Melyn fab Cynfelyn

Arwr Cymreig neu Frythonaidd cynnar oedd Melyn fab Cynfelyn (fl. hanner cyntaf y 7g, efallai). Cyfeirir ato yn un o Drioedd Ynys Prydain ac mewn cerdd yn Llyfr Aneirin a briodolir i Aneirin.

Ceir dryswch yn y traddodiadau Cymreig rhwng Melyn(/Belyn) ac arwr cynnar arall a adwaenir fel Belyn o Lŷn. Mae'n eithaf tebygol bod eu hanes wedi'i gymysgu i gryn raddau, ond ceir digon o dystiolaeth i brofi fod dau gymeriad o'r enw Melyn/Belyn yn cael eu cofio gan y Cymry.

Cyfeirir at Felyn yn y triawd "Tair Gosgordd Addwyn Ynys Prydain", gyda Mynyddog Mwynfawr (Mynyddawg Eiddyn) a Dryon fab Nudd Hael. Ond ceir enghraifft o'r drysi rhwng Melyn a Belyn o Lŷn yn y fersiwn o'r triawd a geir yn Llyfr Gwyn Rhydderch, lle rhoddir "gosgordd Felyn o Leyn [yn] Erethlyn yn Rhos" yn lle "gosgordd Melyn mab Kynvelyn".

Cyfeirir ato wrth yr enw Belyn fab Cynfelyn mewn rhai ffynonellau eraill, e.e. yn Hirlas Owain (12g). Ond cedwir testun cynnar a elwir yn 'Gwarchan Cynfelyn' yn Llyfr Aneirin, ar ddiwedd testun Y Gododdin. Ymddengys mai arwr cynnar o Wynedd oedd y Cynfelyn hwn (ceir sawl cymeriad arall o'r enw Cynfelyn). Syrthiodd Cynfelyn ym mrwydr Catraeth yn yr Hen Ogledd. Mae'n bosibl darllen un llinell yn y gerdd fel cyfeiriad at ei fab, Melyn.

Cyfeiriadau golygu

  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1978; argraffiad newydd diwygiedig, 1991)
  • Ifor Williams (gol.), Canu Aneirin (Caerdydd, 1958)