Y weithred o gerdded yn drefnus i fan penodedig yw gorymdaith.[1]

Adloniant golygu

Mae gorymdeithio yn agwedd bwysig o draddodiadau diwylliannol a hamddenol megis y parêd a'r pasiant.

Crefydd golygu

Mae nifer o ddefodau Cristnogol yn cynnwys gorymdaith. Roeddent yn boblogaidd iawn yn yr Oesoedd Canol.[2][3] Mae rhai yn parhau hyd heddiw, er enghraifft yr orymdaith angladdol, neu 'gynhebrwng'.

Mae'r pererindod i ddinas sanctaidd Mecca, yr Hajj, yn cynnwys tri gorymdaith defodol: cerdded o amgylch y Kaaba, y daith 'nôl ac ymlaen rhwng bryniau Safa a Marwa, a'r daith o Mina i Fynydd Arafat. Yn ystod Oes Aur Islam bu'r awdurdodau gwleidyddol yn trefnu ac yn noddi gorymdeithiau er mwyn cysylltu'r llywodraeth â'r calendr Mwslimaidd a bywyd diwylliannol y bobl. Cynhaliwyd gorymdeithiau mawr i nodi Eid al-Fitr ac Eid al-Adha ar draws y byd Islamaidd, o al-Andalus i Swltaniaeth Delhi. Yn yr Oesoedd Canol Diweddar, trefnwyd gorymdeithiau gan siariffiaid Mecca i nodi pen-blwydd y Proffwyd Muhammad (Mawlid al-Nabi) ar hyd y ffordd o'r Kaaba i fan geni Muhammad gyda chanhwyllau a llusernau. Cynhaliwyd hefyd ym Mecca gorymdaith hwyliog, gyda cherddorion a rhyfelwyr, yn ystod mis Rajab. Dan lywodraeth y frenhinlin Fatimid yn yr Aifft, cefnogwyd gorymdeithiau Shïaidd, er enghraifft yng Ngŵyl Ghadir Khumm, yn ogystal â'r gorymdeithiau Swnnïaidd i ddathlu Ramadan, y flwyddyn newydd, a gwyliau eraill.[4]

Gwleidyddiaeth golygu

Un o'r ffyrdd mwyaf poblogaidd o brotestio neu i dynnu sylw at achos yw i orymdeithio fel rhan o wrthdystiad. Yn aml bydd gwrthdystwyr yn dal arwyddion a baneri sy'n dangos arwyddeiriau neu ddatganiadau tebyg wrth iddynt cerdded.

Y lluoedd arfog golygu

Mae gorymdeithio yn weithgaredd elfennol ym mywyd y milwr ac yn rhan o hyfforddiant sylfaenol y lluoedd arfog ar draws y byd. Yn aml mae milwyr yn gorymdeithio i gerddoriaeth yr ymdeithgan megis 'Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech'.

Cyfeiriadau golygu

  1.  gorymdaith. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 6 Medi 2014.
  2. (Saesneg) procession (religion). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Medi 2014.
  3. (Saesneg) "Processions", Catholic Encyclopedia.
  4. John Turner, "Processions, Religious" yn Medieval Islamic Civilization: An Encyclopedia, golygwyd gan Josef W. Meri (Efrog Newydd: Routledge, 2006), tt. 643–4.