Milton Keynes

Tref yn Lloegr

Tref yn Swydd Buckingham, De-ddwyrain Lloegr, ydy Milton Keynes.[1] Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Central Milton Keynes yn awdurdod unedol Bwrdeistref Milton Keynes. Saif tua 45 milltir i'r gogledd-orllewin o Lundain.

Milton Keynes
Mathdinas, cymuned wedi'i chynllunio, tref newydd, dinas fawr, garden city Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Milton Keynes
Poblogaeth207,057 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 23 Ionawr 1967 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iSchwerte, Almere, Huai'an Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Buckingham
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd88 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr102 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Great Ouse Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaDeanshanger Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.03°N 0.77°W Edit this on Wikidata
Cod OSSP841386 Edit this on Wikidata
Cod postMK1 - 15 Edit this on Wikidata
Map

Cafodd ei dynodi yn dref yn swyddogol am y tro cyntaf ym 1963. Roedd yn dref newydd a chafodd ei chynllunio gyda'r potiensial i dyfu'n ddinas yn y pen draw, gan gyfuno trefi Bletchley, Wolverton a Stony Stratford a phymtheg o bentrefi a nifer o ffermydd rhyngddynt. Bletchley oedd lle dadansoddwyd peiriannau Enigma oedd wedi'u cipio oddi wrth y Natsiaid, er mwyn datrus eu negeseuon cyfrin. Cymerodd y dref ei henw o bentref Milton Keynes, a leolwyd ychydig o filltiroedd i'r dwyrain o ganol y dref newydd.

Rhan o fap o'r dref, yn dangos y patrwm rheolaidd o ffyrdd a chylchfannau ymhobman

Mae Caerdydd 177.7 km i ffwrdd o Milton Keynes ac mae Llundain yn 72.4 km. Y ddinas agosaf ydy St Albans sy'n 42.4 km i ffwrdd.

Mae'n enwog am ei nifer fawr o gylchfannau. Bottledump Roundabout ydy enw un o'r cylchfannau hyn.

Cyfeiriadau Golygu

  1. British Place Names; adalwyd 13 Chwefror 2021
  Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Buckingham. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato