Megawati Sukarnoputri
Diah Permata Megawati Setiawati Soekarnoputri (ganed 23 Ionawr 1947) oedd pumed Arlywydd Indonesia, o 23 Gorffennaf 2001 hyd 20 Hydref 2004.
Megawati Sukarnoputri | |
---|---|
Ganwyd | Dyah Permata Megawati Setyawati Soekarnoputri 23 Ionawr 1947 Yogyakarta |
Dinasyddiaeth | Indonesia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Arlywydd Indonesia, Vice President of Indonesia |
Taldra | 158 centimetr |
Plaid Wleidyddol | Indonesian Democratic Party – Struggle, Indonesian Democratic Party |
Tad | Sukarno |
Mam | Fatmawati |
Priod | Surindro Supjarso, Hassan Gamal Ahmad Hasan, Taufiq Kiemas |
Plant | Muhammad Rizki Pratama, Muhammad Prananda Prabowo, Puan Maharani |
Gwobr/au | Seren Gweriniaeth Indonesia, Bintang Mahaputera, Order of the National Flag, honorary doctor of the Fujian Normal University, meddyg anrhydeddus Sefydliad Cysylltiadau Rhyngwladol Cenedlaethol Moscaw, Urdd Cyfeillgarwch, Tatler 500 Indonesia, Asia's Most Influential Indonesia |
Gwefan | http://www.megawatisoekarnoputri.com/ |
llofnod | |
Ganed Megawati yn Yogyakarta ar ynys Jawa, yn ail ferch i Arlywydd cyntaf Indonesia, Sukarno. Bu'n astudio yn ninas Bandung, ond ni raddiodd, gan i'w thad golli grym pan oedd hi'n 19 oed, a dewisodd fod gydag ef yn hytrach na pharhau i astudio. Ymunodd â hen blaid ei thad, y Partai Demokrati Indonesia (PDI). Pan ddewisodd yr arlywydd newydd, Suharto, arweinydd newydd i'r blaid, bu rhwyg ynddi, a ffurfiwyd y blaid PDI-P i wrthwynebu cefnogwyr Suharto, gyda Megawati yn arweinydd. Wedi cwymp Suharto, daeth Megawati yn Is-arlywydd dan Abdurrahman Wahid, yna wedi iddo ef orfod ymddiswyddo yn 2001 yn Arlywydd. Yn etholiad 2004 gorchfygwyd hi gan Susilo Bambang Yudhoyono.
Mae wedi bod yn briod dair gwaith. Lladdwyd ei gŵr cyntaf, Surindo Supjarso, mewn damwain awyren yn 1970. Yn 1972 priododd Hassan Gamal Ahmad Hasan, ond daeth y briodas i ben yn fuan. Priododd ei gŵr presennol, Taufik Kiemas, yn 1973. Mae ganddynt dri o blant.
Rhagflaenydd : Abdurrahman Wahid |
Arlywyddion Indonesia Megawati Sukarnoputri |
Olynydd : Susilo Bambang Yudhoyono |