Tref hanesyddol yn Crai Krasnoyarsk, Rwsia, yw Minusinsk (Rwseg: Минуси́нск), a leolir ar gymer (insk) Afon Minusa yn Afon Yenisei yn ne Siberia. Poblogaeth: 71,170 (Cyfrifiad 2010).

Minusinsk
Mathtref/dinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth68,007 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1739 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+07:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iNorilsk Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirMinusinsk Urban District, Tomsky Uyezd, Q4295273, Minusinsk Uyezd, Minusinsky District, Crai Krasnoyarsk Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Arwynebedd62 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr250 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Yenisei Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.7°N 91.6833°E Edit this on Wikidata
Cod post662600 Edit this on Wikidata
Map
Baner Minusinsk
Steppe Minusinsk gan Vasily Surikov

Archaeoleg golygu

Gorwedd Minusinsk yng nghanol Pant Minusinsk, sy'n ardal o ddiddordeb archaeolegol mawr a gysylltir a diwylliannau cynhanesyddol Afanasevo, Tashtyk, a Tagar - i gyd yn cael eu henwi ar ôl pentrefi ger Minusinsk.

Hanes golygu

Sefydlwyd Minyusinskoye (Минюсинское) yn y cyfnod 1739-40 ar gymer Afon Minusa yn Afon Yenisei. Newidiodd yr enw i Minusinskoye (Минусинское) yn 1810.[1]

Erbyn 1822, roedd Minusinsk wedi datblygu yn ganolfan ffermio a masnach ranbarthol a chafodd statws tref. Yn ystod y 19g daeth yn ganolfan ddiwyllianol i ardal eang o'i chwmpas. Agorodd Amgueddfa Hanes Natur Martyanov yno yn 1877.[1] Mae'n dal yn agored ac yn weithgar heddiw. Denai'r dref a'r ardal artistiaid Rwsiaidd hefyd, er enghraifft y paentiwr Vasily Surikov.

Yn nes ymlaen, daeth y dref a'i hamgueddfa yn noddfa ymenyddol i weithredwyr gwleidyddol a chwyldroadwyr a alltudwyd o Rwsia Ewropeaidd yn y 1880au. Arferai Vladimir Lenin ymweld â Minusinsk yn rheolaidd pan oedd mewn alltudiaeth wleidyddol ym mhentref cyfagos Shushenskoye o 1897 hyd 1900.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Н. И. Дроздов, В. С. Боровец "Енисейский энциклопедический словарь". Krasnoyarsk, 1998 (ISBN 5883290051), pp. 391.

Dolen allanol golygu