Mick Antoniw

gwleidydd Cymreig

Gwleidydd Llafur Cymru a Cydweithredol yw Mick Antoniw (ganwyd 1 Medi 1954) sydd wedi bod yn Aelod o'r Senedd dros Bontypridd ers 2011.

Mick Antoniw AS
Мік Антонів
Aelod o'r Senedd
dros Pontypridd
Deiliad
Cychwyn y swydd
6 Mai 2011
Rhagflaenwyd ganJane Davidson
Mwyafrif7,694 (33%)
Cwnsler Cyffredinol Cymru
Deiliad
Cychwyn y swydd
13 Mai 2021
Prif WeinidogMark Drakeford
Rhagflaenwyd ganJeremy Miles
Mewn swydd
27 Mehefin 2016 – 14 Tachwedd 2017
Prif WeinidogCarwyn Jones
Rhagflaenwyd ganTheodore Huckle
Dilynwyd ganJeremy Miles
Manylion personol
Ganwyd (1954-09-01) 1 Medi 1954 (69 oed)
Plaid wleidyddolLlafur Cydweithredol
Alma materPrifysgol Cymru
GwaithCyfreithwr
GwefanGwefan Swyddogol

Bywyd cynnar golygu

Daeth Antoniw i astudio'r gyfraith yn Ysgol y Gyfraith Caerdydd, Prifysgol Cymru yn 1973.[1] Roedd yn Llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru o 1977 i 1979.[1]

Gyrfa broffesiynol golygu

Roedd yn gyfreithiwr, yn arbenigo mewn anafiadau personol, cyn cael ei ethol i'r Senedd. Roedd Antoniw yn bartner gyda Thompsons Solicitors, y cyfreithwyr undeb llafur arbenigol, a dechreuodd ei hyfforddiant gyda nhw yn 1980.[2] Mae Antoniw yn ymddiriedolwr o Gyngor Ffoaduriaid Cymru.[1][2]

Bywyd personol golygu

Fe wnaeth Antoniw faethu dwsinau o blant pobl eraill yn y 15 mlynedd cyn ei ethol, gan ddweud, "rwy'n gwybod o fy mhrofiad fy hun o faethu pa mor werthfawr yw hi - ac er ei fod yn gallu bod yn heriol iawn, un peth mae'n dysgu yw pa mor gyflym y gall plant ffynnu pan maent mewn amgylchedd cariadus a gofalgar."[3]

Gyrfa wleidyddol golygu

Yn dilyn ei ethol yn 2011 cynyddodd Antoniw y pleidlais y Blaid Lafur gyda swing o 18.8%. Gyda 11,864 o bleidleisiau, roedd ei gyfran o'r bleidlais dros 50%, gan roi iddo mwyafrif o 7,694 dros ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Mike Powell, a ddaeth yn ail.[4]

Fe'i benodwyd yn Gwnsler Cyffredinol Cymru yn Mehefin 2016,[5] gan orffen yn addrefniad y Cabinet yn Nhachwedd 2017 pan fe'i olynwyd gan Jeremy Miles. Fe'i ail-benodwyd yn Gwnsler Cyffredinol yn dilyn Etholiad 2021.


Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 "Mick Antoniw - about me". Mick Antoniw. 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-08-21. Cyrchwyd 12 May 2011.
  2. 2.0 2.1 "Mick Antoniw - Pontypridd". Welsh Labour website. Welsh Labour. 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-03. Cyrchwyd 12 May 2011.
  3. "'Urgent' for call for foster parents". South Wales Echo. |access-date= requires |url= (help)
  4. www.walesonline-Labour AM Mick Antoniw accused of blocking employee from attending council meetings
  5.  Penodi Mick Antoniw yn Gwnsler Cyffredinol. Llywodraeth Cymru (27 Mehefin 2016). Adalwyd ar 27 Mehefin 2016.