Mission: Impossible - Rogue Nation
Mae Mission: Impossible - Rogue Nation yn ffilm ysbïo acsiwn Americanaidd 2015 a'r pumed yng nghyfres y ffilmiau Mission: Impossible. Fe'i chyd-ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd gan Christopher McQuarrie. Serenna Tom Cruise, Simon Pegg, Jeremy Renner, Rebecca Ferguson, Alec Baldwin, Sean Harris, Ving Rhames, Simon McBurney a Tom Hollander yn y ffilm, gyda Cruise, Renner, Pegg a Rhames yn ailgydio yn eu rolau o'r ffilmiau blaenorol. Cynhyrchwyd Rogue Nation gan Cruise, J. J. Abrams a David Ellison o Skydance Productions.
Poster y ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Christopher McQuarrie |
Cynhyrchydd | Tom Cruise J. J. Abrams Bryan Burk David Ellison Dana Goldberg Don Granger |
Ysgrifennwr | Sgript gan: Christopher McQuarrie Stori gan: Christopher McQuarrie Seiliedig ar: Mission: Impossible gan Bruce Geller |
Serennu | Tom Cruise Jeremy Renner Simon Pegg Rebecca Ferguson Ving Rhames Alec Baldwin Sean Harris |
Cerddoriaeth | Joe Kraemer |
Sinematograffeg | Robert Elswit |
Golygydd | Eddie Hamilton |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Skydance Productions[1] Odin[1] China Movie Channel[1] Alibaba Pictures[1] Bad Root Productions[1] |
Dyddiad rhyddhau | 23 Gorffennaf, 2015 (Opera'r Wladwriaeth Fienna) 31 Gorffennaf, 2015 (Yr Unol Daleithiau) |
Amser rhedeg | 131 munud[2] |
Gwlad | Yr Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg a Hindi |
Yn y ffilm, mae'r gweithredwr y Llu Cenadaethau Amhosibl Ethan Hunt yn ceisio dianc rhag yr Asiantaeth Gwybodaeth Ganolog yn dilyn chwalu'r llu wrth iddo weithio i brofi bodolaeth y Syndiciaeth, consortiwm terfysgol rhyngwladol dirgel.
Yn ogystal â'r pumed ffilm hon, cynhwysa'r gyfres y ffilmiau canlynol: Mission: Impossible (1996), Mission: Impossible II (2000), Mission: Impossible III (2006), Mission: Impossible - Ghost Protocol (2015) a Mission: Impossible - Fallout (2018).
Cast
golygu- Tom Cruise fel Ethan Hunt, gweithredwr y Llu Cenadaethau Amhosibl
- Simon Pegg fel Benji Dunn, gweithredwr maes technegol y Llu Cenedaethau Amhosibl
- Jeremy Renner fel William Brandt, Cyfarwyddwr Gweithredoedd Maes y Llu Cenedaethau Amhosibl
- Rebecca Ferguson fel Ilsa Faust, cudd-weithredwr MI6 yn y Syndiciaeth
- Alec Baldwin fel Alan Hunley, Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Gwybodaeth Ganolog
- Sean Harris fel Solomon Lane, cyn-weithredwr MI6 a aeth yn ddrwg a daeth yn arweinydd goruchaf ar y Syndiciaeth
- Ving Rhames fel Luther Stickell, gweithredwr y Llu Cenedaethau Amhosibl ac arbenigwr cyfrifiaduron
- Simon McBurney fel Atlee, Pennaeth y Gwasanaeth Cudd-wybodaeth
- Tom Hollander fel Prif Weinidog y Deyrnas Unedig
- Zhang Jingchu fel Lauren, dadansoddwraig yr Asiantaeth Gwybodaeth Ganolog
- Jens Hultén fel Janik Vinter, cyn-weithredwr y KGB a dirprwy i Lane
- Hermione Corfield fel gweithredwr y Llu Cenedaethau Amhosibl sy'n chwarae rhan fel siopwriag siop recordiau yn Llundain
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Grierson, Tim (July 23, 2015). "'Mission Impossible - Rogue Nation': Review". Screen Daily. Media Business Insight. Cyrchwyd October 26, 2016.
- ↑ "Mission: Impossible – Rogue Nation". British Board of Film Classification. Archifwyd o'r gwreiddiol ar July 23, 2015. Cyrchwyd July 23, 2015. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)