Mick Bates
Gwleidydd o'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig oedd Mick Bates (24 Medi 1947 – 29 Awst 2022)[1]. Roedd e'n Aelod Cynulliad Cymru (AC) dros Sir Drefaldwyn rhwng 1999 a 2011.
Mick Bates | |
---|---|
Ganwyd | 24 Medi 1947 Loughborough |
Bu farw | 29 Awst 2022 |
Dinasyddiaeth | Cymru Lloegr |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1af, Aelod o Ail Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Aelod o 3ydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
Plaid Wleidyddol | y Democratiaid Rhyddfrydol |
Cafodd Bates ei eni yn Loughborough, Lloegr. Bu'n athro ac yn ffarnwr cyn dod yn wleidydd. Roedd yn byw ar ffarm yn ardal Llanfair Caereinion. Bu hefyd yn gynghorydd sir ar Gyngor Sir Powys.[2]
Yn 2002 cafodd ei feirniadu gan y Ceidwadwyr am wisgo gwisg Siôn Corn yn y Senedd i godi arian at elusen.[3]
Yn 2010 fe'i cafwyd yn euog o ymosod ar staff y GIG.[4] Ymddiswyddodd o'r blaid ac ymddeolodd y flwyddyn ganlynol.
Teyrngedau
golyguDywedodd arweinydd y blaid yng Nghymru, Jane Dodds: "Roedd Mick yn un o'r bobl mwyaf croesawgar a charedig roeddwn i'n ei adnabod. "Pan gyrhaeddais Y Trallwng am y tro cyntaf, bron i ddeng mlynedd yn ôl, roedd mor hael ei amser gyda mi. Roedd ei wybodaeth am y materion sy'n effeithio ar ei annwyl Sir Drefaldwyn yn ddiddiwedd. Ni fydd Mick Bates arall, byth.[5]
Dywedodd un o gyn-Aelodau Cynulliad y blaid, William Powell, bod Bates yn "hael, caredig ac angerddol, yn ddyn oedd yn glynu wrth ei egwyddorion ac yn gweithio'n wirioneddol galed" i gynrychioli ei etholaeth.
Mynegodd Llywydd Senedd Cymru, Elin Jones, bod "Mick yn un o gymeriadau mawr dyddiau cynnar y Cynulliad. Mi oedd yn bencampwr clodwiw i holl faterion cynaliadwy a chefn gwlad. Ac yn ladmerydd angerddol dros ei annwyl Faldwyn."[5]
Personol
golyguRoedd yn briod â Buddug, a ganddynt ddau blentyn mewn oed, Ruth a Daniel, ei bump o wyrion.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Former Welsh Assembly Member Mick Bates dies after battle with cancer". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 30 Awst 2022.
- ↑ {{cite web |url=https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/62636886 |title=Mick Bates: Teyrngedau i'r cyn-Aelod Cynulliad Rhyddfrydol |publisher=BBC Cymru Fyw |date=30 Awst 2022}
- ↑ "Mick Bates: Former Welsh Liberal Democrat AM dies aged 74". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 30 Awst 2022.
- ↑ Helen Duffett (11 Rhagfyr 2010). "Mick Bates AM convicted of public order offences". Liberal Democrat Voice (yn Saesneg). Cyrchwyd 30 Awst 2022.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 "Mick Bates: Teyrngedau i'r cyn-Aelod Cynulliad Rhyddfrydol". BBC Cymru Fyw. 30 Awst 2022.