Minnie Baldock
Ffeminist a swffragét o Loegr oedd Lucy Minnie Baldock (20 Tachwedd 1864 - 10 Rhagfyr 1954). Gydag Annie Kenney, cyd-sefydlodd y gangen gyntaf o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched.[1][2][3]
Minnie Baldock | |
---|---|
Ganwyd | 20 Tachwedd 1864 Bromley |
Bu farw | 10 Rhagfyr 1954 |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | swffragét |
llofnod | |
Dyddiau cynnar
golyguFe'i ganed yn Bromley-by-Bow ar 20 Tachwedd 1864. Gweithiodd mewn gwaith llafurus, trwm a phriododd ym 1888. Roedd yr East End, Llundain yn adnabyddus am ei dlodi ac ymunodd y Baldocks â'r Blaid Lafur Annibynnol ar ôl i'r sosialaidd Keir Hardie gael ei ethol yn aelod seneddol ym 1892.
Ymgyrchydd
golyguGweithiodd gyda Charlotte Despard a Dora Montefiore a chymerodd gyfrifoldeb dros y Gronfa Diweithdra leol a ddefnyddiwyd i liniaru caledi eithafol.[4] Ni chaniatawyd i fenywod fod yn aelodau seneddol, ond dewisodd yr ILP hi fel eu hymgeisydd i eistedd ar Fwrdd Gwarcheidwaid West Ham (West Ham Board of Guardians) yn 1905.[5][5]
Baldock ac Annie Kenney sefydlodd y gangen gyntaf o'r Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched, yn Canning Town, a hynny yn 1906. Trefnodd y ddwy fenyw nifer o gyfarfodydd yn Neuadd Gyhoeddus Canning Town. Mynychodd Baldock gyfarfod cyn-etholiadol o'r Rhyddfrydwyr ar 21 Rhagfyr 1905, yn y Royal Albert Hall wedi ei gwisgo fel 'morwyn' i Annie Kenney a wisgodd gôt ffwr. Eisteddai'r ddwy mewn bocs, yn agos i'r llwyfan, cyn i Kenney hongian baner dros ymyl y bocs, gyda'r geiriau 'Pleidleisiau i Fenywod!', a chan weiddi datganiadau ffeministaidd a chreu aflonyddwch.[3]
Arestiwyd Baldock ar 23 Hydref 1906, ynghyd â Nellie Martel ac Anne Cobden Sanderson, am ymddygiad afreolus yn ystod agoriad y Senedd Lloegr.
Anrhydeddau
golygu
Cyfeiriadau
golygu- ↑ England & Wales, National Probate Calendar (Index of Wills and Administrations), 1858-1966, 1973-1995
- ↑ Crawford, Elizabeth (2003). The Women's Suffrage Movement: A Reference Guide 1866-1928. Routledge. tt. 26–27. ISBN 1135434026.
- ↑ 3.0 3.1 Jackson, Sarah (12 Hydref 2015). "The suffragettes weren't just white, middle-class women throwing stones". The Guardian. Cyrchwyd 23 Mawrth 2018.
- ↑ Diane Atkinson, Diane (8 Chwefror 2018). Rise Up Women!: The Remarkable Lives of the Suffragettes. London: Bloomsbury Publishing. tt. 31–2, 45–, 79, 90, 94, 114, 142, 213, 259. ISBN 978-1-4088-4406-9.CS1 maint: date and year (link)
- ↑ 5.0 5.1 "Minnie Baldock". Spartacus Educational (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-03-23.