Milan Kundera
Llenor Tsiecaidd a ymsefydlodd yn Ffrainc oedd Milan Kundera (1 Ebrill 1929 – 11 Gorffennaf 2023)[1] sydd yn nodedig am ei nofelau athronyddol a mewnsyllol, yn yr ieithoedd Tsieceg a Ffrangeg. Mae ei waith yn archwilio themâu megis hunaniaeth, cof, cariad, a'r cyflwr dynol, ac yn cyfuno elfennau o ffuglen, athroniaeth, a sylwebaeth wleidyddol.
Milan Kundera | |
---|---|
Milan Kundera ym 1980. | |
Ganwyd | 1 Ebrill 1929 Brno, Královo Pole, Brno |
Bu farw | 11 Gorffennaf 2023 7fed arrondissement Paris, Paris |
Man preswyl | Paris, Purkyňova street, Roazhon |
Dinasyddiaeth | Ffrainc, Tsiecia, Tsiecoslofacia, di-wlad |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, cyfieithydd, academydd, bardd, dramodydd, awdur ysgrifau, rhyddieithwr |
Adnabyddus am | The Joke, The Book of Laughter and Forgetting, The Unbearable Lightness of Being, Immortality, Laughable Loves |
Plaid Wleidyddol | Plaid Gomiwnyddol Czechoslovakia, Plaid Gomiwnyddol Czechoslovakia |
Tad | Ludvík Kundera |
Mam | Milada Kunderová |
Priod | Věra Kunderová, Olga Haasová |
Perthnasau | Ludvík Kundera |
Gwobr/au | Gwobr Herder, Prix mondial Cino Del Duca, Medal of Merit, 1st class, Chevalier de la Légion d'Honneur, Gwobr Médicis am lenyddiaeth dramor, Gwobr Nelly Sachs, Gwobr Jeriwsalem, Jaroslav Seifert Prize, Prix de la critique, Gwobr y Gymanwlad am Wasanaeth Rhagorol, Gwobr Franz Kafka, Urdd Teilyngdod, honorary doctor of the University of Michigan, Mondello Prize, The prize of the BNF, Gwobr y Wladwriaeth Tsiec am Lenyddiaeth, Q3404571, Gwobr Gladwriaeth Klement Gottwald |
llofnod | |
Ganed ef yn Brno, Tsiecoslofacia, yn ystod y cyfnod rhwng y rhyfeloedd, yn fab i'r pianydd a cherddolegydd Ludvik Kundera. Astudiodd gerddoriaeth a llenyddiaeth ym Mhrifysgol Karlova, Prag, cyn ennill ei damaid fel cerddor jazz,a barddoni. Dechreuodd ysgrifennu dramâu yn y 1950au, ac yn y diwedd trodd at y nofel. Derbyniodd glod beirniadol yn Tsiecoslofacia am ei nofelau cynnar megis Žert (1967) a Život je jinde (1973).
Fodd bynnag, mynegodd Kundera wrthwynebiad i'r llywodraeth gomiwnyddol, ac o'r herwydd fe wynebai her i'w yrfa lenyddol yn ei famwlad. Yn sgil goresgyniad Tsiecoslofacia gan luoedd Cytundeb Warsaw ym 1968, cafodd ei siomi gan y gormes gwleidyddol a'r cyfyngiadau ar ryddiad mynegiant yn y bloc dwyreiniol. Cafodd ei wthio i'r cyrion gan yr awdurdodau a'i ynysu gan sefydliadau diwylliannol y wlad, ac o'r diwedd penderfynodd mynd yn alltud.
Ymfudodd Kundera i Ffrainc ym 1975, a derbyniodd ddinasyddiaeth Ffrengig ym 1981. Dechreuodd ysgrifennu trwy gyfrwng y Ffrangeg, a daeth yn un o brif ffigurau byd llenyddol Ffrainc. Daeth i sylw yn ei wlad fabwysiedig gyda'i nofel Kniha smíchu a zapomnění (1979), sy'n ymwneud â themâu cof, gwleidyddiaeth, a rhyddid personol. Daeth i sylw rhyngwladol gyda'i gampwaith Nesnesitelná lehkost bytí (1984), nofel a osodir yng nghyfnod Gwanwyn Prag a'r adladd, ac sy'n ymwneud â pherthnasau dynol, y pwysau a deimlir wrth wneud dewisiadau, a'r chwilfa am ystyr bywyd.
Mae ei weithiau eraill yn cynnwys Nesmrtelnost (1988), La Lenteur (1995), L'Identité (1998), a L'Ignorance (2000). Rhoddwyd i Kundera nifer o wobrau ac anrhydeddau, gan gynnwys Gwobr Jeriwsalem am Ryddid yr Unigolyn mewn Cymdeithas, a Gwobr Wladwriaethol Awstria am Lenyddiaeth Ewropeaidd. Bu farw Milan Kundera ym Mharis yn 94 oed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Kate Webb, "Milan Kundera obituary", The Guardian (12 Gorffennaf 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 14 Gorffennaf 2023.