Mission: Impossible (ffilm)
Ffilm o'r Unol Daleithiau lawn cyffro am ysbïo o 1996 yw Mission: Impossible a gyfarwyddwyd gan Brian De Palma, a chynhyrchwyd gan Tom Cruise. Seiliwyd y ffilm ar y gyfres deledu o'r un enw gyda'r plot yn dilyn Ethan Hunt (Tom Cruise) a'i genhadaeth i ddadorchuddio'r treiddiwr sydd wedi cynllwynio yn ei erbyn ac yn esgsus ei fod wedi llofruddio pob aelod o'i dîm IMF.
Poster y ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Brian De Palma |
Cynhyrchydd | Tom Cruise Paula Wagner |
Ysgrifennwr | Sgript gan: David Koepp Robert Towne Stori gan: David Koepp Steven Zailian Seiliedig ar: Mission: Impossible gan Bruce Geller |
Serennu | Tom Cruise Jon Voight Henry Czerny Emmanuelle Béart Jean Reno Ving Rhames Kristin Scott Thomas Vaness Redgrave |
Cerddoriaeth | Danny Elfman |
Sinematograffeg | Stephen H. Burum |
Golygydd | Paul Hirsch |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Cruise/Wagner Productions Paramount Pictures |
Dyddiad rhyddhau | 22 Mai, 1996 |
Amser rhedeg | 110 munud[1] |
Gwlad | Yr Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Llwyddodd y ffilm yn feirniadol ac yn fasnachol, yn dod yn drydedd ar y rhestr o ffilmiau i ennill y mwyaf o arian yn 1996. Sbardunodd llwyddiant y ffilm pum dilyniant: Mission: Impossible II (2000), Mission: Impossible III (2006), Mission: Impossible - Ghost Protocol (2011), Mission: Impossible – Rogue Nation (2015),[2] a Mission: Impossible - Fallout (2018).[3]
Cast
golygu- Tom Cruise fel Ethan Hunt
- Jon Voight fel Jim Phelps
- Emmanuelle Béart fel Claire Phelps
- Henry Czerny fel Eugene Kittridge
- Jean Reno fel Franz Krieger
- Ving Rhames fel Luther Stickell
- Kristin Scott Thomas fel Sarah Davies
- Vanessa Redgrave fel Max
- Emilio Estevez fel Jack Harmon
- Ingeborga Dapkūnaitė fel Hannah Williams
- Karel Dobrý fel Matthias
- Marcel Iureş fel Alexander Golitsyn[4]
- Olegar Fedoro fel Kiev Agent
- Dale Dye fel Frank Barnes
Derbyniad
golyguRhoddwyd y marciau canlynol mewn adolygiadau o'r ffilm:
- 6.1/10[5] (Rotten Tomatoes)
- 59/100
- 65% (Rotten Tomatoes)
. Mae'r incwm a dderbyniwyd am y ffilm hon dros 457,696,391 $ (UDA), 180,981,856 $ (UDA)[6][7].
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "MISSION IMPOSSIBLE (PG)". British Board of Film Classification. May 20, 1996. Cyrchwyd August 2, 2015.
- ↑ "TOLDJA: Christopher McQuarrie Confirmed To Helm 'Mission: Impossible 5′". Deadline.com. Penske Media Corporation. August 5, 2013. Cyrchwyd October 30, 2013.
- ↑ "Tom Cruise Says Mission: Impossible 6 Aims to Shoot Next Year". IGN.
- ↑ "MISSION IMPOSSIBLE - British Board of Film Classification". bbfc.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-02. Cyrchwyd 2016-01-03.
- ↑ "Mission: Impossible". Rotten Tomatoes. Cyrchwyd 7 Hydref 2021.
- ↑ https://www.boxofficemojo.com/movies/?id=missionimpossible.htm. dyddiad cyrchiad: 9 Mawrth 2019.
- ↑ https://www.boxofficemojo.com/title/tt0117060/. dyddiad cyrchiad: 4 Awst 2022.