Porthladd, dinas a chymuned yng ngogledd Ffrainc, sous-préfecture yn département Pas-de-Calais a'i dinas fwyaf, yw Calais. Datblygodd yn un o'r borthladdoedd pwysicaf y Môr Udd am ei bod yn gorwedd ar y llwybr byrraf dros y Sianel rhwng Ffrainc a Lloegr (34 km / 21 milltir). Mae gan y gymuned (sef y ddinas) boblogaeth o 77,333 (1999) neu 125,584 am yr ardal fetropolaidd (aire urbaine).

Calais
Delwedd:Coat of Arms of Calais.svg, Blason ville fr Calais (Pas-de-Calais).svg
Mathcymuned, dinas, tref ar y ffin, dinas Rhyfeinig Edit this on Wikidata
Poblogaeth67,380 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethNatacha Bouchart Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Duisburg, Bardejov, Brăila, Dover, Fanga, Riga, Wismar, Xiangtan Edit this on Wikidata
NawddsantBaino di Thérouanne Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPas-de-Calais, canton of Calais-Centre, canton of Calais-Est, canton of Calais-Nord-Ouest, canton of Calais-Sud-Est, arrondissement of Calais Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Arwynebedd33.5 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr0 metr, 18 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaMarck, Sangatte, Coquelles, Coulogne Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau50.9475°N 1.8556°E Edit this on Wikidata
Cod post62100 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Calais Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethNatacha Bouchart Edit this on Wikidata
Map
Pier Calais

Yn y Rhyfel Can Mlynedd cafodd ei gwarchae a'i chipio gan y Saeson dan Edward III yn 1346 ac arhosodd yn nwylo'r Saeson fel eu troedle olaf yn Ffrainc hyd at 1558 pan gipiwyd y dref yn ôl gan y Ffrancod dan François de Guise. Gwasanaethodd yr hanesydd Cymreig Elis Gruffydd, awdur Cronicl Chwech Oes y Byd, sy'n cynnwys Hanes Taliesin, yng ngarsiwn Calais am gyfnodau rhwng 1529 a 1552. Cafodd Calais ei bomio'n drwm yn yr Ail Ryfel Byd wrth i luoedd Prydain geisio amddiffyn y milwyr a oedd yn ceisio ffoi i Loegr o Dunkerque.

Mae llongau fferi yn hwylio'n rheolaidd rhwng Dofr a Chalais. 6 km y tu allan i'r dref ceir terminws Ffrengig Twnnel y Sianel.

Adeiladau a chofadeiladau golygu

  • Neuadd y Ddinas
  • Les Bourgeois de Calais
  • Tour de Guet

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.