Glyder Fawr
Mae'r Glyder Fawr yn fynydd yn Eryri, ac ar y ffin rhwng Gwynedd a Sir Conwy. Mae'n un o nifer o fynyddoedd dros 3,000 o droedfeddi yn y Glyderau, er ei fod un medr yn fyr o fod yn gopa 1,000 medr o uchder. Ceir creigiau mawr ar y copa, yn arbennig y casgliad o greigiau a elwir yn "Castell y Gwynt".
Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Eryri |
Rhan o'r canlynol | Parc Cenedlaethol Eryri |
Sir | Gwynedd, Conwy |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 1,000.9 metr |
Cyfesurynnau | 53.10147°N 4.029164°W |
Cod OS | SH642579 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 642 metr |
Rhiant gopa | Yr Wyddfa |
Cadwyn fynydd | Eryri |
Enw
golyguYn ôl Syr Ifor Williams, "Gludair" oedd y ffurf gywir ar yr enw. Aeth yn "Glydar" yn nhafodiaith Arfon, yna'n "Glyder". Yr ystyr yw "cruglwyth o gerrig".
Llwybrau
golyguY ffordd orau o gyrraedd y copa yw dilyn y llwybr o Lyn Ogwen at Lyn Idwal. Wedi mynd heibio Llyn Idwal mae'r llwybr yn dringo'n serth heibio'r Twll Du i gyrraedd tir gwastad ger Llyn y Cŵn. (Sylwer na ddylid ceisio dringo i fyny hafn y Twll Du heb raff.) Gellir troi i'r chwith yma a dilyn llwybr sy'n arwain i gopa'r Glyder Fawr ac yna ymlaen i'r Glyder Fach. Gellir dringo'r mynydd o Pen-y-Pass hefyd, neu gellir dringo Tryfan gyntaf ac yna dilyn y grib i'r Glyder Fach a'r Glyder Fawr, ond mae'r llwybr yma'n anoddach.
Gweler hefyd
golyguDolenni allanol
golygu- Golygfa o'r copa wedi ei gynhyrchu gan gyfrifiadur Tua'r gogledd Archifwyd 2007-03-12 yn y Peiriant Wayback Tua'r de Archifwyd 2007-03-12 yn y Peiriant Wayback Mynegai
Y pedwar copa ar ddeg |
---|
Yr Wyddfa a'i chriw:
Yr Wyddfa (1085m) · Garnedd Ugain (1065m) · Crib Goch (923m) |
Y Glyderau:
Elidir Fawr (924m) · Y Garn (947m) · Glyder Fawr (999m) · Glyder Fach (994m) · Tryfan (915m) |
Y Carneddau:
Pen yr Ole Wen (978m) · Carnedd Dafydd (1044m) · Carnedd Llywelyn (1064m) · Yr Elen (962m) · Foel Grach (976m) · Carnedd Gwenllian (Garnedd Uchaf) (926m) · Foel-fras (942m) |