Llwyth brodorol sy'n perthyn i'r bobl Apache ac sy'n byw ar hyn o bryd mewn reservation yn ne New Mexico, UDA, yw'r Mescalero (neu Apache Mescalero). Fel yr Apache eraill, bu gan y Mescalero ran yn y Rhyfeloedd Apache yn erbyn yr Unol Daleithiau yn ail hanner y 19g. Ar droad yr 20g croesawodd eu cyd-Apache Chiricahua ar eu tir pan gawsant eu rhyddhau o'u carchar rhyfel yn Fort Sill, Oklahoma, a'r Apache Lipan hefyd. Ar y cyfan pobl dawel heb fod o natur ryfelgar oedd y Mescalero yn y 19g, ond dioddefasant sawl cyflafan gan fyddin yr Unol Daleithiau ac ymladdodd rhai aelodau o'r llwyth ochr yn ochr â'r pennaeth Victorio.

Mescalero
Enghraifft o'r canlynolgrŵp ethnig Edit this on Wikidata
CrefyddNative american church, cristnogaeth, eneidyddiaeth edit this on wikidata
Rhan oApache Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
RhanbarthMecsico Newydd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Erthygl am y llwyth Apache yw hon. Gweler hefyd Mescalero (gwahaniaethu).
Tipis Mescalero (diwedd y 19eg ganrif)

Sefydlwyd reservation y Mescalero yn ne canolbarth Mecsico Newydd ar 27 Mai, 1873 ar orchymyn yr Arlywydd Ulysses S. Grant, ger Fort Stanton. Sefydlwyd y reservation presennol yn 1883. Mae'n cynnwys 1,862.463 km² (719.101 milltir sgwar) o dir, bron i gyd yn Swydd Otero. Mae 3,156 o Fescalero yn byw yno (Cyfrifiad 2000).

Ransio a thwristiaeth yw'r prif ffynonellau incwm. Gorwedd y reservation ar lethrau dwyreiniol Mynyddoedd Sacramento. Gorchuddir y bryniau a mynyddoedd â phinwydd ac mae datblygiadau yn cael eu cyfyngu er mwyn gwarchod yr amgylchedd. Ond ceir gwersyll sgio 'Ski Apache' ar fynydd 12,000 troedfedd y Sierra Blanca gyda gwesty gerllaw.

Mae'r Sierra Blanca yn dir sanctaidd i'r Mescalero a'r Apache, fel mae canolfan wybodaeth yn nhref fechan Mescalero yn esbonio. Mynyddoedd sanctaidd eraill yw Mynyddoedd Sacramento, hefyd yn New Mecsico

Llywodraethir y llwyth gan Gyngor Llwythol. Etholir Arlywydd bob pedair mlynedd. Carleton Naiche-Palmer yw'r arlywyddd presennol, ers Ionawr 2008.

Iaith golygu

Mae'r iaith Mescalero yn iaith De Abascaidd, sy'n is-deulu o'r ieithoedd Athabasgaidd a Na-Dené. Mae Mescalero yn perthyn i gangen de-orllewinol yr is-deulu hwn ac yn perthyn yn agos i iaith y Chiricahua ac, i raddau llai, i'r iaith Navajo ac iaith yr Apache Gorllewinol.

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu