Mei Matsuoka
Darlunydd ac awdures llyfrau plant Japaneaidd-Seisnig yw Mei Matsuoka (ganwyd 27 Mawrth 1981).[1]
Mei Matsuoka | |
---|---|
Ganwyd | 27 Mawrth 1981 Tokyo |
Dinasyddiaeth | Japan |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, darlunydd, awdur plant |
Gwefan | http://www.meimatsuoka.com/ |
Bywgraffiad
golyguGanwyd Matsuoka yn Suginami-ku,[2] Tokyo, Japan. Treuliodd ei phlentyndod cynnar yno cyn symyd i Loegr pan oedd yn 11 oed, gan setlo yn y Cotswolds.[3]
Graddiodd o Brifysgol Kingston gyda BA Anrhydedd mewn darlunio. Ers hynny mae hi wedi bod yn gweithio fel darlunydd llawrydd, gan arbenigo mewn llyfrau plant.[3]
Ysgrifennodd a darluniodd Matsuoka Ten-san, Kame-san and Muri-san go on a Journey, ac enillodd gystadleuaeth blynyddol yr "'Aozora' Environmental Picture Book". Enillodd Burger Boy gan Alan Durant wobr "Portsmouth Children's Book" yn Ionawr 2007.
Ysgrifennodd a darluniodd Matsuoke ei llyfr Footprints in the Snow, a gyhoeddwyd gan Andersen Press yn 2007. Ymddangosodd y llyfr ar restr fer "Read it Again! The Cambridgeshire Children's Picture Book Awards" yn Rhagfyr 2007. Yn Ionawr 2008, ymddangosodd y llyfr ar restr hir "Big Pictures's "Best New Illustrator Award" y Booktrust. Mae Footprints in the Snow hefyd wedi cael ei enwebu ar gyfer Medal Kate Greenaway 2009.
Cyfieithwyd Footprints in the Snow i'r Gymraeg, ac fe'i gyhoeddwyd gan Gymdeithas Lyfrau Ceredigion o dan y teitl Olion yn yr Eira, a roedd yn ddegfed ar restr Cyngor Llyfrau Cymru o werthwyr gorau plant ym Medi 2007.[4]
Gwaith
golygu- Mei Matsuoka, Ten-san, Kame-san and Muri-san go on a Journey, (All Nippon Airlines, 2005)
- Alan Durant, Burger Boy (Andersen Press, 2005)
- Boris von Smercek, Hannibals Marchen (Simon & Schuster, 2006)
- Julia Hubery, A Friend for All Seasons (Simon & Schuster, 2006)
- Mei Matsuoka, Footprints in the Snow (Andersen Press, 2007)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ About me.... Gwefan swyddogol.
- ↑ SCBWI Tokyo Newsletter (Gaeaf 2007).
- ↑ 3.0 3.1 Mei Matsuoka. Booktrust Children's Books.
- ↑ Llais Llên: Rhestr Cyngor Llyfrau Cymru o'r llyfrau sy'n gwerthu orau. BBC Cymru (Medi 2007).