Mohamed Morsi
Gwleidydd o'r Aifft oedd Mohamed Morsi (8 Awst 1951 – 17 Mehefin 2019). Roedd yn Arlywydd yr Aifft o 30 Mehefin 2012 hyd 3 Gorffennaf 2013, pan gafodd ei ddisodli gan coup milwrol yn dilyn protestiadau mawr ar y strydoedd yn erbyn ei lywodraeth Islamaidd.[1] Roedd yn arweinydd Plaid Rhyddid a Chyfiawnder, cangen wleidyddol y Frawdoliaeth Fwslimaidd yn yr Aifft. Morsi oedd yr arlywydd cyntaf i gael ei ethol yn ddemocrataidd yn yr Aifft.
Mohamed Morsi | |
---|---|
Ganwyd | 8 Awst 1951 El-Adwah |
Bu farw | 17 Mehefin 2019 o trawiad ar y galon Tora Prison |
Dinasyddiaeth | Brenhiniaeth yr Aifft, Republic of Egypt, Y Weriniaeth Arabaidd Unedig, Yr Aifft |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, peiriannydd, academydd, materials scientist |
Swydd | Llywydd yr Aifft, Secretary General of the Non-Aligned Movement |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Freedom and Justice Party |
Priod | Naglaa Mahmoud |
Plant | Abdullah Morsi |
Gwobr/au | Order of the Nile, Order of the Republic, Order of Merit, Order of Independence, Urdd y Rhinweddau |
Gwefan | https://www.morsi.info |
llofnod | |
Roedd wedi bod yn y ddalfa ers ei ddisodli. Yn Mehefin 2019 roedd yn y llys yng Nghairo yn ateb cyhuddiadiad o ysbïo. Ymgwympodd a bu farw yn ddiweddarach, mae'n debyg o drawiad ar y galon.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 'Lluoedd yr Aifft yn disodli Morsi', Golwg360, 4 Gorffennaf 2013.