Plaid Werdd Iwerddon
Sefydlwyd Plaid Werdd Iwerddon (Gwyddeleg: Comhaontas Glas, yn llythrennol: "Cynghrair Werdd"; Saesneg: Green Party) yn 1981. Ers 2006 mae iddi natur drawsffiniol gan weithredu yng Ngweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon. Arweinydd y blaid yw Eamon Ryan.
Y Blaid Werdd Comhaontas Glas | |
---|---|
Arweinydd | Eamon Ryan TD |
Cadeirydd | Roderic O'Gorman |
Dirprwy Arweinydd | Catherine Martin TD |
Arweinydd y Cynulliad | Steven Agnew Aelod o Gynulliad Gogled Iwerddon |
Arweinydd y Seanad | Seneddwr Grace O'Sullivan |
Sefydlwyd | 1981 |
Pencadlys | 16–17 Suffolk Street, Dulyn 2, Iwerddon |
Asgell yr ifanc | Young Greens |
Rhestr o idiolegau | Byd Gwyrdd[1] Pleidiol i Ewrop |
Sbectrwm gwleidyddol | Canol-Chwith |
Partner rhyngwladol | Global Greens |
Cysylltiadau Ewropeaidd | European Green Party |
Lliw | Gwyrdd ac aur |
Dáil Éireann | 2 / 158 |
Seanad Éireann | 1 / 60 |
Tŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig) | 0 / 18 |
Cynulliad Gogledd Iwerddon | 2 / 90 |
Llywodraeth leol yng Ngweriniaeth Iwerddon | 12 / 949 |
Llywodraeth leol yng Ngogledd Iwerddon | 3 / 462 |
Seddi Ewrop - Gweriniaeth Iwerddon | 0 / 11 |
Gwefan | |
www.greenparty.ie | |
Hanes
golyguSefydlwyd y blaid ym 1981 fel Plaid Ecolegol Iwerddon (Irish Ecological Party) gan Christopher Fettes. Yn 1983, newidiodd yr enw Saesneg i'r Green Alliance (yn llythrennol Gynghrair Gwyrdd). Ers 1987, enw Saesneg y blaid yw'r Green Party. Ni newidiwyd yr enw Gwyddelig (Comhaontas Glas) ers creu'r blaid ac fe'i defnyddir hyd heddiw.
Bu gan y Gwyrddion gynrychiolaeth mewn llywodraeth leol er 1985; yn y Dáil rhwng 1989-2011; yn Senedd Ewrop rhwng 1994-2004 ac yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon ers 2007.
Athroniaeth a Pholisïau Bras
golyguEr mae'r amgylchedd yw prif sbardun wleidyddol y Gwyrddion mae ganddynt bolisïau mewn meysydd eraill. Mae'r rhain yn cynnwys;[2] amddiffyn yr iaith Wyddeleg; tynnu'r oed bleidleisio i 16 oed etholiad uniongyrchol i aelodaeth yr ail dŷ yn y Weriniaeth, y Seanad Éireann, cefnogaeth i iechyd gyhoeddus genedlaethol ac yn erbyn preifateiddio dŵr Iwerddon. Maent hefyd o blaid hawl unigolion angheuol sâl i'r hawl i farw.
Cyfranogiad yn y llywodraeth
golyguO fis Mehefin 14 2007 i Ionawr 23 2011[3] roedd y Gwyrddion yn rhan o glymblaid y llywodraeth â Fianna Fáil a Progressive Democrats, ac ar ôl hunan-ddiddymu fel plaid, bu'r Gwyrddion yn rheoli gyda Fianna Fáil. Ar yr un pryd, newidiodd cadeirydd plaid y llywodraeth, Trevor Sargent, ei safbwynt. Roedd wedi addo na fyddai'r Gwyrddion yn mynd i lywodraeth gyda Fianna Fáil, ond wedi'r etholiad derbyniodd swydd Weinidog Gwladol dros Fwyd ac Amaethyddiaeth yn y llywodraeth newydd. Mewn cynhadledd arbennig, pleidleisiodd aelodau'r Blaid Werdd dros fynd i llywodraeth gyda FF gan fwyafrif o 86%[4]. Bu Cadeirydd newydd y Blaid, John Gormley, yn Weinidog Amgylchedd a Llywodraeth Leol, tra daeth Eamon Ryan yn Weinidog Cyfathrebu, Ynni ac Adnoddau naturiol[4]. Yn ystod y llywodraeth, roedd gan y Gwyrddion bedwar gweinidog. Yn ogystal â Gormley a Ryan, hwy oedd: Ciarán Cuffe (Gweinidog Gwladol dros Amaethyddiaeth, Trafnidiaeth Gynaliadwy, Cynllunio ac Amddiffyn Henebion) a Mary A. White (Gweinidog Gwladol dros Gydraddoldeb, Hawliau Dynol ac Integreiddio).
