Llyfr Aneirin yw un o'r llawysgrifau cynharaf un yn y Gymraeg. Cafodd ei llunio tua'r flwyddyn 1265, a dim ond Llyfr Du Caerfyrddin sydd fymryn yn gynharach o blith y llawysgrifau Cymraeg (ceir rhai llawysgrifau Cymreig a ysgrifenwyd yn Lladin sy'n gynharach na'r ddau lyfr hyn). Mae'n cynnwys testun Y Gododdin gan Aneirin a sawl cerdd arall sy'n perthyn i'r 6g efallai, er yr anghytunir am hynny.

Book.of.Aneirin.facsimile.png
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol llawysgrif Edit this on Wikidata
Iaith Cymraeg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu c. 1350 Edit this on Wikidata
Lleoliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Llawysgrif femrwn 6¾ x 5 modfedd yw hi, gyda chyfamswm o 42 tudalen ffolio, 38 ohonynt yn dwyn llawysgrifen. Ceir dwy law ynddi, bron yn gyfoes, ac mae o leiaf tri o dudalennau ffolio yn eisiau ar y diwedd. Rhwymwyd y cyfan mewn lledr croen llo du rywbryd yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol.[1]

Yn ôl y nodiadau ymyl y ddalen a geir ynddi, bu'r llawysgrif ym meddiant y beirdd Dafydd Nanmor (fl. 1450-80) o Wynedd a Gwilym Tew (fl. 1460-80) o Forgannwg ar ddiwedd yr Oesoedd Canol. Trosglwyddwyd y llawysgrif ryw fodd neu'i gilydd i lyfrgell Hengwrt, Meirionnydd, lle cafodd ei gweld gan yr hynafiaethydd Edward Lhuyd yn yr 17g. Oddi yno aeth i'r De, yn gyntaf i Aberdâr ac yna i feddiant yr hanesydd Theophilus Jones ac wedyn i Carnhuanawc. Daeth i feddiant y casglwr llawysgrifau brwd Syr Thomas Philipps a chafodd ei rhoi i Lyfrgell Dinas Caerdydd lle y'i diogelir hyd heddiw fel Llawysgrif Caerdydd 2.81 (Caerdydd 1 dan yr hen drefn).

Rhoddir cyfran helaeth o'r llyfr bychan hwn i'r Gododdin, ac am y rheswm yna mae'n cael ei ystyried yn un o drysorau pennaf llenyddiaeth Gymraeg. Mae'r testunau eraill a geir ynddi, rhai ohonynt yn gymysg â thestun y Gododdin ei hun, yn cynnwys yr hwiangerdd unigryw Pais Dinogad; marwnad i arwr a syrthiodd ym Mwrydr Strathcarron; penillion gwirebol Gorchan Addefon a Gorchan Maeldderw a briodolir i'r bardd Taliesin a ganai yn yr Hen Ogledd yn yr un ganrif ag Aneirin.

CyfeiriadauGolygu

  1. Disgrifiad John Gwenogvryn Evans, dyfynwyd gan Ifor Williams yn Canu Aneirin, tud. xii.

LlyfryddiaethGolygu

  • J. Gwenogvryn Evans (gol.), Facsimile & Text of the Book of Aneirin (Pwllheli, 1898)
  • Daniel Huws, Llyfr Aneirin: A Facsimile / Llyfr Aneirin: Ffacsimile (Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1989)
  • Daniel Huws, Llyfrau Cymraeg 1250-1400 (Aberystwyth, 1992). Darlith Syr John Williams.
  • Morfydd E. Owen, 'Hwn yw e Gododin. Aneirin ae cant.', yn Rachel Bromwich a R. Brinley Jones (gol.), Astudiaethau ar yr Hengerdd (Caerdydd, 1978)
  • Brynley F. Roberts (gol.) Early Welsh Poetry: Studies in the Book of Aneirin (Aberystwyth, 1988)
  • Ifor Williams, Canu Aneirin (Gwasg Prifysgol Cymru, 1938; ail arg. 1961)

Dolenni allanolGolygu

Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: