Meirion Evans

Archdderwydd

Gweinidog a bardd Cymraeg yw Meirion Evans.

Ganed ef yn Felindre, Abertawe. Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1979. Roedd yr amgylchiadau braidd yn anarferol; dyfarnwyd y Goron yn wreiddiol i T. James Jones, ond wedi iddi ddod yn amlwg fod ei gerdd yn gywaith, ataliwyd y wobr oddi wrtho a'i dyfarnu i Meirion Evans. Bu'n Archdderwydd rhwng 1999 a 2002.

Llyfryddiaeth golygu

  • Y corn olew: cyfrol o gerddi (Cyhoeddiadau Barddas, 1986)
  • Straeon Ffas a Ffridd (Gomer, 1996/7)
  • Rhofio a Rhwyfo (Gomer, 1998)
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.