Tref newydd (y Deyrnas Unedig)
Yn y Deyrnas Unedig, mae tref newydd yn dref a grëwyd ar ôl yr Ail Ryfel Byd o dan bwerau Deddf Trefi Newydd 1946 a deddfau diweddarach i adleoli poblogaethau a oedd wedi bod yn byw mewn tai is-safonol neu dai a gafodd eu bomio yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Fe'u datblygwyd mewn tair ton.[1][2][3]
- Sefydlwyd y don gyntaf yn y 1940au hwyr gan ganolbwyntio'n bennaf ar ddatblygu tai ar safleoedd llain las gyda chysylltiadau rheilffordd (ac ychydig o ddarpariaeth a wnaed ar gyfer ceir). Roedd wyth tref newydd mewn cylch o gwmpas Llundain.
Math | tref newydd, cymuned wedi'i chynllunio |
---|---|
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
- Roedd yr ail don yn y 1960au cynnar yn cynnwys cymysgedd ehangach o ddefnyddiau ac yn defnyddio pensaernïaeth fwy arloesol.
- Roedd trefi'r drydedd don yn fwy gyda mwy o bwyslais ar deithio mewn ceir.
Erbyn 2002, roedd tua 2 filiwn o bobl yn byw yn y trefi newydd, mewn tua 500,000 o gartrefi.
Y trefi newydd
golyguCrëwyd y trefi canlynol o dan amrywiol Ddeddfau Trefi Newydd:
Yr Alban
golyguTref | Sir seremonïol | Blwyddyn | Nodyn |
---|---|---|---|
Cumbernauld | Gogledd Swydd Lanark | 1955 | |
East Kilbride | De Swydd Lanark | 1947 | |
Glenrothes | Fife | 1948 | |
Irvine | Gogledd Swydd Ayr | 1966 | Ehangu tref hŷn |
Livingston | Gorllewin Lothian | 1962 |
Cymru
golyguTref | Sir seremonïol | Blwyddyn | Nodyn |
---|---|---|---|
Cwmbrân | Gwent | 1949 | |
Y Drenewydd | Powys | 1967 | Ehangu tref hŷn |
Gogledd Iwerddon
golyguTref | Sir seremonïol | Blwyddyn | Nodyn |
---|---|---|---|
Craigavon (Creag Abhann) | Swydd Armagh | 1965 | |
Antrim | Swydd Antrim | 1966 | Ehangu tref hŷn |
Ballymena | Swydd Antrim | 1967 | Ehangu tref a phentrefi hŷn |
Derry | Swydd Derry | 1969 | Ehangu dinas hŷn |
Lloegr
golyguTref | Sir seremonïol | Blwyddyn | Nodyn |
---|---|---|---|
Basildon | Essex | 1949 | |
Basingstoke | Hampshire | 1961 | Ehangiad gorlif Llundain, yn hytrach na Deddf Trefi Newydd |
Bracknell | Berkshire | 1949 | |
Canol Swydd Gaerhirfryn | Swydd Gaerhirfryn | 1970 | Datblygiad ardal drefol Preston, Leyland a Chorley |
Corby | Swydd Northampton | 1950 | |
Crawley | Gorllewin Sussex | 1947 | Ehangu tref hŷn |
Harlow | Essex | 1947 | |
Hatfield | Swydd Hertford | 1948 | |
Hemel Hempstead | Swydd Hertford | 1947 | |
Milton Keynes | Swydd Buckingham | 1967 | |
Newton Aycliffe | Swydd Durham | 1947 | |
Northampton | Swydd Northampton | 1968 | Ehangu tref hŷn |
Peterborough | Swydd Gaergrawnt | 1967 | Ehangu tref hŷn |
Peterlee | Swydd Durham | 1948 | |
Redditch | Swydd Gaerwrangon | 1964 | Ehangu tref hŷn |
Runcorn | Swydd Gaer | 1963 | |
Skelmersdale | Swydd Gaerhirfryn | 1961 | |
Stevenage | Swydd Hertford | 1946 | |
Swindon | Wiltshire | 1952 | Ehangu tref hŷn |
Telford | Swydd Amwythig | 1963 a 1968 | Ehangu trefi hŷn |
Warrington | Swydd Gaerhirfryn | 1968 | Ehangu tref hŷn |
Washington | Tyne a Wear | 1964 |
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Piko, Lauren Anne (Tachwedd 2017). "Mirroring England? Milton Keynes, decline and the English landscape" (PDF) (yn Saesneg). The University of Melbourne: 49. Cite journal requires
|journal=
(help) - ↑ Paice, L. "Overspill Policy and the Glasgow Slum Clearance Project in the Twentieth Century: From One Nightmare to Another?". warwick.ac.uk (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-06-08. Cyrchwyd 20 Mai 2020.
- ↑ Oliver Wainwright (17 Mawrth 2014). "The garden city movement: from Ebenezer to Ebbsfleet". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 30 Awst 2022.