Miguel d'Escoto Brockmann
Gwleidydd ac offeiriad o Nicaragwa ac Arlywydd 63edd Sesiwn Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yw'r Tad Miguel d'Escoto Brockmann (5 Chwefror 1933 – 8 Mehefin 2017).
Miguel d'Escoto Brockmann | |
---|---|
Ganwyd | 5 Chwefror 1933 Los Angeles |
Bu farw | 8 Mehefin 2017 Managua |
Dinasyddiaeth | Nicaragwa, Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | diplomydd, gwleidydd, offeiriad |
Swydd | llysgennad |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Mudiad Adfer Sandinista |
Gwobr/au | Gwobr Thomas Merton, Gwobr Heddwch Lennin, Uwch Groes Urdd Haul Periw |
Gwefan | http://www.un.org/ga/president/63 |
Ganed yn Los Angeles, Califfornia. Treuliodd Miguel d’Escoto ei blentyndod yn Nicaragwa ond yn 1947 dychwelodd i'r Unol Daleithiau i astudio. Yn 1962 cafodd ei ordeinio yn offeiriad ar ôl cyfnod yn athrofa Gatholig Maryknoll, Efrog Newydd.
Cefnogai'r FSLN (y Sandinistas) yn ei wrthryfel yn erbyn llywodraeth adain dde eithafol yr unben Anastasio Somoza ac yn fuan ar ôl y chwyldro cafodd ei apwyntio'n Weinidog Tramor Nicaragwa.
Yn ôl ei fywgraffiad ar wefan y Cynulliad Cyffredinol, mae wedi cael ei ysbrydoli gan fywyd a gwaith Leo Tolstoy, Gandhi, y Dr. Martin Luther King, a Dorothy Day. Mae'n credu mewn parch at gyfraith ryngwladol a byw yn gytûn, dulliau didrais a chyfiawnder cymdeithasol.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Bywgraffiad byr ar wefan Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.