Michelle Probert
Mae Michelle Probert (ganwyd 17 Mehefin 1960) yn gyn-athletwr Olympaidd benywaidd o Brydain. Roedd hi'n gystadlu dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad 1982 yn Brisbane, Awstralia, lle enillodd fedal arian yn y 400 metr, y tu ôl i Raelene Boyle o Awstralia. Priododd hi a'r athletwr Steve Scutt ym 1980. Enillodd fedal efydd yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1980 ym Moscfa, gan redeg trydydd cymal y ras gyfnewid 4 × 400 m.
Michelle Probert | |
---|---|
Ganwyd | 17 Mehefin 1960 Lerpwl |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd |
Taldra | 170 centimetr |
Pwysau | 56 cilogram |
Chwaraeon |
Cafodd Probert ei geni yn Lerpwl. Roedd hi'yn bencampwraig Cymru ar 100m (1978–1982), 200m (1978, 1980–1982) a 400m (1979 a 1984). Cystadlodd yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1984 yn Los Angeles yn y 400m[1] gan gyrraedd y rownd gyn derfynol, [2] ac yn y ras gyfnewid 4 × 400 m cyrraedd y rownd derfynol a gorffen yn y pedwerydd safle.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Griffiths, Gareth (13 Gorffennaf 2016). "Seren Bundy-Davies only Welsh athlete in GB squad for Rio 2016 Olympics". walesonline (yn Saesneg). Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2017.
- ↑ Parsons, Mike (8 Awst 2008). "BEIJING 2008: Been there and done it!". Warrington Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2017.