Sioux
Defnyddir yr enw Sioux am nifer o grwpiau ethnig brodorol yn yr Unol Daleithiau. Rhennir hwy i dair prif adran:
- Isanti ("Cyllell", yn wreiddiol o enw llyn yn Minnesota): yn byw yn nwyrain taleithiau Gogledd a De Dakota, yn Minnesota a gogledd Iowa. Gelwir hwy yn aml yn Santee neu'n Dakota.
- Ihanktowan-Ihanktowana ("Pentref-yn-y-pen-draw" a "Pentref-bychan-yn-y-pen-draw", yn byw yn ardal Afon Minnesota. Ystyrir hwy fel y Sioux canol, ac yn aml gelwir hwy yn Yankton neu'n Dakota Gorllewinol.
- Teton ("Preswylwyr y Paith"): y Sioux mwyaf gorllewinol, yn enwog fel helwyr a rhyfelwyr; gelwir hwy yn Lakota.
Enghraifft o'r canlynol | grŵp ethnig, Brodorion Gwreiddiol America yn UDA, pobloedd brodorol Canada |
---|---|
Math | pobloedd brodorol yr Amerig, pobloedd brodorol Gogledd America |
Lleoliad | De Dakota, Minnesota, Gogledd Dakota, Montana |
Gwladwriaeth | Canada, Unol Daleithiau America |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Heddiw mae tua 150,000 o Sioux, gyda gwarchodfeydd iddynt yng Ngogledd a De Dakota, Minnesota, Nebraska, a Manitoba a de Saskatchewan yng Nghanada.
Sioux enwog
golyguHanesyddol
golygu- Taoyateduta (Little Crow) — Pennaeth yn ystod Rhyfel Dakota 1862
- Tatanka Lyotake (Sitting Bull) — Pennaeth yn ystod Brwydr Little Bighorn
- Gall (Pizi) — Pennaeth yn ystod Brwydr Little Bighorn
- Thasuka Witco (Crazy Horse) — Enwog am ei ddewrder a'i arweiniad mewn rhyfel
- Makhpiya-luta (Red Cloud) — Pennaeth yn ystod Rhyfel Red Cloud
- Tasunkakokipapi (Young Man Afraid Of His Horses) — Pennaeth Oglala yn ystod Rhyfel Red Cloud
- Ishtakhaba (Sleepy Eye) — Pennaeth y Sisseton yng nghanol y 19g
- Hehaka Sapa (Black Elk) — Dyn sanctaidd Lakota, ffynhonnell Black Elk Speaks a llyfrau eraill
- Tahca Ushte (Lame Deer) — Dyn sanctaidd Lakota
Diweddar
golygu- Robert "Tree" Cody, Canwr ffliwt (Dakota)
- Elizabeth Cook-Lynn, academig, awdur ac ymgyrchwr
- Mary Crow Dog, awdur ac ymgyrchwr
- Vine Deloria, Jr., awdur ac ymgyrchwr
- Illinois Jacquet, sacsoffonydd jazz
- Russell Means, ymgyrchwr (Oglala)
- Ed McGaa, awdur a pheilot US Marine Corp, (Oglala)
- Eddie Spears, actor (Lakota Sioux Lower Brule)
- Michael Spears, actor (Lakota Sioux Lower Brule)
- John Trudell, actor
- Floyd Red Crow Westerman, canwr ac actor (Dakota)
- Leonard Peltier, carcharwyd am ladd dau swyddog FBI yn 1975