Mission Impossible III

Mae Mission: Impossible III (2006) yn ffilm gyffro sy'n serennu Tom Cruise fel yr asiant IMF (Impossible Mission Force), Ethan Hunt. Dyma'r drydedd ffilm ysbiol sy'n seiliedig ar y gyfres deledu.

Mission: Impossible III

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr J. J. Abrams
Cynhyrchydd Tom Cruise
Paula Wagner
Ysgrifennwr Alex Kurtzman
Roberto Orci
J. J. Abrams
Serennu Tom Cruise
Jonathan Rhys Meyers
Philip Seymour Hoffman
Ving Rhames
Michelle Monaghan
Billy Crudup
Laurence Fishburne
Maggie Q
Simon Pegg
Keri Russell
Eddie Marsan
Cerddoriaeth Michael Giacchino
Sinematograffeg Dan Mindel
Golygydd Maryann Brandon
Mary Jo Markey
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Paramount Pictures
Dyddiad rhyddhau UDA
5 Mai 2006
DU & Awstralia
4 Mai, 2006
Amser rhedeg 126 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg

Cyfarwyddwyd y ffilm gan J. J. Abrams. Fe'i rhyddhawyd ar y 26 Ebrill, 2006, yng Ngŵyl Ffilmiau Tribeca cyn cael ei rhyddhau'n gyffredinol ar y 5ed o Fai, 2006. Dechreuwyd ar y broses ffilmio yn Rhufain, yr Eidal yng Ngorffennaf 2005. Ychydig iawn o wybodaeth a ddatgelwyd am blot y ffilm cyn iddi gael ei rhyddhau. Cafodd ei ffilmio hefyd yn Tsieina (Shanghai, Xitang, a Zhouzhuang), yr Almaen (Berlin), yr Eidal (Rhufain a Caserta), yr Unol Daleithiau (Califfornia a Virginia), a Dinas y Fatican.

Yn ogystal â'r drydedd ffilm hon, cynhwysa'r gyfres y ffilmiau canlynol: Mission: Impossible (1996), Mission: Impossible II (2000), Mission: Impossible - Ghost Protocol (2011), Mission: Impossible – Rogue Nation (2015),[1] a Mission: Impossible - Fallout (2018).

Cyfeiriadau

golygu
  1. "TOLDJA: Christopher McQuarrie Confirmed To Helm 'Mission: Impossible 5′". Deadline.com. Penske Media Corporation. Awst 5, 2013. Cyrchwyd Hydref 30, 2013.
  Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm llawn cyffro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.