Gorymdaith o gerbydau modurol yw modurgad. Gwelir yn aml mewn cynhebryngau, ac i gludo unigolion pwysig megis penaethiaid llywodraethau.

Modurgad ar gyfer cynhadledd o weinidogion tramor NATO yn Oslo.

Geirdarddiad

golygu

Cyfaddasiad o'r gair Saesneg motorcade yw "modurgad".[1] Bathwyd motorcade gan Lyle Abbot ym 1912 neu 1913 pan oedd yn olygydd ceir yr Arizona Republican. Ffurfiodd y gair ar sail cavalcade (mintai o farchogion neu geffylgad), gair Saesneg a ddaw o'r Ffrangeg ac yn y bôn o Ladin, gan iddo gamdybio taw ôl-ddodiad o'r ystyr "gorymdaith" yw -cade. Nid oedd y fath ôl-doddiad yn bodoli yn Ffrangeg neu Ladin, ond erbyn heddiw ôl-ddodiad cynhyrchiol yn y Saesneg yw -cade. "Erchyllter" yw'r gair yn ôl y geiriadurwr Eric Partridge, a "bathiad ffug" yn ôl y llenor Lancelot Hogben. Gwir ôl-ddodiad y gair cavalcade yw -ade.[2][3][4]

Cyfeiriadau

golygu
  1.  modurgad. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 28 Mehefin 2015.
  2. Valerie Adams (1973). Introduction to Modern English Word-formation. Longman. tt. 188–189.
  3. John Ayto (2006). "motorcade". Movers and Shakers. Oxford University Press US. t. 45. ISBN 9780198614524.
  4. Henry Louis Mencken, Raven Ioor McDavid, and David A. Maurer (1963). American Language: An Inquiry Into the Development of English in the United States. Knopf. t. 222.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: