Meleri Wyn James
Awdur Cymraeg ydy Meleri Wyn James (ganwyd 20 Mehefin 1970). Cafodd ei geni yn Llandeilo. Magwyd yn Beulah ger Castell Newydd Emlyn a mynychodd Ysgol Beulah, Ysgol Aberporth ac Ysgol Uwchradd Aberteifi cyn mynd i Brifysgol Aberystwyth.[1]
Meleri Wyn James | |
---|---|
Ganwyd | 1970 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor |
Enillodd y Fedal Lenyddiaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru, Taf-Elái yn 1991, cyhoeddwyd y gyfrol hon pan oedd ond yn 20 oed. Enillodd hi'r Fedal Ryddiaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol 2023.[2]
Llyfryddiaeth
golygu- Mwydyn yn yr Afal (Urdd Gobaith Cymru, 1991) – cyfrol enillydd y Fedal Lenyddiaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru, Taf-Elái 1991
- Stripio (Y Lolfa, 1994)
- Diwrnod Da o Waith (Y Lolfa, 1999)
- Gwendolin Pari P.I., Nofelau Nawr (Gwasg Gomer, 2001)
- Catrin Jones yn Unig (Gwasg Gomer, 2001)
- Catrin Jones a'i Chwmni (Gwasg Gomer, 2001)
- Tipyn o Gamp 1, Cyfres Hoff Straeon (Gwasg Gomer, 2003)
- Stori a Mwy (Gwasg Gomer, 2003)
- Gwenynen Bigog (Gwasg Gomer, 2003)
- Tipyn o Gamp 2 (Gwasg Gomer, 2003)
- Mrch Dd@, Cyfres Whap! (Gwasg Gomer, 2005)
- Y We, Cyfres i'r Byw (Gwasg Gomer, 2005)
- Wyneb Rwber, Cyfres i'r Byw (Gwasg Gomer, 2005)
- St@fell, Cyfres Whap (Gwasg Gomer, 2005)
- Parti Ann Haf, Stori Sydyn (Gwasg Gomer, 2006)
- Rhyfel Cartre, Cyfres Lleisiau (Canolfan Astudiaethau Addysg, 2006)
- Hlo Bri@n! :), Cyfres Whap! (Gwasg Gomer, 2006)
- Fyny Lawr (Gwasg Gomer, 2006)
- Dw i Eisiau Bod yn Enwog (Atebol, 2010)
- Na, Nel! (Y Lolfa, 2014)
- Na, Nel!: Ha, ha! (Y Lolfa, 2015)
- Na, Nel!: Ho, ho! (Y Lolfa, 2015)
- Na, Nel!: Aaaa! (Y Lolfa, 2016)
- Na, Nel!: Shhh! (Y Lolfa, 2016)
- Dyddiadur Nel (Y Lolfa, 2017)
- Na, Nel!: Wps! (Y Lolfa, 2017)
- Na, Nel!: Ha, Ha! (Y Lolfa, 2017)
- Na, Nel!: Un Tro (Y Lolfa, 2018)
Ffynonellau
golygu- ↑ Taflen Adnabod Awdur[dolen farw] Cyngor Llyfrau Cymru
- ↑ "Meleri Wyn James from Aberystwyth wins Eisteddfod prose medal". North wales Chronicle (yn Saesneg). 10 Awst 2023. Cyrchwyd 11 Awst 2023.
- Coladwyd y llyfryddiaeth oddi ar gwales.com