Mewngylch ac allgylch

Mewn geometreg, mae mewngylch yn cyfeirio at y cylch mwyaf a ellir ei ffitio mewn triongl. Mae'n cyffwrdd tair ochr y triongl; mewn geiriau eraill, mae'r cylch mewn tangiad a'r triongl mewn tri lle. Gelwir canolbwynt y mewngylch yn "fewnbwynt y triongl".[1]

Dynodir y canlynol:
     triongl gyda      mewngylch, mewnbwynt (incenter) (I),      allgylchoedd, allbwyntiau (excenters) (JA, JB, JC),      hanerydd ongl (mewnol) a      hanerydd ongl (allanol). Y      triongl gwyrdd yw'r 'triongl allganol' (excentral triangle).

Ceir hefyd allgylch, sef cylch sy'n gorwedd y tu allan i'r triongl, mewn tangiad i un o'i ochrau a thangiad i ymestyniad o'r ddau arall. Mae gan bob triongl dri allgylch gwahanol, gyda phob un mewn tangiad gydag un o ochrau'r triongl.[2]

Polygon tangiadol

Gellir canfod canol y mewngylch (y 'mewnbwynt') fel croestoriad y tri hanerydd ongl (mewnol) (internal angle bisectors).[2][3] Canolbwynt yr allgylch yw croestoriad hanerydd ongl (mewnol) un ongl (fertig A, er enghraifft) a hanerydd ongl (allanol) y ddwy ongl arall. Canolbwynt yr allgylch hwn yw'r 'triongl allganol' (excentral triangle) mewn perthynas â fertig A, neu allganol A.[2][4]:p. 189, #298(d)

Oherwydd bod hanerydd ongl (mewnol) unrhyw ongl yn berpendicwlar i'w hanerydd allanol, mae'n dilyn, felly, fod canol y mewngylch ynghyd â chanolbwyntiau'r tri allgylch, yn ffurfio system orthocentric.[4]:p. 182[5]

Nid oes gan bob polygon sydd â mwy na thair ochr dangiad mewngylchol ar bob ochr. Gelwir y rhai hynny sydd (hy lle mae'r mewngylch yn cyffwrdd pob ochr) yn "bolygonau tangiadol".

Mewngylch a mewnbwynt golygu

 
Mae triongl, ΔABC     , gyda mewngylch     , mewnbwynt (I)     , yn cyffwrdd triongl (ΔTaTbTc)     , a "phwynt Gergonne" (Ge)     .

Dyweder bod gan   fewngylch gyda radiws r a chanolbwynt I. yna, a yw hyd y linell BC, b yw hyd AC, ac c yw hyd AB. Dyweder hefyd mai   yw'r mannau cyffwrdd, ble mae'r mewngylch yn cyffwrdd BC, AC, a AB.

Mewngylch golygu

Y mewnbwynt yw'r pwynt hwnnw ble mae'r hanerydd ongl (mewnol) o   yn cyfarfod.

Y pellter o fertig A i'r canolbwynt I yw:

 

Y pellter i'r fertig golygu

Dyweder bod mewnbwynt triongl ABC yn I, mae'r pellter o'r mewnbwynt i'r fertig, a hyd ochrau'r triongl yn parchu'r hafaliad:

 

Ymhellach,[6]

 

ble R ac r yw cylchradiws (circumradius) a mewnradiws y triongl.

Cyfeiriadau golygu

  1. Kay (1969, p. 140)
  2. 2.0 2.1 2.2 Altshiller-Court (1925, p. 73)
  3. Kay (1969, p. 117)
  4. 4.0 4.1 Johnson, Roger A., Advanced Euclidean Geometry, Dover, 2007 (orig. 1929).
  5. Ni cheir term Cymraeg yng Ngeiriadur yr Academi na'r Termiadur Addysg - Celf a Dylunio, Ffiseg a Mathemateg.
  6. Altshiller-Court, Nathan (1980), College Geometry, Dover Publications. #84, p. 121.