Middle East Broadcasting Center
Cwmni teledu i'r byd Arabaidd a'r Dwyrain Canol yw'r Middle East Broadcasting Center neu MBC, sy'n perthyn i Sawdi Arabia. Ceir sawl sianel teledu sy'n perthyn i grŵp MBC, yn cynnwys sianeli newyddion 24 awr y dydd a sianeli adloniant. Sefydlwyd pencadlys yr MBC yn Llundain ond fe'i symudwyd i Dubai yn 2002.
Math | busnes |
---|---|
Sefydlwyd | 18 Medi 1991 |
Pencadlys | Dubai Media City |
Gwefan | https://www.mbc.net/ |
Mae'n darlledu yn Arabeg yn bennaf, gan ddefnyddio isdeitlau neu dybio ar gyfer ffilmiau a rhaglenni adloniant mewn ieithoedd eraill. Cyflwynwyd gwasanaeth Perseg yn ddiweddar. Mae'n perchen gorsaf radio Arabeg hefyd.
Sianeli
golygu- MBC 1
- MBC 2
- MBC 3
- MBC 4
- MBC Action
- MBC Max
- Al-Arabiya (newyddion 24 awr)
- MBC FM (radio)
- MBC Persia (Perseg)
Dolenni allanol
golygu- MBC 1
- MBC 2
- MBC 3
- MBC 4 Archifwyd 2011-10-16 yn y Peiriant Wayback
- MBC Action
- MBC FM
- Al Arabiya