Cwnsler Cyffredinol Cymru

Y brif ffynhonnell cyngor cyfreithiol i Lywodraeth Cymru ac aelod o Gabinet Llywodraeth Cymru[1] yw Cwnsler Cyffredinol Cymru. Ei swyddogaeth yw i gynghori Llywodraeth Cymru ar faterion deddfwriaethol yng Nghymru a chymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres:

Gwleidyddiaeth
Cymru




gweld  sgwrs  golygu

Disgrifir swydd y Cwnsler Cyffredonol (yn swyddogol Cwnsler Cyffredinol i Lywodraeth Cymru) yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006.[2] Penodir y Cwnsler Cyffredinol gan y teyrn Prydeinig (Elisabeth II ar hyn o bryd) ar enwebiad Prif Weinidog Cymru, ac mae'n rhaid i'r Cynulliad gytuno ar yr argymhelliad. Gall y Cwnsler Cyffredinol fod yn Aelod o'r Senedd, ond nid yw hyn yn amod angenrheidiol.[3]

Y Cwnsler Cyffredinol cyntaf oedd Carwyn Jones, AC dros Pen-y-bont ar Ogwr, oedd hefyd yn cyflawni'r swydd o Arweinydd y Tŷ.[4] Pan ddaeth Jones yn Brif Weinidog yn 2009 fe benodwyd John Griffiths AS i'w olynu.[5] Penodwyd y Cwnsler Cyffredinol nesaf, Theodore Huckle, yn swyddogol ar 10 Mehefin 2011, ac ef oedd y person cyntaf i ddal y swydd nad oedd yn Aelod o'r Cynulliad.[6]

Rhestr o ddeiliaid y swydd golygu

Enw Llun Dechrau'r swydd Gadael y swydd Plaid wleidyddol Llywodraeth
Carwyn Jones AC   19 Gorffennaf 2007 9 Rhagfyr 2009 Llafur Clymblaid Llafur/Plaid Cymru
John Griffiths AC   Rhagfyr 2009 27 Mai 2011 Llafur Clymblaid Llafur/Plaid Cymru
Theodore Huckle CF[7]   27 Mai 2011 19 Mai 2016 Dim Llafur
Mick Antoniw AC   27 Mehefin 2016 14 Tachwedd 2017 Y Blaid Lafur Llafur / Democrat Rhyddfrydol
Jeremy Miles AC   14 Tachwedd 2017 13 May 2021[8] Y Blaid Lafur Llafur / Democrat Rhyddfrydol / Annibynnol
Mick Antoniw AS   13 Mai 2021 deiliad Llafur Llafur (Llywodraeth Leiafrifol)

Cyfeiriadau golygu

  1.  Aelodau'r Cabinet. Llywodraeth Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd, 2008.
  2. (Saesneg) Testun Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (adran 49). OPSI. Adalwyd ar 8 Tachwedd, 2008.
  3.  Canllaw i 'r Ddeddf - Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Llywodraeth Cynulliad Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd, 2008.
  4.  Carwyn Jones AC. Llywodraeth Cynulliad Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd, 2008.
  5. "Carwyn Jones yn cyhoeddi aelodau ei gabinet newydd", BBC, 10 Rhagfyr 2009.
  6.  Theodore Huckle CF. Llywodraeth Cymru. Adalwyd ar 25 Mawrth 2011.
  7. Huckle appointed counsel general (en) , BBC Wales, 27 Mai 2011. Cyrchwyd ar 27 Mehefin 2016.
  8. http://www.senedd.assembly.wales/ieListDocuments.aspx?CId=401&MId=4656&Ver=4