Ardudwy

ardal hanesyddol a chwmwd

Ardal hanesyddol yng Ngwynedd yw Ardudwy, a fu'n un o hen gantrefi teyrnas Gwynedd ac efallai'n fân-deyrnas annibynnol cyn hynny.

Ardudwy
Mathcwmwd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDunoding, Teyrnas Gwynedd Edit this on Wikidata
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.803°N 4.04°W Edit this on Wikidata
Map

Hanes a thraddodiadau golygu

Fel cantref canoloesol, daeth yn un o ddau gwmwd cantref Dunoding, gydag Eifionydd. Pan greuwyd yr hen siroedd yn 1284 cafodd ei gynnwys yn Sir Feirionnydd.[1] Yn y 14g collwyd ardal Nanmor i Sir Gaernarfon. Roedd Ardudwy yn ymestyn o'r Traeth Mawr yn y gogledd i Afon Mawddach yn y de. Ffiniai â chwmwd Eifionydd yn Dunoding ei hun, Arfon, a Nant Conwy yn Arllechwedd yn y gogledd. Yn y dwyrain rhannai ffin â chantref Penllyn ac yn y de â chwmwd Thal-y-bont yng nghantref Meirionnydd.[2]

Mae'n bosibl fod Ardudwy yn 'wlad' (teyrnas) annibynnol yn y Gymru gynnar. Túath yw'r gair Gwyddeleg sy'n cyfateb i 'wlad' / 'teyrnas' yn Gymraeg Canol; ei wraidd yw tud, 'gwlad, pobl'. Dyna a geir yn yr enw Ardudwy (ar + tud + -wy) a meddylir fod yr enw yn dynodi'r llwyth a fu'n byw yn yr ardal.[2]

Yn ddiweddarach cafodd Ardudwy ei rannu'n ddau gwmwd, gydag Afon Artro fel ffin rhyngddynt, sef Ardudwy Uwch Artro ac Ardudwy Is Artro (eto'n rhan o gantref Dunoding).[2]

Tir gwyllt a mynyddig yw Ardudwy, gyda mynyddoedd y Rhinogydd yn asgwrn cefn iddo. Roedd hen ffordd yn cysylltu Tomen y Mur a'r arfordir gan redeg trwy fwlch Drws Ardudwy. Eithriad yw'r gwastadeddau ar hyd yr arfordir lle ceir yr unig drefi o bwys heddiw. Er na fu erioed yn ardal gyfoethog mae'n llawn hanes a hynafiaethau. Yn Harlech yn Ardudwy mae llys Bendigeidfran yn Ail Gainc y Mabinogi. Ystumgwern, Is Artro, oedd maerdref y cwmwd.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. John Edward Lloyd, A History of Wales (1911).
  2. 2.0 2.1 2.2 Geraint Bowen (gol.), Atlas Meironnydd (Y Bala, 1975).

Dolen allanol golygu