George Armstrong Custer
Cadfridog ym myddin yr Unol Daleithiau oedd George Armstrong Custer (5 Rhagfyr 1839 – 25 Mehefin 1876).
George Armstrong Custer | |
---|---|
Ganwyd | 5 Rhagfyr 1839 New Rumley |
Bu farw | 25 Mehefin 1876 Big Horn County |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | swyddog milwrol |
Swydd | commander-in-chief |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Tad | Emanuel Henry Custer |
Priod | Elizabeth Bacon Custer |
llofnod | |
Ganed ef yn New Rumley, Ohio, yn fab i Emanuel Henry Custer (1806–1892) a Marie Ward Kirkpatrick (1807–1882). Aeth i Academi Filwrol West Point, lle graddiodd yn olaf o ddosbarth o 34 cadet yn 1861, yn fuan ar ôl i Ryfel Cartref America ddechrau. Ymladdodd mewn nifer o frwydrau gan wneud enw iddo'i hun fel arweinydd a hoffai ymosod. Dri diwrnod cyn Brwydr Gettysburg yn 1863, apwyntiodd y Cadfridog Pleasonton ef yn frigadydd dros dro. Nid oedd ond 23 oed; un o'r cadfridogon ieuengaf yn y fyddin. Bu ganddo ef a'i ŵyr ran bwysig ym muddugoliaeth Gettysburg.
Wedi diwedd y Rhyfel Cartref bu'n ymladd yn erbyn pobloedd brodorol y Gwastadeddau Mawr. Cafodd ei orchfygu a'i ladd ym Mrwydr Little Big Horn gan fyddin o ryfelwyr Sioux, Cheyenne ac Arapaho, dan arweiniad Thasuka Witco ("Crazy Horse"), Gall a Tatanka Lyotake ("Sitting Bull"), er nad oedd yr olaf yn bresennol ar faes y frwydyr.
Llyfryddiaeth
golygu- Stephen E. Ambrose, Crazy Horse and Custer: The Parallel Lives of Two American Warriors (Efrog Newydd: Anchor Books, 1996 [1975])