Colli ac Ennill Tir
golyguYn dilyn eu clymblaid gyda FF, collodd y Gwyrddion eu holl seddi yn yr etholiad cyffredinol yn 2011 gan ennill ond 2% o'r bleidlais. Ond enillwyd peth tir yn ôl yn Etholiad Gyffredinol 2016 pan etholwyd 2 aelod i'r Dáil.
Canlyniadau Etholiadol
golyguDáil Éireann
golyguEtholiad | Seddi enillwyd | ± | Safle | Pleidleisiau Dewis 1af | % | Llywodraeth | Arweinydd |
---|---|---|---|---|---|---|---|
Tach 1982 | 0 / 166
|
Dim | 3,716 | 0.2% | Dim seddi | Dim | |
1987 | 0 / 166
|
Dim | 7,159 | 0.4% | Dim seddi | Dim | |
1989 | 1 / 166
|
1 | 6ed | 24,827 | 1.5% | Yr Wrthblaid | Dim |
1992 | 1 / 166
|
6ed | 24,110 | 1.4% | Yr Wrthblaid | Dim | |
1997 | 2 / 166
|
1 | 5ed | 49,323 | 2.8% | Yr Wrthblaid | Dim |
2002 | 6 / 166
|
4 | 5ed | 71,470 | 3.8% | Yr Wrthblaid | Trevor Sargent |
2007 | 6 / 166
|
4ed | 96,936 | 4.7% | Clymblaid (FF-GP-PD) | Trevor Sargent | |
2011 | 0 / 166
|
6 | Dim | 41,039 | 1.8% | Dim seddi | John Gormley |
2016 | 2 / 158
|
2 | 8fed | 56,999 | 2.7% | Yr Wrthblaid | Eamon Ryan |
Cynulliad Gogledd Iwerddon
golyguEtholiad | Corff | Seddi enillwyd | ± | Safle | Pleidlais Dewis 1af | % | Llywodraeth | Arweinydd |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Fforwm Gogledd Iwerddon, 1996 | Aelodau Fforwm G.I. | 0 / 110
|
Dim | 3,647 | 0.5% | Dim Seddi | Dim | |
[[Cynulliad G.I 1998 | Assembly | 0 / 108
|
Dim | 710 | 0.1% | Dim Seddi | Dim | |
2003 | 0 / 108
|
Dim | 2,688 | 0.4% | Dim Seddi | Dim | ||
2007 | 1 / 108
|
1 | 6ed | 11,985 | 1.7% | Yr Wrthblaid | Dim | |
2011 | 1 / 108
|
7fed | 6,031 | 0.9% | Yr Wrthblaid | Steven Agnew | ||
2016 | 2 / 108
|
1 | 6ed | 18,718 | 2.7% | Yr Wrthblaid | Steven Agnew | |
2017 | 2 / 90
|
6ed | 18,527 | 2.3% | Yr Wrthblaid | Steven Agnew |
Cysylltiadau â'r Undeb Ewropeaidd
golyguYn wahanol i'r rhan fwyaf o bartïon yn y Blaid Werdd Ewropeaidd, cafwyd adain Ewrosceptig cryf yn y blaid Wyddelig. Yn ystod y refferendwm ar gadarnhau Cytundeb Lisbon yn 2008, ni chymerodd y blaid safbwynt swyddogol gan mai dim ond 63.5% o'r cynadleddwyr a gefnogai'r Cytundeb, sef, llai na'r trothwy gofynnol gan statudau 2/3 y Blaid. Fodd bynnag, yn y refferendwm, pleidleisiodd y Blaid dros fabwysiadu Cytuniad Lisbon gan Iwerddon. Mewn cyngres arbennig ar 18 Gorffennaf, 2009 roedd 2/3 o gynrychiolwyr o blaid cefnogi'r cytundeb (214 ar gyfer, 107 yn erbyn).[5]
Arweinwyr
golyguHyd nes 2001, nid oedd gan y blaid arweinydd swyddogol.
- Trevor Sargent (2001-2007)
- John Gormley (2007-2011)
- Eamon Ryan (o 2011)
Dolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Nordsieck, Wolfram (2016). "Ireland". Parties and Elections in Europe.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-05-28. Cyrchwyd 2018-09-28.
- ↑ https://www.theguardian.com/world/2011/jan/23/greens-quit-irish-government
- ↑ 4.0 4.1 https://www.rte.ie/news/2007/0614/90035-election/
- ↑ https://www.rte.ie/news/2009/0718/119706-greenparty/