Llywydd Senedd Cymru
Llywydd Senedd Cymru neu y Llywydd (Saesneg: Presiding Officer) yw'r aelod a etholir gan Aelodau eraill yn Senedd Cymru i gadeirio eu sesiynau llawn (plenari), i gadw drefn yn y siambr, ac i amddiffyn hawliau'r Aelodau. Er bod gan y swydd deitl Saesneg hefyd (Presiding Officer), defnyddir yr enw Llywydd ar lawr y Cynulliad yn y ddwy iaith.
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres: |
Cymru o fewn y DU
Cymru o fewn yr UE
Gweithgarwch gwleidyddol
|
|
Yn ogystal mae'n arwain y corff yn y Senedd a adweinir fel Comisiwn Senedd Cymru ac felly'n gweithredu fel cynrychiolydd i'r sefydliad ar achlysuron swyddogol. Etholir un Dirprwy Lywydd i'w gynorthwyo. Lleolir swyddfa'r Llywydd yn Nhŷ Hywel ar Fae Caerdydd.
Y Llywydd cyntaf oedd Dafydd Elis-Thomas (a apwyntiwyd am y tro cyntaf yn 1999, ac eto am yr ail a'r trydydd dro yn 2003 a 2007), a fe'i ddilynwyd gan Rosemary Butler (a apwyntiwyd yn 2011) ac Elin Jones (a apwyntiwyd yn 2016).[1][2]
Dyletswyddau'r Llywydd
golyguPrif swyddogaeth y Llywydd yw cadeirio sesiynau llawn y Senedd, cadw trefn ac amddiffyn hawliau Aelodau. Mae'n gyfrifol am sicrhau fod busnes yn cael ei drafod ar sail cydraddoldeb ac yn ddiduedd.
Mae'r Llywydd yn gyfrifol hefyd am Orchmynion Sefydlog a'u dadansoddiad. Gweithreda hefyd fel Cadeirydd Comisiwn y Cynulliad, gyda dyletswydd arbennig i hyrwyddo gweithredu democrataidd, arweinyddiaeth, datblygu grymusterau deddfwriaethol y Cynulliad at y dyfodol, a chysylltiadau allanol y corff.
Mae'n gyfrifol yn wleidyddol, gyda'r Is Lywydd, am bob agwedd ar y Gorchmynion Sefydlog sy'n berthnasol i Swyddfa'r Llywydd.
Mae'r Llywydd yn cadeirio cyfarfodydd Panel Cadeiryddion y Pwyllgorau Dethol, lle mae trefniadau pwyllgor a materion sy'n effeithio ar fusnes pwyllgor yn cael eu trafod. Yn ogystal i hyn oll, mae'r Llywydd yn gweithredu fel llysgenad Senedd Cymru, yn mynychu cynadleddau llywyddion ac achlysuron eraill er mwyn hyrwyddo'r Senedd a chodi ei broffeil.
Y Llywydd
golyguRhestr o ddeiliaid y swydd
golyguEnw | Llun | Dechrau yn y swydd | Gorffen yn y swydd | Plaid wleidyddol | Nodiadau |
---|---|---|---|---|---|
Yr Arglwydd Elis-Thomas CC AC | 12 Mai, 1999 | 11 Mai, 2011 | Plaid Cymru | Apwyntiwyd yn 1999, apwyntiwyd eto yn 2003 a 2007. | |
Rosemary Butler AC | 11 Mai 2011 | 6 Ebrill 2016 | Llafur | ||
Elin Jones AS | 11 Mai 2016 | Plaid Cymru |
Dirprwy Lywydd
golyguRhestr o ddeiliaid y swydd
golyguEnw | Llun | Dechrau yn y swydd | Gorffen yn y swydd | Plaid wleidyddol | Nodiadau |
---|---|---|---|---|---|
Jane Davidson AC | 12 Mai 1999 | 17 Hydref 2000 | Llafur | Cynulliad cyntaf. Ymddiswyddodd pan ddaeth yn Weinidog o'r Llywodraeth. | |
John Marek AC | Hydref 2000 | Mai 2003 | Llafur | Cynulliad cyntaf | |
7 Mai 2003 | Mai 2007 | Forward Wales | Ail Gynulliad | ||
Rosemary Butler AC | 9 Mai 2007 | 11 Mai 2011 | Llafur | Trydydd Cynulliad | |
David Melding AC | 11 Mai 2011 | 5 Ebrill 2016 | Ceidwadwyr | Pedwerydd Cynulliad | |
Ann Jones AS | 11 Mai 2016 | 29 Ebrill 2021 | Llafur | Pumed Cynulliad | |
David Rees AS | 12 Mai 2021 | Llafur | Chweched Senedd |