Micheál Martin
- Dyma Erthygl Micheál Martin y 15fed Taoiseach Iwerddon. Am y gwleidydd Albanaidd oedd yn llefarydd Tŷ'r Cyffredin rhwng 2000 i 2009 gwelir Michael Martin.
Gwleidydd Gwyddelig yw Micheál Martin (Ynganiad Gwyddeleg: [ˈmʲiːçaːl̪ˠ]; ganwyd 1 Awst 1960) sy'n Taoiseach (Prif Weinidog) Iwerddon ers 27 Mehefin 2020 ac yn arweinydd Fianna Fáil ers 2011. Mae wedi bod yn Daith Dála (TD) i Corc De-Ganolog ers 1989.
Micheál Martin Taoiseach | |
---|---|
15fed Taoiseach | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 27 Mehefin 2020 | |
Arlywydd | Michael D. Higgins |
Tánaiste | Leo Varadkar |
Rhagflaenwyd gan | Leo Varadkar |
Arweinydd Fianna Fáil | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 26 Ionawr 2011 | |
Dirprwy | Mary Hanafin Brian Lenihan Jnr Éamon Ó Cuív Dara Calleary |
Rhagflaenwyd gan | Brian Cowen |
Arweinydd yr wrthblaid | |
Mewn swydd 9 Mawrth 2011 – 27 Mehefin 2020 | |
Arlywydd | Mary McAleese Michael D. Higgins |
Taoiseach | Enda Kenny Leo Varadkar |
Rhagflaenwyd gan | Enda Kenny |
Dilynwyd gan | Mary Lou McDonald |
Gweinidog dros Materion Tramor | |
Mewn swydd 7 Mai 2008 – 18 Ionawr 2011 | |
Taoiseach | Brian Cowen |
Rhagflaenwyd gan | Dermot Ahern |
Dilynwyd gan | Brian Cowen |
Gweinidog dros Menter, Masnach a Chyflogaeth | |
Mewn swydd 29 Medi 2004 – 7 Mai 2008 | |
Taoiseach | Bertie Ahern |
Rhagflaenwyd gan | Mary Harney |
Dilynwyd gan | Mary Coughlan |
Gweinidog dros Iechyd a Phlant | |
Mewn swydd 27 Ionawr 2000 – 29 Medi 2004 | |
Taoiseach | Bertie Ahern |
Rhagflaenwyd gan | Brian Cowen |
Dilynwyd gan | Mary Harney |
Gweinidog dros Addysg a Gwyddoniaeth | |
Mewn swydd 26 Mehefin 1997 – 27 Ionawr 2000 | |
Taoiseach | Bertie Ahern |
Rhagflaenwyd gan | Niamh Bhreathnach (Education) |
Dilynwyd gan | Michael Woods |
Arglwydd Faer Corc | |
Mewn swydd 20 Mehefin 1992 – 21 Mehefin 1993 | |
Rhagflaenwyd gan | Denis Cregan |
Dilynwyd gan | John Murray |
Teachta Dála | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd Mehefin 1989 | |
Etholaeth | Corc De-Ganolog |
Manylion personol | |
Ganed | Turners Cross, Corc, Iwerddon | 1 Awst 1960
Dinesydd | Gwyddeleg |
Plaid gwleidyddol | Fianna Fáil |
Priod | Mary O'Shea (pr. 1989) |
Plant | 5 |
Addysg | Coláiste Chríost Rí |
Alma mater | Coleg Prifysgol Corc |
Gwefan | michealmartin.ie |
15fed Taoiseach (2020 - presennol)
golyguAr 27 Mehefin 2020, etholwyd Martin yn Taoiseach, mewn cytundeb clymbleidiol hanesyddol a welodd ei blaid Fianna Fáil yn mynd i lywodraeth gyda chystadleuwyr hanesyddol, Fine Gael a’r Blaid Werdd. Mi fydd llywodraeth Micheál Martin yn arwain am dymor o 1 flynedd ac hanner, wedyn bydd Varadkar yn cymryd yr awenau fel Taoiseach eto am weddill y tymor.[1] Pleidleisiodd mwyafrif o blaid, 93 aelod o’r Dáil iddo gymryd y rôl, tra bod 63 aelod wedi pleidleisio yn ei erbyn. [2]
Bywyd personol
golyguMae Martin yn briod â Mary O'Shea, mae'r cwpl wedi cael pump o blant. Ym mis Hydref 2010, bu farw merch ieuengaf Martin, Léana, yn Ysbyty Great Ormond Street ar ôl dioddef o gyflwr ar y galon.[3] Un mlynedd ar ddeg ynghynt bu farw mab, Ruairí, yn fabandod.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Disgwyl mai Micheal Martin fydd arweinydd newydd Iwerddon". Golwg360.
- ↑ ""Un o'r anrhydeddau mwyaf" i Micheal Martin, Taoiseach newydd Iwerddon". Golwg360.
- ↑ "Micheal Martin's daughter passes away". TheJournal.ie. 23 September 2010. Cyrchwyd 19 January 2011.
- ↑ "Martin family heartbroken at death of daughter". Irish Independent. Cyrchwyd 17 April 2014.