Mewn bioleg ac anatomeg, mae'r gair organ (lluosog: organau) yn golygu grwp o feinwe sy'n gwneud gwaith arbennig neu sawl gwaith arbennig o fewn y corff. Daw'r gair allan o'r gair Lladin organum, sef "erfyn, twlsyn", a hwnnw'n air sydd wedi tarddu o'r hen air Groegaidd όργανον - organon, sef "organ, erfyn, twlsyn, offeryn").

Organ
Delwedd:Gray490.png, Internal organs.svg, Equisetum braunii (strobilus), Portland, Oregon.jpg
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o strwythurau anatomegol, dosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathendid anatomegol arbennig, strwythur anatomegol Edit this on Wikidata
Rhan oorganeb byw, system o organnau Edit this on Wikidata
Yn cynnwysmeinwe Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Organ atgenhedlu'r planhigyn ydy blodyn. Mae'r blodyn Hibiscus yma'n ddeuryw ("hermaphroditig"), ac yn cynnwys briger a phistiliau.

Fel arfer ceir dau fath o feinwe: y math canolog (neu'r prif fath) a meinwe ymylol (neu achlysurol). Y math cyntaf ydy'r un sy'n unigryw ar gyfer math arbennig o organ. Er enghraifft, meinwe canolog y galon yw'r meiocardiwm, a'r meinwe ymylol ydy'r nerfau a'r celloedd gwaed a'r meinwe cysylltiol. Mae organau sy'n cysylltu â'i gilydd o ran gwaith yn cydweithio i greu system organau cyfan. Fe'i ceir ym mhob uwch-organeb biolegol, ac nid yn unig mewn anifail; maent i'w cael hefyd mewn planhigion.

System o organau

golygu

Mae grwp o organau tebyg yn cael ei alw'n "system o organau" (Sa: organ system). Gall yr organau berthyn i'r grwp mewn sawl ffordd ond y prif ffordd ydy pwrpas. Er enghraifft, mae'r system iwrein yn cynnwys organau sy'n cydweithio gyda'i gilydd i gynhyrchu, storio a chludo iwrein. Dyma ydy pwrpas y grwp.

Ond gall pwrpas y system o organau yma orgyffwrdd. Er enghraifft, mae'r system atgenhedlu'n defnyddio rhai o'r un organau a'r system iwrein (uchod), dywedir, felly, fod rhai organau'n organau sy'n cael eu rhannu gan fwy nag un system organau. Mae hyn yn enwedig yn wir am y system cyhyrau-esgyrn a'r berthynas rhwng cyhyr ac asgwrn.

Organau planhigion a system o organau

golygu
 
Strobilws yr Equisetum.

Gellir dosbarth organau planhigyn yn ddau grwp: y llystyfiant (Sa: vegetative) a'r organau atgenhedlu.

Mae organau llystyfiant y planhigyn yn cynnwys: gwreiddyn, coesyn a dail, sy'n gyfrifol am gynnal bywyd y planhigyn drwy ffotosynthesis ayb. Mae'r organau atgynhyrchu yn medru amrywio o blanhigyn i blanhigyn. Mewn planhigion blodeuol maent yn cynnwys: y blodyn, yr hedyn a'r frwyth.

Mewn pinwydd, fodd bynnag, yr organ sy'n gyfrifol am atgynhyrchu ydy'r conau (moch coed). Yn y planhigion hynny sy'n atgynhyrchu yn anrhywiol, fodd bynnag, mae'r llystyfiant hefyd yn gyfrifol am greu cenhedlaeth nesaf y planhigyn.

Y ddwy brif system o organau mewn planhigion fasgiwlar ydy'r gwreiddiau a'r egin / blagur.

Rhestr o organau bodau dynol

golygu
 
Y prif organau dynol

Gellir eu grwpio i 12 grwp o fewn y corff dynol. Cânt eu hastudio mewn anatomeg ddynol. Mae'r un systemau i raddau hefyd yn bresennol mewn anifeiliaid eraill.

1. Y system atgenhedlu: yr organau rhyw megis yr ofari, y tiwbiau ffalopian, yr iwterws, y wain, y chwarennau llaeth, llinyn y bogail, y ceilliau, vas deferens, y prostrad a'r pidyn.

2. Y system cyhyrau: (a'r system symud isod) sy'n cynnwys angori'r gewynnau gwahanol a'r cartilag yn sownd i esgyrn, gan eu henwi a disgrifio eu pwrpas, eu ffurf a'r modd y cânt eu creu a'u rhoi at ei gilydd i symud yr ysgerbwd.

3. Y system gylchredol: sy'n ymwneud â phwmpio a sianelu gwaed o amgylch y corff (a'r ysgyfaint) drwy rym y galon a hynny drwy wythiennau a rhydweliau.

4. Y system endocrin: sy'n gyfrifol am y cyfathrebu rhwng gwahanol rannau o'r corff drwy gyfrwng hormonau wedi'u cynhyrchu yn y chwarennau endocrin megis yr hypothalmws, y chwarren bitwidol ('pituitary gland'), y corffyn pineol, y thyroid, y chwarennau y parathyroid, y chwarennau adrenal, yr ofari a'r pidyn.

5. Y system nerfol: system o gasglu, trosglwyddo ac o brosesu gwybodaeth yn yr ymennydd, yr asgwn cefn, y nerfau ymylol a'r nerfau eu hunain.

6. Y system resbiradu: sef yr organau a ddefnyddir i anadlu, y ffaryncs (neu'r 'uwchlwnc'), y tracea, y bronci, yr ysgyfaint a'r diaffram thorasig.

7. Y system droethol: gan gynnwys yr afu, yr wreter, y bledren a'r wrethra a ddefnyddir i symud troeth, ac i gadw balans yr hylif yn y troeth, ac i'w ysgarthu allan o'r corff.

8. Y system symud: (ar y cyd gyda'r system cyhyrau - gweler uchod) sy'n symud yr esgyrn a'r ysgerbwd sy'n cynnal ffrâm y corff, ynghyd â'r cartilag, y gewynnau a'r tendonau.

9. Y system dreulio: treulio a phrosesu'r bwyd drwy organau megis y geg, y ffaryncs, y chwarennau glafoer, yr oesoffagws, y stumog, y cefndenyn, yr iau (afu), y bledren, y pancreas, y goden fustl, y coluddion, y dwodenwm, y coluddyn dall, y rectwm a'r anws.

10 Y system imiwnedd: dyma'r system sy'n amddiffyn y corff rhag clefydau drwy adnabod a lladd pathogenau a chelloedd tiwmor.

11 Y system bilynol (Sa: 'Integumentary system'): croen, gwallt ac ewinedd.

12 Y system lymffatig: strwythurau sy'n delio â throsglwyddo'r lymph rhwng meinweoedd a thrwy'r gwaed a'r lymph eu hunain, nodau lymff a thiwbiau lymff sy'n ei gludo. Mae hyn hefyd yn cynnwys y system imiwnedd ac amddiffyn rhag clefydau drwy gyfrwng y lwcosets (Sa: 'leukocytes'), y tonsiliau, yr adrenoids, y thymws a'r boten (Sa: 'spleen').

Gweler hefyd

golygu