Morfa Harlech

morfa yn Harlech

Morfa yn ne Gwynedd yw Morfa Harlech, sy'n gorwedd ar lan Bae Ceredigion ger Harlech yn ardal Ardudwy. Mae rhan o'r morfa yn un o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol Cymru.

Morfa Harlech
Morfa Harlech a'r cyffiniau o gopa Moel Goedog
Mathmorfa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.87952°N 4.124578°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion
Rhai o dywynni Morfa Harlech.

Ffurfia Morfa Harlech driongl o dir tua 3 milltir ar draws rhwng y Traeth Bach ar lan Afon Dwyryd i'r gogledd, Bae Ceredigion i'r gorllewin a rhagryniau'r Rhinogydd i'r dwyrain, gyda thref Harlech i'r de a phentref Llanfihangel-y-traethau ar y cwr gogledd-ddwyreiniol. Rhed y briffordd A496 ar hyd yr ymyl dwyreiniol. Ceir traeth hir syth yno gyda nifer o dywynni tywodlyd y tu ôl iddo, sy'n ffurfio'r morfa ei hun. Mae rhannau o'r morfa yn dir amaethyddol.

Cadwraeth

golygu

Lleolir y Gwarchodfa Natur yng nghornel y gogledd-orllewin. Mae'n nodedig am ei flodau gwyllt sy'n cynnwys orchidau prin.

Yn ogystal, gyda Morfa Dyffryn mae Morfa Harlech yn Ardal Gadwraeth Arbennig.

Cynhaliwyd arolwg tymor hir 1978-2010 trwy fanteisio ar bwt o ffens a osodwyd am reswm arall. Fe ddarganfuwyd yn fuan iawn cyflwr hynod ddeinamig y twyni tywod dros y cyfnod.

 
Newid ar draeth GNG Morfa Harlech dros 30 mlynedd 1978-2010 (polyn mesur â saeth melyn)


  Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato