Ymgyrchydd dros gyfiawnder hinsawdd yw Mikaela Loach (ganwyd 1998) sy'n byw yng Nghaeredin, yr Alban ac sydd wedi'i henwebu ar gyfer Gwobr Dinasyddion Byd-eang: Gwobr Arwr y DU.[1]

Mikaela Loach
Ganwyd1998 Edit this on Wikidata
Kingston Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Alban Yr Alban
Galwedigaethamgylcheddwr Edit this on Wikidata

Mae Loach yn fyfyriwr meddygol ym Mhrifysgol Caeredin[2] sy'n defnyddio'i llwyfan Instagram o dros 100,000 i weithio tuag at wneud y mudiad hinsawdd yn fwy cynhwysol, gan ganolbwyntio ar systemau gormesol fel goruchafiaeth y gwynion ac anghyfiawnderau mudol.[3]

Gyda Jo Becker, mae'n gyd-gynhyrchydd, yn awdur ac yn gyflwynydd podlediad YIKES sy'n archwilio newid yn yr hinsawdd, hawliau dynol a chyfiawnder cymdeithasol.[4][5]

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Ganed Loach yn Jamaica a chafodd ei magu yn Surrey, y Deyrnas Unedig.[6] Symudodd Loach i Gaeredin i astudio fel myfyriwr meddygol ym Mhrifysgol Caeredin.[7]

Ymgyrchu golygu

Yn ei harddegau, dechreuodd Loach ddod yn ymwybodol o'r groesffordd rhwng cyfiawnder amgylcheddol a chyfiawnder hiliol.[6] Yn 2019, daeth Loach yn aelod o’r mudiad amgylcheddol, Gwrthryfel Difodiant (XR) ac ym mis Hydref 2019 teithiodd o Gaeredin i Lundain i gymryd rhan yn y protestiadau XR[8] i fynnu bod gwleidyddion yn gwrando ac yn gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd.[7] Cadwodd ddyddiadur o'i phrofiadau.[9] Ym mhrotest 2019 XR, fe wnaeth Loach gloi ei hun i lwyfan Gwrthryfel Difodiant, yr Alban er mwyn ceisio rhwystro’r heddlu rhag clirio’r brotest. Cafodd ei chloi i'r llwyfan am oddeutu wyth awr cyn iddi hi, a phrotestwyr eraill ryddhau eu hunain o'u gwirfodd. Mae Loach yn ymgyrchu gyda Climate Camp Scotland,

Wrth siarad â'r BBC, dywedodd Loach am ei chymhelliant:

“Rwyf wedi bod yn newid pethau yn fy ffordd o fyw ers amser er mwyn bod yn fwy ecogyfeillgar ond sylweddolais ychydig fisoedd yn ôl nad oes ots a ydw i'n mynd yn fegan neu'n sero-gwastraff, os nad yw'r llywodraeth yn gwneud unrhyw beth. Mae angen newidiadau strwythurol mawr."[10]

Dywed Loach iddi ddechrau mynd i orymdeithio "pan oedd argyfwng y ffoaduriaid ar y newyddion ychydig flynyddoedd yn ôl. Fe wnes i wir fynd i mewn i hawliau ymfudwyr a ffoaduriaid a gwirfoddoli yn y gwersyll yn Calais...Ond yna un diwrnod sylweddolais fod y pethau hyn yn rhyng-gysylltiedig mewn gwirionedd: mae'r argyfwng hinsawdd yn gysylltiedig ag argyfwng ffoaduriaid, ac mae'r ddau ohonyn nhw hefyd 'n gysylltiedig ag anghyfiawnder hiliol a chymynroddion gwladychiaeth (the legacies of colonialism).”[6]

Trwy ei chyfryngau cymdeithasol, ac fel ysgrifennwr ar gyfer Eco-Age,[11] mae Loach yn eiriol dros gyfiawnder amgylcheddol a chyfiawnder hiliol, ffasiwn dillad cynaliadwy, a hawliau ffoaduriaid.[12] Mae hi hefyd wedi bod yn westai ar sawl podlediad, gan gynnwys podlediad Age of Plastic Andrea Fox, a Phodlediad Good Ancestor Layla Saad.[13] Roedd Loach yn siaradwr yng Nghynhadledd Ieuenctid yn Erbyn Carbon Zurich.[14][15] Yn 2020, creodd Loach bodlediad YIKES gyda Jo Becker.[16][17]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Activist Mikaela Loach on Breaking up With Fast Fashion and Why Climate Justice Is Racial Justice". Global Citizen (yn Saesneg). Cyrchwyd 6 Mawrth 2021.
  2. "Sustainability influencers to follow on Instagram: From veganism to plastic-free living". The Independent (yn Saesneg). 11 Chwefror 2021. Cyrchwyd 6 Mawrth 2021.
  3. "Ep047: #GoodAncestor Mikaela Loach on Climate Justice & Antiracism". LAYLA F. SAAD (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-13.
  4. Townsend, Solitaire. "100 UK Leading Environmentalists (Who Happen To Be Women)". Forbes (yn Saesneg). Cyrchwyd 6 Mawrth 2021.
  5. "Activist Mikaela Loach on Breaking up With Fast Fashion and Why Climate Justice Is Racial Justice". Global Citizen (yn Saesneg). Cyrchwyd 22 Mawrth 2021.
  6. 6.0 6.1 6.2 "Activist Mikaela Loach on Breaking up With Fast Fashion and Why Climate Justice Is Racial Justice". Global Citizen (yn Saesneg). Cyrchwyd 6 Mawrth 2021."Activist Mikaela Loach on Breaking up With Fast Fashion and Why Climate Justice Is Racial Justice". Global Citizen. Retrieved 6 March 2021.
  7. 7.0 7.1 "Sustainability influencers to follow on Instagram: From veganism to plastic-free living". The Independent (yn Saesneg). 11 Chwefror 2021. Cyrchwyd 6 Mawrth 2021."Sustainability influencers to follow on Instagram: From veganism to plastic-free living". The Independent. 11 Chwefror 2021. Retrieved 6 March 2021.
  8. "Extinction Rebellion protests: 'This is a last resort'". BBC News (yn Saesneg). 8 Hydref 2019. Cyrchwyd 6 Mawrth 2021.
  9. "Life at the Extinction Rebellion protests: a diary of the past week". HeraldScotland (yn Saesneg). Cyrchwyd 6 Mawrth 2021.
  10. "Extinction Rebellion protests: 'This is a last resort'". BBC News (yn Saesneg). 8 Hydref 2019. Cyrchwyd 6 Mawrth 2021."Extinction Rebellion protests: 'This is a last resort'". BBC News. 8 Hydref 2019. Retrieved 6 March 2021.
  11. "Mikaela Loach, Author at Eco-Age". Eco-Age (yn Saesneg). Cyrchwyd 22 Mawrth 2021.
  12. Jay, Georgia Murray,Anna. "15 Women Decolonizing Sustainable Fashion". www.refinery29.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 22 Mawrth 2021.
  13. "Good Ancestor Podcast: Ep047: #GoodAncestor Mikaela Loach on Climate Justice & Antiracism on Apple Podcasts". Apple Podcasts (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-19. Cyrchwyd 22 Mawrth 2021.
  14. "Youth Against Carbon Speakers". www.zurich.co.uk. Cyrchwyd 22 Mawrth 2021.
  15. "'We're fighting for our futures'". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 22 Mawrth 2021.
  16. "Activist Mikaela Loach on Breaking up With Fast Fashion and Why Climate Justice Is Racial Justice". Global Citizen (yn Saesneg). Cyrchwyd 22 Mawrth 2021."Activist Mikaela Loach on Breaking up With Fast Fashion and Why Climate Justice Is Racial Justice". Global Citizen. Retrieved 22 March 2021.
  17. "The YIKES Podcast on Apple Podcasts". Apple Podcasts (yn Saesneg). Cyrchwyd 22 Mawrth 2021.