Montana
Mae Montana yn dalaith yng ngogledd-orllewin yr Unol Daleithiau, sy'n ffinio â Chanada. Montana yw'r bedwaredd fwayf o daleithiau'r Unol Daleithiau gyda arwynebedd tir o 377,070 km². Mae'n dalaith fynyddig iawn yn y gorlelwin lle ceir rhan o'r Rockies a choedwigoedd mawr; yn y dwyrain ceir tir gwelltog y Gwastadiroedd Mawr. Roedd Montana yn rhan o Bryniant Louisiana gan yr Unol Daleithiau yn 1803. Daeth nifer o ymsefydlwyr yno pan gafwyd hyd i aur yn y mynyddoedd ar ganol y 19g. Yn ystod y rhyfeloedd gan America yn erbyn yr Indiaid cafwyd nifer o frwydrau gan gynnwys Brwydr Little Bighorn yn 1876 pan orchfygwyd Seithfed Farchoglu George Armstrong Custer gan y Sioux a'r Cheyenne dan Sitting Bull. Helena, a ddechreuodd fel gwersyllfa i'r mwyngloddwyr aur o'r enw 'Last Chance Gulch', yw'r brifddinas.
![]() | |
![]() | |
Arwyddair | Oro y plata ![]() |
---|---|
Math | taleithiau'r Unol Daleithiau ![]() |
Enwyd ar ôl | mynydd ![]() |
Prifddinas | Helena ![]() |
Poblogaeth | 1,084,225 ![]() |
Sefydlwyd | |
Anthem | Montana ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Greg Gianforte ![]() |
Cylchfa amser | UTC−07:00, America/Denver ![]() |
Gefeilldref/i | Kumamoto ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | taleithiau cyfagos UDA ![]() |
Sir | Unol Daleithiau America ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 381,154 km² ![]() |
Uwch y môr | 1,035 metr ![]() |
Gerllaw | Clark Fork, Afon Flathead, Afon Jefferson, Afon Missouri, Flathead Lake, Fort Peck Lake, Whitefish Lake ![]() |
Yn ffinio gyda | British Columbia, Alberta, Saskatchewan, Gogledd Dakota, De Dakota, Wyoming, Idaho, Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin ![]() |
Cyfesurynnau | 47°N 110°W ![]() |
US-MT ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Government of Montana ![]() |
Corff deddfwriaethol | Montana Legislature ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Montana ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Greg Gianforte ![]() |
![]() | |

Dinasoedd Montana
golygu1 | Billings | 104,170 |
2 | Missoula | 66,788 |
3 | Great Falls | 58,505 |
4 | Butte | 34,200 |
4 | Helena | 28,190 |