Mike Stock
Cyfansoddwr a chynhyrchydd recordiau o Loegr ydy Michael Stock (ganed 3 Rhagfyr 1951, Margate, Swydd Gaint, Lloegr). Mae'n fwyaf adnabyddus fel aelod o'r triawd cyfansoddi a chynhyrchu recordiau Stock Aitken Waterman. Mae wedi ysgrifennu a/neu gynhyrchu nifer o ganeuon ar y cyd, gan gynnwys 16 cân a aeth i rif 1 siart senglau'r DU, a gyda nifer yn fwy yn cyrraedd y 40 uchaf.[1]
Mike Stock | |
---|---|
Ganwyd | Michael Stock 3 Rhagfyr 1951 Margate |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, llenor, cyfansoddwr caneuon, cynhyrchydd recordiau |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd |
Yn Ebrill 2003, lansiodd Stock label recordio newydd o'r enw Better the Devil Records.
Ysgrifennodd Stock lyfr o'r enw The Hit Factory: The Stock Aitken Waterman Story (ISBN 1-84330-729-4), a gyhoeddwyd ym Medi 2004.
Ail-ffurfiodd ei bartneriaeth gyda SAW yn 2007 ac mae'n parhau i fod yn weithgar fel cyfansoddwr a chynhyrchydd recordiau, gan lansio mentrau a phrosiectau newydd. Yn 2010, cyd-weithiodd â Pete Waterman wrth ysgrifennu cân y DU ar gyfer Cystadleuaeth Cân Eurovision 2010 o'r enw That Sounds Good To Me, a berfformiwyd gan Josh Dubovie.
Dolenni allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Taking Stock of modern pop BBC. 2004-09-13 Adalwyd ar 2007-05-27