Casgliad neu grŵp o gelloedd ydy meinwe. Mae meinweoedd i gyd yn tarddu o'r un lle, ond er eu bod wedi eu creu o'r un math o gell yn wreiddiol, maent yn newid eu siap a'u pwrpas drwy arbenigo mewn rhyw fodd neu'i gilydd. Er mwyn gweithredu, mae sawl cell o whanol siapiau yn cyfuno i greu meinwe arbennig, unir y gwahanol feinweoedd i greu organ.

Meinwe
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o strwythurau anatomegol, dosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathstrwythur amlgellog, strwythur anatomegol, sylwedd biogenig, biological material Edit this on Wikidata
Rhan oorgan Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Histoleg ydy'r enw ar yr astudiaeth o'r feinwe. Defnyddir y meicrosgop a'r bloc paraffîn yn draddodiadol wrth eu hastudio. Mae datblygiadau technegol y ddau ddegawd diwethaf, yn enwedig gyda'r meicrosgop electron a'r defnydd o feinwe wedi'i rhewi, yn golygu y gellir gweld llawer mwy o fanylder o fewn y feinwe. Mae hyn yn golygu y gallwn adnabod afiechydon yn llawer cynt, a chreu ateb i lawer o broblemau yn ymwneud ag afiechydon.

Meinweoedd anifeiliaid golygu

Yn seiliedig ar forffoleg, mae pedwar math elfennol o feinwe mewn anifeiliaid. Mae amryw o fathau o feinweoedd yn cyfuno i greu organau a strwythrau'r cordd. Tra y gall cysidro pob anifail i gynnwys y pedwar math o feinwe, mae rhain yn ymddangos yn wahanol yn dibynnu ar y math o organeb.

Epitheliwm golygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Meinwe gyswllt golygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Meinwe'r cyhyr golygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Meinwe'r nerfau golygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Meinweoedd planhigion golygu

Mewn planhigion, mae tri math.

Mae enghreifftiau o feinweoedd mewn organebau amlgellog eraill yn cynnwys meinwe fasgiwlar mewn planhigion, megis sylem a ffloem. Caiff meinweoedd planhigion eu dosbarthu yn fras yn dri fath: yr epidermis, y feinwe ddaear, a'r feinwe fasgiwlar. Cyfeirir atynt ar y cyd fel biomas.

  • Epidermis – celloedd sy'n ffurfio ar ymylon allanol dail a'r planhigyn ifanc.
  • Meinwe fasgiwlar – prif gyfansoddion meinwe fasgiwlar yw'r sylem a'r ffloem sy'n symud hylif a mwynau o fewn y planhigyn.
  • Meinwe ddaear – mae meinwe ddaear yn llai gwahaniaethol na meinweoedd eraill. Mae'n cynhyrchu maeth drwy ffotosynthesis ac yn ei storio.
Chwiliwch am meinwe
yn Wiciadur.