Merched y Wawr

Sefydliad gwirfoddol, anwleidyddol i fenywod drwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Merched y Wawr yn fudiad Cymreig a Chymraeg sy'n rhoi'r cyfle i fenywod i gymdeithasu trwy drefnu teithiau, cyngherddau a chyfarfodydd. Sefydlwyd y mudiad yn 1967 yn dilyn anfodlonrwydd ymysg rhai aelodau o Sefydliad y Merched gyda natur uniaith Saesneg y mudiad hwnnw.[1][2][3] Mae dros 250 o ganghennau yng Nghymru, ac fe gyhoeddir y cylchgrawn Y Wawr pedair gwaith y flwyddyn.

Merched y Wawr
Enghraifft o'r canlynolsefydliad Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1967 Edit this on Wikidata
PencadlysAberystwyth Edit this on Wikidata
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://merchedywawr.cymru/ Edit this on Wikidata
Dwy aelod o Ferched y Wawr yn Nhregaron yn cymryd rhan yn Ras yr Iaith 2014

Yn 1994 aethpwyd ati i ddechrau sefydlu Clybiau Gwawr er mwyn denu aelodau ieuanc i’r mudiad.[4]

Yn 1975, gadawodd Zonia Bowen, prif sylfaenydd a Llywydd Anrhydeddus y mudiad oherwydd ei gwrthwynebiad i le crefydd yng nghyfarfodydd swyddogol y mudiad.[3]

Gweler hefyd golygu

  • Pin-yp, nofel gan Janice Jones (2004)

Cyfeiriadau golygu

  1. "Ein Hanes", gwefan Merched y Wawr; adalwyd 4 Ebrill 2024
  2. Sefydlu Merched y Wawr o wefan BBC Cymru
  3. 3.0 3.1 Llyfrgell Genedlaethol Cymru:Papurau Zonia M. Bowen (Merched y Wawr) ar wefan Archif Cymru
  4. Clybiau Gwawr Archifwyd 2011-08-05 yn y Peiriant Wayback. o wefan Merched y Wawr

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.