Mohammed Nadir Shah

Mohammed Nadir Shah (10 Ebrill 18808 Tachwedd 1933) oedd brenin Affganistan o 1929 hyd ei farwolaeth yn 1933.

Mohammed Nadir Shah
Ganwyd9 Ebrill 1883 Edit this on Wikidata
Dehradun Edit this on Wikidata
Bu farw8 Tachwedd 1933, 9 Tachwedd 1933 Edit this on Wikidata
Kabul Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAffganistan Edit this on Wikidata
Galwedigaethdiplomydd, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddKing of Afghanistan, llysgennad Edit this on Wikidata
TadMuhammed Yusuf Khan Edit this on Wikidata
PriodMah Parwar Begum Edit this on Wikidata
PlantMohammed Zahir Shah Edit this on Wikidata
LlinachBarakzai dynasty Edit this on Wikidata

Roedd yn fab i Dost Mohammed a phennaeth byddin Amanullah Khan (Emir yn wlad ac yn ddiweddarach ei brenin) yn y Drydedd Ryfel Eingl-Affganaidd (1919 - 1922) a arweiniodd at ennill annibyniaeth lawn i Affganistan ar Brydain dan Gytundeb Rawalpindi yn 1922. Ond collodd ffafr yr emir a bu rhaid iddo ffoi i alltudiaeth yn Ffrainc.

Yn 1929, pan ymddeolodd Amanullah fel brenin y wlad, dychwelodd i Affganistan gyda chefnogaeth ddiplomyddol Prydain a chychwynodd ar raglen o ddiwygiadau economaidd a chymdeithasol. Ond, fel yn achos ei ragflaenydd, roedd elfennau ceidwadol yn anfodlon am hyn a chafodd Mohammed Nadir ei lofruddio gan asasin yn 1933. Fe'i olynwyd gan ei fab Mohammed Zahir Shah.

O'i flaen :
Amanullah Khan
Emiriaid Affganistan
Mohammed Nadir Shah
Olynydd :
Mohammed Zahir Shah