Michael Faraday
Cemegydd a ffisegydd o Loegr oedd Michael Faraday, FRS (22 Medi 1791 – 25 Awst 1867). Daeth Faraday o deulu tlawd ond Cristnogol, roedd yn aelod ac yn flaenor gyda'r sect Protestanaidd y Sandemaniaid, ac felly cyrhaeddod lefel uchel o lythrennedd am y cyfnod i blentyn mor dlawd. Gwasanaethodd wedyn am saith mlynedd fel prentis i rwymydd llyfrau. Felly roedd cyfle gwych ganddo i ddarllen llyfrau gwyddonol. Roedd ei dad yn of, ac felly roedd Michael yn fachgen digon alluog gyda theclynau ac ynni o'r dechrau.
Michael Faraday | |
---|---|
Ganwyd | 22 Medi 1791 Newington Butts, Llundain |
Bu farw | 25 Awst 1867 Palas Hampton Court, Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr |
Addysg | gradd er anrhydedd |
Galwedigaeth | ffisegydd, cemegydd, dyfeisiwr, llenor |
Cyflogwr | |
Prif ddylanwad | Humphry Davy, Jane Marcet |
Tad | James Faraday |
Mam | Margaret Hastwell |
Priod | Sarah Barnard |
Gwobr/au | Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Medal Copley, Medal Copley, Medal Brenhinol, Medal Rumford, Medal Albert, Bakerian Lecture, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America |
Drwy fynychu darlithoedd gwyddonol nosweithiau, fe gafodd gyfeillgarwch Humphry Davy, ac fe ddaeth i weithio i'r Royal Institution yn Llundain (ar y pryd yn gweithio fel adran gwyddoniaeth y Brifysgol). Dringodd yn gyflym i fod yn aelod llawn ac wedyn athro. Cyfranodd yn sylweddol i'r fyd Cemeg a Ffiseg, a Faraday oedd y gwyddonydd a ddarganfuwyd anwythiad electromagnetig, diamagnetedd ac electrolysis a'r cysyniad o faes magnetig. Creodd sylfeini y modur trydan. Daeth o hyd i gemegau newydd fel bensen, dechreuodd y syniad o rifau ocsidiad a'r termau anod, catod, electrod, ac ïon. Enwyd yr uned SI am gynhwysiant, Farad, ar ei ôl, a hefyd y cysonyn Faraday.
Er gwaethaf diffyg addysg prifysgol ffurfiol, fe ddaeth yn Athro Fullerian Cemeg, post a gadwodd hyd at ddiwedd ei oes.