrhyw fath[17];
crysbas (crys+pais: yr enw cyffredin gynt ar siaced liain neu siacen wlân ysgafn lac a wisgid gan ffermwyr a'u gweision[17];
colsun (ystyr anhysbys yn y cyd-destun);
dicin gwely (ticyn = Brethyn ar gyfer rhan allanol matras neu glustog[18];
ffagodau (ffagod = bwndel neu fwrn o goed);
gelen, gelod anifail a ddefnyddid i dynnu gwaed;
(g)ardd (ystyr amaethyddol...)
gwialen ffyst (un o freichiau'r ffyst?, o bosibl yr un sydd yn 'hedfan'?)
gwlan cochddu (ynghyd â Tri oen gan y ddafad lwyd, ac Hesbin ddu wedi dyfod ag oen du. Ydy hyn yn awgrymu bridiau gwahanol?);
gogrwyn (gogrwn = rhidyllu, hidlo, puro);
gwadan gwydd (darn gwastad gwaelod aradr[18])
helm (to, nenfwd);
hobed (mesur sych amrywiol ei faintioli neu lestr i ddal y cyfryw[17]);
hoelion carwdan (carwden < car+gwden = cadwyn neu dres haearn (yn wreiddiol gwialen ystwyth) a roir dros y strodur ar gefn ceffyl i gynnal y siafftiau; cefndres trol[17]);
hoelion scriws (hynafol am ysgriw?, ffurf 1828 hoel-dro[18];
jacket Russel cord;
llifo (hogi);
Laudanum (cysglyn, sylweddnaws y pabi)[19]
llif fain (math anhhysbys o lif)
Magnabonus - tatws ffeirad (gweler blwch gwybodaeth Cnydau/Tatws);
nithio (gwahanu'r us o'r grawn, gwyntyllu, gogrynu[17]);
monkey (mwnci, mynci = rhan o harnais ceffyl gwaith, sef dau ddarn bwaog (o bren cynt - yn ddiweddarach o ddur - yn ffitio i rych o gwmpas coler ceffyl[17]).
penffrwyn (math o ffrwyn o gortyn neu denyn a roir am ben ceffyl i'w dywysu[17])
pupus (ffacbys neu fath o ffacbys a dyfir yn fwyd i anifeiliaid[17])
Obaduldo (term anhysbys)
phiolaid o ffa (mesur o faint cwpan neu bowlen??i'w gadarnhau);
stric (offeryn pwrpasol at hogi pladur, ac yn gyffredin iawn hyd dridegau'r ugeinfed ganrif[17]
strodur (ystrodur = rhan o harnes ceffyl gwedd a rpoir dros ei gefn i drolio neu gartio[17].
stwc (nifer o ysgubau wedi eu gosod allan yn eu sefyll yn erbyn ei gilydd mewn cae i sychu [4]);
strocan (strôc = yr hyn a roir o dan cerbyd olwynog nad oes iddo frêc i'w rwystro rhag mynd yn ôl nac ymlaen[17])
syldremi (seldrem >> sydrymu be. ffurf lafar dafodiaethol ar 'seldremi', sef cynnull y gwaneifiau yd yn sypynnau neu seldremi, i'w rhwymo'n ysgubau[17]).
terfysg (tywydd stormys ?yn yr haf)
ysgan (term anhysbys)
ysgub (bwndel neu sypyn unfon a brig-frig o ŷd, wedi ei rwymo am ei ganol â thusw o'r ŷd wedi ei gordeddu'n gortyn[17])

Termau lled anesboniadwy
Bol llo bach;third ail-yd; Pomprium neu pompium; ...Frics botiau (tystiolaeth lafar o Lyn mai cawell i ddal a potyn i gadw. Meddai Sharon Ray cawell gadw; keep pot yn Saesneg[20]; Emes fruit salt; Rhaff rwyon [aerwyon?]; Mwrthwl warehouse; adgyfarfod wedi taro y ceffyl neithiwr; troed caip[caib?]; deunydd trosau;

Gweithgareddau

aredig ar y tatws (aredig at' datws arferai ddweud. Ystyr?
Gwaed Thomas y Ship wedi cerdded ar ol rhoddi Gelod
heli’r môr o Aberdaron (mis Mai). (Mae'r ystyr yn ddirgelwch ond nid yn unigryw: Nol heli mor a gwman[gwymon] Codog Dyddiaduron Thomas Jones, Cwningar, Niwbwrch, Môn 27 Mehefin 1871)
lefelu llaesodau; ...dorri eithin i frigo;
bu’n deor ffa, yna ar Fawrth 7fed, nithio ffa ac Ebrill 16, hau rhes o ffa yn Cae’r afon
Medi 1901 bu'n tori rhedyn sych
saltpeter ym moliau’r defaid
Cael chwysigen gan J Hughes Tynrhos


Cyfeiriadau

golygu
  1. Log Ysgol Deunant, Archifdy Gwynedd (Caernarfon)
  2. Hunangofiant Y Parch Thomas James 1874 – 1942 – Hanes ail-adeiladu capel Bethesda, Rhoshirwaen, Lleyn
  3. Log Ysgol Deunant, (Archifdy Gwynedd), Caernarfon
  4. Twm Elias (llythyr personol i BJ
  5. 5.0 5.1 Dyddiadur Hela CEM Edwards, Dolserau, Dolgellau. Archifdy Gwynedd (Dolgellau)
  6. Dyddiadur Edward Edwards, Tywyn (Meir.) Archifdy Gwynedd (Dolgellau)
  7. Cofnodion yr Aber Nat School XES1/1/1
  8. 8.0 8.1 8.2 Dyddiaduron Y Parch. Richard Llywelyn Headley (Eiddo preifat, gyda diolch i'w ferch y Dr. Mari Ellis, Aberystwyth
  9. Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes, Arfon (gyda diolch i Mena Jones a Fferm a Thyddyn 1992)
  10. 10.0 10.1 Dyddiadur Lloyd George AWC. ar lein. http://digidol.llgc.org.uk/METS/LGD00001/frames?div=60&subdiv=0&locale=en&mode=reference
  11. Ivor Wynne Jones (2001): Shipwrecks of North Wales
  12. 12.0 12.1 12.2 Kington, J. (2010) Climate and Weather (Collins)
  13. Dyddiadur J Jones (Ioan Brothen), Llanfrothen (Llyfrgell Genedlaethol)
  14. Davison, C. (1924) A History of British Earthquakes (CUP)
  15. Cambrian News - 23 Hydref 1896
  16. Colofn Llên Natur, Duncan Brown, Y Cymro
  17. 17.00 17.01 17.02 17.03 17.04 17.05 17.06 17.07 17.08 17.09 17.10 17.11 17.12 17.13 Huw Jones (2001):Cydymaith Byd Amaeth Gwasg Carreg Gwalch
  18. 18.0 18.1 18.2 Geiriadur Prifysgol Cymru
  19. Spurrell's English-Welsh Dictionary (1909)
  20. postiad Facebook

Dolen allanol

golygu