Meddyginiaeth
Sylwedd cemegol a ddefnyddir mewn diagnosis, iachâd, triniaeth, neu i atal clefyd yw meddyginiaeth, moddion neu ffisig (hefyd cyffur meddyginiaethol neu gyffur fferyllol).
Math | cyffur, pharmaceutical product |
---|---|
Rhan o | pharmacy |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Defnyddir y System Ddosbarthiad Cemegol Therapiwtig Anatomegol (ATC), a reolir gan Ganolfan Gydweithiol Cyfundrefn Iechyd y Byd (WHO) dros Fethodoleg Ystadegau Cyffuriau, i ddosbarthu cyffuriau meddyginiaethol ers 1976.
Meddyginiaethau traddodiadol ac amgen
golygu- Prif: Llysiau rhinweddol
- Ffisig ysgall
Hawdd iawn yw anghofio cymaint oedd ein cyndeidiau yn dibynnu ar feddyginiaethau llysieuol tan yn gymharol ddiweddar:
- 13th. I continue taking the Elixir thrice this day, in the morn - fasting, at Noon, and 5 in the Evening, from 30 to 40 drops at a time, & drink a pint and a half of Carduus [hwn yw’r gair Lladin am ysgall] Whey hot every night going to bed.[1]
- Opiwm
Syndod efallai yw gweld cyfeiriadau mynych at laudenum yng nghefn gwlad Cymru (opiad neu gyffur cysgu yn seiliedig ar y pabi ac yn cael ei ddefnyddio llawer yn Oes Fictoria yw hwn) ac ‘obadildo’ (beth bynnag oedd hwnnw!) yng nghefn dyddiadur William Jones, Moelfre, Aberdaron ar gyfer y flwyddyn 1897.[2]
Arferai’r beirdd gymryd laudenum i hybu’r awen - beirdd fel Samuel Taylor Coleridge. Cafodd Coleridge ei styrbio ynghanol cyfansoddi ei gerdd enwog Kubhla Khan dan ddylanwad y cyffur hwn ac erbyn iddo ddychwelyd at y gwaith roedd yr awen wedi diflannu. Bu hen regi mae’n
siŵr!
Sylwodd Brenda Jones, trawsgrifydd dyddiaduron William Jones, bod ei ysgrifen wedi mynd yn flêr o Chwefror ymlaen [1]. Effaith y ‘cyffuriau’ hyn o bosib?
- Moddion at anhwylderau eraill
Mae William Jones yn nodi moddion i wella anhwylderau:
- Cymhorth i wella Ffliw Rwsia
- Ammoniated tincture of quinine ½ oz
- Essence of Peppermint ¼ oz
- Bromide of ammonium ½ oz
- Spirit of sweet nitre ½ oz
- Simple syrup made by boiling 1 lb lump sugar in half peint of water 1oz
- Ysgydwer y cymysgedd yn achlysurol hyd nes byddo y cyfan wedi toddy Cymerer llond llwy de mewn dwy lond llwy fwrdd o ddwfr oer bob awr hyd nes cael rhyddhad Prysurir y gwellhad drwy ysbrinclo ychydig o menthol crystals ar lwy ar shovel boeth a thynu yr ager i fewn gyda’r anadl (1891).
Yn ôl hysbyseb yn ei ddyddiadur, dyma oedd ar gael at anhwylderau yn 1880:[3]
- Cynghor at y Gravel
- ½ oz Balsam Cabtinty
- ½ oz Tincture Rubarb
- 1 oz Spirit Nitre
- Dwy lond llwy de dair gwaith yn y dydd mewn llond glass gwin o lefrith.
Mathau
golyguGallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Dyddiadur William Bulkeley, Brynddu, Llanfechell, Môn (gyda chaniatad Adran Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor)
- ↑ Dyddiadur William Jones, yn Nhywyddiadur Llên Natur
- ↑ Bwletin Llên Natur rhifyn 58