Sofía Vergara
Mae Sofía Margarita Vergara Vergara (ganed 10 Gorffennaf 1972) yn actores, comediwraig, cyfarwyddwraig, cyflwynwraig deledu, model a gwraig fusnes Golombiaidd-Americanaidd.
Sofía Vergara | |
---|---|
Ganwyd | Sofía Margarita Vergara Vergara 10 Gorffennaf 1972 Barranquilla |
Man preswyl | Miami |
Dinasyddiaeth | Colombia, Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | model, actor ffilm, cyflwynydd teledu, actor teledu, cynhyrchydd teledu, actor llais, actor, cynhyrchydd ffilm |
Cyflogwr |
|
Taldra | 170 centimetr |
Tad | Julio Enrique Vergara Robayo |
Mam | Margarita Vergara Dávila De Vergara |
Priod | Joe Gonzalez, Joe Manganiello |
Partner | Unknown |
Gwobr/au | Screen Actors Guild Award for Outstanding Performance by an Ensemble in a Comedy Series, NAACP Image Award for Outstanding Supporting Actress in a Comedy Series, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
Gwefan | http://www.sofiavergara.com |
Roedd hi'n adnabyddus am gyd-gyflwyno dwy raglen deledu Sbaeneg ar rhwydwaith Univisión yn y 1990au hwyr. Ffilm o'r enw Chasing Papi (2003) oedd ei hymddangosiad sylweddol cyntaf yn y Saesneg. Aeth yn ei blaen i ymddangos mewn ffilmiau eraill, gan gynnwys Four Brothers (2005) a dwy ffilm Tyler Perry—Meet the Browns (2008) a Madea Goes to Jail (2009), yn derbyn enwebiad gwobr ALMA ar gyfer yr olaf. Trwy ei llwyddiant ar deledu, mae Vergara wedi ennill rolau mewn ffilmiau diwethaf megis The Smurfs (2011), New Year's Eve (2011), Happy Feet Two (2011), The Three Stooges (2012), Escape from Plant Earth (2013), Machete Kills (2013), Chef (2014), a Hot Pursuit (2015).
Serenna Vergara yng ngyfres ABC Modern Family fel Gloria Delgado-Pritchett, a derbyniodd enwebiadau am bedair gwobr Golden Globe, pedair gwobr Primetime Emmy, a saith gwobr Screen Actors Guild am ei pherfformiad. Yn 2014, rhestrwyd fel y 32ain merch fwyaf grymus yn y byd gan Forbes.