Jim Parc Nest

Bardd a sgriptiwr o Gymro a chyn Archdderwydd
(Ailgyfeiriad o T. James Jones)

Bardd, sgriptiwr, a darlithydd a chyn Archdderwydd Cymru yw'r Prifardd Jim Parc Nest, neu T. James Jones (ganed 9 Ebrill 1934). Mae'n un o deulu Parc Nest.

Jim Parc Nest
Yr Archdderwydd Jim Parc Nest, Eisteddfod Wrecsam 2011
Ganwyd9 Ebrill 1934 Edit this on Wikidata
Castellnewydd Emlyn Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
PriodManon Rhys Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Ganed Thomas James Jones ym 1934, ac fe'i magwyd ar fferm Parc Nest ger Castell Newydd Emlyn.[1] Mynychodd Goleg Prifysgol Aberystwyth a’r Coleg Presbyteraidd yng Nghaerfyrddin

Gyrfa golygu

Bu’n weinidog gyda’r Annibynwyr ym Mynydd-bach Abertawe a’r Priordy Caerfyrddin cyn dod yn ddarlithydd yn y Gymraeg a Drama yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Daeth yn aelod o adran sgriptiau’r BBC, yn bennaf fel golygydd cyfres sebon Pobol y Cwm.[2]

Prifardd golygu

Enillodd y Goron yn Eisteddfod Abergwaun 1986 ac yn Eisteddfod Casnewydd 1988 gyda'i bryddestau Llwch a Ffin. Yn Eisteddfod yr Wyddgrug 2007 enillodd y Gadair gyda'i awdl ar y testun Ffin. Mae felly wedi ennill y Goron a'r Gadair ar yr un testun. Enillodd y Gadair eto yn Eisteddfod Sir Conwy 2019 gyda awdl ar y testun Gorwelion.[3]

Roedd ei ffugenw yn 2007, Un o ddeuawd, yn adlais o ffrae a gododd pan ymgeisiodd am y Goron yn Eisteddfod Caernarfon 1979 o dan y ffugenw Ianws. Bryd hynny, bu'n rhaid iddo ildio'r Goron i Meirion Evans wedi iddi ddod yn amlwg iddo gydweithio â bardd arall ar y gwaith. Dywedodd yn 2007, fodd bynnag, nad oedd wedi bwriadu i'w ffugenw gyfeirio at helynt 1979.[4]

Yn 2009, cafodd ei ddewis i olynu Dic yr Hendre fel Archdderwydd Gorsedd y Beirdd gan wasanaethu tan 2013.

Bywyd personol golygu

Mae'n frawd i'r Prifardd John Gwilym ac i'r Prifardd Aled Gwyn,[5] yn ogystal â bod yn ewythr i'r Prifardd Tudur Dylan. Mae'n briod â'r awdures y Prifardd a'r Prif Lenor Manon Rhys, a enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2015 a'r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Wrecsam 2011 ag yntau'n Archdderwydd. Mae ganddo ddau fab, llysfab, llysferch, a saith o wyrion.

Cyfeiriadau golygu

  1.  Bois Parc Nest. S4C.
  2.  Enillydd y Gadair. Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
  3. T James Jones yw enillydd y Gadair yn yr Eisteddfod , BBC Cymru Fyw, 9 Awst 2019.
  4.  Ffugenw yn dychryn trefnydd yr Eisteddfod. BBC. Adalwyd ar 11 Awst, 2011.
  5. "Bois Parc Nest". Cyrchwyd 10 Awst 2019. Unknown parameter |gwefan= ignored (help)

Dolenni allanol golygu